Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi datblygiad cynaliadwy

Mae polisi datblygiad cynaliadwy corfforaethol y cyngor yn pennu canllawiau sy'n helpu gwasanaethau i gyflwyno canlyniadau cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau.

Gweledigaeth
Ymagwedd
Nodau
Meysydd blaenoriaeth
Cyflwyno

 

Gweledigaeth

Mae Abertawe gynaliadwy'n lle gwych i fyw ynddo nawr ac yn y dyfodol. Rhywle sy'n gynhwysol ac yn ddiogel ac sy'n rhoi dechrau da mewn bywyd. Sir sy'n cefnogi economi ffyniannus a chadarn, sy'n cydnabod ac yn manteisio'n llawno ar ei hamgylchedd wych ac sy'n hyrwyddo iechyd da.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i'r cyngor ddarparu gwasanaethau sy'n creu cymunedau gwyrddach, mwy diogel a mwy ffyniannus. Bydd gwaith partneriaeth yn y gymuned â chyda chydweithwyr yn y sector busnes, cyhoeddus a gwirfoddol yn hanfodol.

Mae Dinas a Sir Abertawe yn diffinio datblygu cynaliadwy fel a ganlyn:

""Datblygu sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain."
                                      (Bruntland 1987)

Ymagwedd

Mae'r cyngor yn ymroddedig i fuddsoddi yn nyfodol y sir drwy ddatblygu a chefnogi cymued sy'n seiliedig ar ddatblygu cynaliadwy. Ei nod yw sicrhau bod ei holl weithredoedd a'i bolisïau'n gynaliadwy, drwy integreiddio nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, gan ddilyn amcanion Strategaethau'r Gymuned. Byddwn yn ystyried y canlynol ym mhopeth rydym yn ei wneud:

  • Penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd
  • Gweithredu o fewn cyfyngiadau amgylcheddol
  • Meddwl tymor hir
  • Cydnabod ein gweithredoedd mewn cyddestun cenedlaethol a byd-eang

Nodau

Bydd peidio â chyflawni'r weledigaeth hon yn gostus yn economaidd ac yn gymdeithasol i gymunedau Abertawe, a bydd yn cael effaith ar berfformiad y cyngor. Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni'r heriau hyn, bydd angen iddo ddefnyddio'r egwyddorion canlynol:

  • Datblygu arweinyddiaeth glir er mwyn caniatáu meddwl a chynllunio strategol gwell.
  • Mabwysiadu datblygu cynaliadwy fel un o egwyddorion trefnu canolog y cyngor.
  • Ymroddiad gan yr holl staff trwy'r cyngor i gynnwys egwyddorion datblygu cynaliadwy yn eu gwaith.
  • Newid y diwylliant gweithio i un sy'n seiliedig ar feddwl tymor hir, ac sy'n ystyried costau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.
  • Datblygu arferion gwaith callach gan gynnwys ystyried atebion traws-ffiniol.
  • Rhoi anghenion y gymuned, nawr ac yn y dyfodol, yng nghanol y broses benderfynu.
  • Ystyried yr amrywiaeth eang o effeithiau a materion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ym mhopeth rydym yn ei wneud yn seiliedig ar dystiolaeth dda.
  • Hyrwyddo egwyddorion cymdeithas deg, cydlyniant cymdeithasol a dinasyddiaeth dda yn lleol ac yn fyd-eang.
  • Cynyddu cynnwys a chyfranogiad y gymuned.
  • Gwaith partneriaeth effeithiol gyda sefydliadau eraill a'r awdurdod.

Meysydd blaenoriaeth

Mae'r testunau canlynol yn feysydd blaenoriaeth i'r cyngor. Mae pob maes blaenoriaeth yn berthnasol i amrywiaeth o feysydd gwasanaeth gwahanol:

Meysydd blaenoriaeth
Maes blaenoriaethGwasanaethau allweddol
Amgylcheddol naturiol
  • Adfywio economaidd a chynllunio
  • Diwylliant a thwristiaeth
  • Gwasanaethau adeiladu ac eiddo corfforaethol
  • Amddiffyn y cyhoedd
Defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol
  • Adfywio economaidd a chynllunio
  • Gwasanaethau adeiladu ac eiddo corfforaethol
  • Cludiant
  • Strydlun
Newid yn yr hinsawdd / datgarboneiddio
  • Adfywio economaidd a chynllunio
  • Gwasanaethau adeiladu ac eiddo corfforaethol
  • Cludiant
  • Diwylliant a thwristiaeth
  • Perfformiad a phrosiectau strategol
  • Tai ac adfywio cymunedau
  • Cyllid
Cynhwysiad cymdeithasol
  • Gwasanaethau plant a theuluoedd
  • Gwasanaethau i oedolion
  • Cynhwysiad addysg
  • Addysg ac adnoddau chynllunio
  • Effeithiolrwydd addysg
  • Tai ac adfywio cymunedau
Gwydnwch economaidd
  • Adfywio economaidd a chynllunio
  • Gwasanaethau cyfreithiol, democrataidd a chaffael
  • Cyllid
  • Perfformiad a phrosiectau strategol
Llywodraethu
  • Gwasanaethau cyfreithiol, democrataidd a chaffael
  • Cyllid
  • Perfformiad a phrosiectau strategol
  • Cyfathrebu, marchnata, trosolwg a chraffu
  • Adnoddau dynol a datblygu trefniadaethol
  • Gwybodaeth, gwasanaethau cwsmeriaid a datblygu Oracle
Caffael
  • Gwasanaethau cyfreithiol, democrataidd a chaffael
  • Perfformiad a phrosiectau strategol
  • Gwybodaeth, gwasanaethau cwsmeriaid a datblygu Oracle

Cyflwyno

Cyflwynir y polisi gan y cyngor cyfan trwy bolisïau a strategaethau corfforaethol a darpariaeth rheng-flaen. Cefnogir y gwaith hwn gan wasanaethau'r cyngor gan y Fframwaith Datblygu Cynaliadwy corfforaethol. Mae'r Fframwaith Datblygu Cynaliadwy'n ddogfen ategol sy'n darparu gwaybodaeth am ddatblygu cynaliadwy a'r hyn y mae'n ei olygu i'r cyngor yng nghyd-destun ysgogwyr cenedlaethol a lleol. Mae'n dathlu'r hyn rydym yn ei wneud yn dda ac yn cyflwyno cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer gwelliannau i gyflawni gweledigaeth a nodau'r Polisi Datblygu Cynaliadw. Caiff y cynllun gweithredu ei adolygu'n flynyddol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Hydref 2022