Camau wedi'u cymryd i wneud ardaloedd chwarae'n fwy cynhwysol
Mae byrddau cyfathrebu newydd ar gyfer plant ac oedolion sy'n defnyddio iaith arwyddion yn cael eu gosod ym mhob ardal chwarae yn Abertawe.

Byddant yn ategu at fyrddau sy'n seiliedig ar symbolau sydd hefyd yn cael eu gosod i helpu pobl o bob oedran y mae angen cefnogaeth gyfathrebu ychwanegol arnynt gan roi'r cyfle iddynt gael eu deall a mynegi eu hunain.
Y nod yw gwneud yr ardaloedd chwarae mor hygyrch a chroesawgar â phosib ar gyfer pawb sy'n eu defnyddio.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Abertawe'n buddsoddi £7m mewn uwchraddio a gwella'r holl ardaloedd chwarae sy'n eiddo i'r cyngor.
Garnswllt yw un o'r 50 o ardaloedd chwarae sydd wedi cael eu cwblhau hyd yn hyn, a chysylltodd deulu lleol â'r cyngor ar ôl gweld y byrddau cyfathrebu i ofyn a fyddai modd datblygu rhywbeth tebyg ar gyfer plant sy'n defnyddio iaith arwyddion.
Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Bydd y byrddau hyn yn rhoi'r cyfle i blant ac oedolion y mae angen cefnogaeth arnynt wrth gyfathrebu a phobl fyddar ddeall a mynegi eu hunain wrth ddefnyddio ein hardaloedd chwarae."
Mae'r teulu wedi cymeradwyo'r syniad, a rhoddodd y fam ddiolch i'r cyngor gan ddweud, "Mae'n debyg ei fod yn rhywbeth bach i'r sir ond bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blant sy'n debyg i fy mhlentyn i."