Polisi enwi
Polisi ar gyfer enwi adeiladau, cyfleusterau, a mannau mewnol neu allanol adnabyddadwy.
I ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat neu iaith arall, ffoniwch 01792 636000 neu e-bostiwch cyswllt@abertawe.gov.uk
Cynnig Enwi - Ffurflen Gyflwyno (Word doc, 39 KB)
1. Diben
1.1 Diben y polisi hwn yw diffinio'r broses o enwi adeiladau, cyfleusterau a mannau mewnol neu allanol adnabyddadwy Cyngor Abertawe, a'r meini prawf y dylid eu hystyried ar gyfer unrhyw enw i alluogi'r cyngor i wneud penderfyniadau clir, cyson a chall.
1.2 Mae'r polisi hwn yn ceisio cadw cymaint o hyblygrwydd â phosib yn y broses enwi fel y gellir ymdrin â chyfleoedd enwi fesul achos.
1.3 Gall cyfle enwi fod yn achlysur i ymgysylltu â staff, dinasyddion a chymunedau i wella'r berthynas sydd gan y cyngor â'r ddinas a'r cyfraniad a wnawn at amrywiaeth yn Abertawe.
1.4 Mae enwi mannau sy'n eiddo i'r cyngor a/neu a reolir gan y cyngor yn cyflawni nifer o ddibenion, gan gynnwys:
- anrhydeddu unigolion am gyflawniad a chyfraniad rhagorol.
- adlewyrchu a dathlu hanes a threftadaeth Abertawe.
2. Cwmpas
2.1 Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob adeilad, cyfleuster, a mannau mewnol neu allanol adnabyddadwy y gellir eu henwi sy'n eiddo i Gyngor Abertawe a/neu a reolir gan Gyngor Abertawe. Nid yw'r polisi hwn yn ymwneud ag enwi unrhyw ffyrdd, llwybrau cerdded a beicio neu strydoedd/cul-de-sacs ym mherchnogaeth tir y cyngor. Mae'r rhain wedi'u cynnwys mewn polisi ar wahân.
2.2 Gall yr ardaloedd y cyfeirir atynt gynnwys adeiladau, ystafelloedd neu fannau adnabyddadwy eraill (dan do ac awyr agored). Gyda'i gilydd, cyfeirir at y rhain drwy gydol y polisi hwn fel 'mannau'.
2.3 Dylai rhai cyfyngiadau ynghylch y math o adeiladau/gwasanaethau y dylid eu heithrio o'r polisi hwn fodoli ar sail amrywiol, gan ystyried sefyllfaoedd penodol wrth iddynt godi, gan gynnwys anghenion sensitif a chymhleth y gwasanaeth.
2.4 Nid yw cwmpas y polisi hwn yn cynnwys eiddo preswyl, cartrefi gofal, cartrefi preswyl i blant na llety cyfatebol a reolir gan Gyngor Abertawe a/neu sy'n eiddo i Gyngor Abertawe. Yn unol â pholisi cyd-gynhyrchu Cyngor Abertawe, bydd enwau'r mathau hyn o adeiladau yn cael eu cyd-gynhyrchu â phreswylwyr/defnyddwyr y ddarpariaeth honno.
2.5 Mae'r polisi hwn yn berthnasol i staff ac aelodau sy'n rhan o'r broses sefydlu enwau mannau adnabyddadwy sy'n eiddo i Gyngor Abertawe a/neu a reolir gan Gyngor Abertawe.
2.6 Mae enwi (neu newid enw) man sy'n eiddo i'r cyngor a/neu a reolir ganddo'n gofyn am ystyriaeth ofalus yn unol â'r polisi hwn ac ni ddylai fod yn seiliedig ar deimlad cryf, naill ai gan unigolyn neu grŵp, a allai leihau dros amser.
2.7 Gall cynigion enwi gynnwys cydnabyddiaeth o ddigwyddiadau arwyddocaol.
2.8 Dylid nodi ymchwil a gwaith a wneir o dan y polisi hwn o fewn yr ystorfa sy'n bodoli o dan y cynllun Placiau Glas, gan ychwanegu at y banc gwybodaeth canolog hwnnw.
2.9 Mae enwi lle yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn drylwyr, yn ofalus ac ar ôl diwydrwydd dyladwy priodol, gan ystyried y canlynol:
- costau arwyddion newydd.
- costau diweddaru mapiau, pamffledi, gwefannau a dogfennaeth arall.
- y dryswch posib sy'n deillio o'r angen i ailgyfeirio staff ac ymwelwyr.
- y nifer gymharol fach o gyfleoedd ar gyfer enwi.
- effeithiau unrhyw enwau ar enw da'r cyngor, mewn ffordd gadarnhaol a negyddol.
- anawsterau ailenwi ardaloedd o fewn systemau adeiladu (megis systemau cynnal a chadw, labelu gwifrau, cofnodion cynnal a chadw, tystysgrifau cydymffurfiaeth, cofnodion cyrff statudol a systemau electronig y tu hwnt i reolaeth y cyngor).
- cefnogi a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg lle bo hynny'n berthnasol.
3. Egwyddorion
3.1 Rhaid i enwau fod yn eglur ac yn syml, a'u bod yn cynorthwyo lleoliad a symudiad o amgylch ystâd y cyngor.
3.2 Dylai enwau fod yn unigryw, ac ni ddylid ailddefnyddio enwau a ddefnyddir ar gyfer mannau sydd eisoes yn eiddo i'r cyngor.
3.3 Dylai enwau enwebedig wella brand y cyngor, gan sicrhau bod enwau'n cyd-fynd â nodau, gwerthoedd ac amcanion Cyngor Abertawe.
3.4 Ni ddylid enwi lleoedd fel arfer ar ôl cwmnïau, elusennau nac ymddiriedolaethau.
3.5 Fel arfer, dylai'r enwebai fod wedi marw ers pum (5) mlynedd o leiaf, ond mewn amgylchiadau eithriadol gellir cydnabod y person sydd yn fyw o hyd.
3.6 Dylai unrhyw gynigion i enwi mannau ar ôl unigolion fod yn seiliedig ar gyfraniad sylweddol i fywyd cyhoeddus a dylid dangos cysylltiad yr unigolyn ag Abertawe â thystiolaeth glir.
3.7 Dylid defnyddio enwau staff neu aelodau Cyngor Abertawe dan amgylchiadau eithriadol a dim ond pan fydd yr unigolion yn gysylltiedig â newid mawr o fewn y cyngor neu oherwydd cyflawniad rhagorol. Disgwylir i achosion o'r fath fod yn amlwg fel rhan o gofnod hanesyddol y cyngor.
3.8 Dylai'r cynnig ddangos cefnogaeth allanol a/neu fewnol y tu hwnt i'r cynigydd uniongyrchol.
3.9 Pan fydd adeilad wedi'i enwi ar ôl person, dylid ystyried y canlynol:
- mynd i'r afael ag unrhyw anghydbwysedd o ran cynrychioli amrywiaeth y cyngor a Dinas a Sir Abertawe.
- a allai enw person, er ei fod yn gysylltiedig yn gryf ac yn arwyddocaol ag Abertawe, fod yn llai arwyddocaol yn y dyfodol.
- amgylchiadau yn y dyfodol lle gallai'r enw ddod yn llai priodol neu fuddiol.
4. Proses
4.1 Bydd y broses yn dechrau gydag awgrym am enw a allai ddeillio o adran, aelodau'r cyhoedd, Aelodau, swyddogion, etc., a dylai unrhyw gynnig a wneir amlinellu'r rhesymau/rhesymeg yn ysgrifenedig ar dempled y ffurflen gynigion.
4.2 Cyn symud ymlaen ymhellach, bydd angen i noddwr (Pennaeth Gwasanaeth a/neu Arweinydd Grŵp Gwleidyddol) gytuno i symud y cynnig yn ei flaen.
4.3 Dylid nodi'r lle sydd i'w enwi a'r enw arfaethedig yn glir.
4.4 Os mai'r bwriad yw defnyddio enw unigolyn ymadawedig, dylai'r cynigydd roi manylion unrhyw berthnasau byw y dylid trafod y cynnig gyda nhw, os yw'n bosib.
4.5 Dylai'r cynigydd/noddwr hefyd ystyried ac adrodd am unrhyw ddadlau sylweddol ynghylch yr enw, a allai roi'r cyngor dan anfantais, a hefyd ar unrhyw fuddion cadarnhaol y gallai enwi'r man eu cyflwyno.
4.6 Bydd y cynigydd/noddwr yn gyfrifol am ymgynghori â'r adrannau sy'n defnyddio'r man neu'r adeilad, ac â Phennaeth y Gwasanaeth cysylltiedig (gan gynnwys Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo a/neu'r rheolwr asedau perthnasol) a'r Tîm Rheoli Corfforaethol (TRhC).
4.7 Bydd haneswyr ac archifwyr a enwebwyd gan y cyngor yn rhoi cyngor i'r TRhC, fel y gall y TRhC wneud sylwadau ar y cynnig.
4.8 Ar ôl ymgynghori â'r Tîm Rheoli Corfforaethol (TRhC) am gyngor/ardystiad, dylid cyflwyno adroddiad i Weithgor y Cyfansoddiad i'w ystyried.
4.9 Bydd y cyfrifoldeb am adroddiadau unigol (a'r AEI cysylltiedig) yn cael ei benderfynu gan y TRhC fesul achos. Efallai y bydd elfennau ar y cyd o ran adrodd rhwng arweinwyr technegol a rheolwyr asedau ar adegau.
4.10 Os caiff ei gefnogi gan Weithgor y Cyfansoddiad, cyflwynir adroddiad i'r cyngor er mwyn gwneud penderfyniad terfynol.
4.11 Felly, dyma gamau'r broses benderfynu:
- a) Y noddwr yn cyflwyno ffurflen gynigion i'r TRhC.
- b) Adroddiad i Weithgor y Cyfansoddiad am gefnogaeth ac argymhelliad i'r cyngor.
- c) Adroddiad i'r cyngor ar gyfer penderfyniad enwi terfynol.
4.12 Os na chytunir ar argymhelliad yng Ngweithgor y Cyfansoddiad, bydd y cynnig yn methu ac ni fydd yn symud ymlaen i'r cyngor. Y dymuniad fyddai sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i unrhyw gynigion ond gellir penderfynu'n dilyn pleidlais mwyafrif os na ellir cael penderfyniad unfrydol.
4.13 Nid oes gan gynigydd hawl i apelio os na ellir dod o hyd i noddwr i gefnogi'r cynnig neu os bydd Gweithgor y Cyfansoddiad yn penderfynu peidio â chefnogi'r cynnig.
5. Ailenwi
5.1 Efallai y bydd amgylchiadau lle mae achos i wneud hynny neu os oes cyfle'n codi i ailenwi lle.
5.2 Dylai ailenwi fod yn ddigwyddiad eithriadol, gan ystyried unrhyw newidiadau sylweddol mewn ymwybyddiaeth gymdeithasol neu ddiwylliannol.
5.3 Pan fydd enw'n cael ei newid neu ei ddileu, dylai'r cyngor sicrhau nad yw cael gwared arno'n dileu hanes o ganlyniad nac yn newid unrhyw gofnodion hanesyddol cysylltiedig.
6. Adolygu a Monitro
6.1 Efallai y bydd amgylchiadau lle gallai fod er budd gorau'r cyngor i ystyried dirymu neu addasu hawliau enwi a roddwyd yn flaenorol.
6.2 Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i ddileu neu newid enwau lleoedd os yw'r rhesymeg yn glir. Gallai hyn fod oherwydd symudiadau adrannol, neu os bydd enw'n dod yn annymunol. Ni wneir penderfyniad am ddymunoldeb enw'n hawdd, a byddai angen i'r seiliau dros ei ddileu neu ei newid fod yn sylweddol.
6.3 Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i adolygu a diwygio enwau unrhyw le y mae wedi'i gymeradwyo os daw gwybodaeth i'r amlwg wedi hynny sy'n golygu y gallai defnyddio'r enw ddwyn anfri ar y cyngor.
6.4 Adolygir y polisi hwn yn rheolaidd.