Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi gwasanaeth y gaeaf

Mae'r polisi hwn yn nodi ymagwedd Dinas a Sir Abertawe ar gyfer gwasanaeth cynnal a chadw'r priffyrdd yn ystod y gaeaf.

  1. Cyflwyniad
  2. Cyfrifoldebau
  3. Blaenoriaethau
  4. Gwybodaeth am y tywydd
  5. Adnoddau
  6. Halen craig
  7. Biniau graean
  8. Gweithredu
  9. Gweithio ar y cyd

Cyflwyniad

Mae'r polisi hwn yn nodi ymagwedd Dinas a Sir Abertawe ar gyfer gwasanaeth cynnal a chadw'r priffyrdd yn ystod y gaeaf.

Mae gweithrediadau gwasanaeth y gaeaf ar rwydwaith ffyrdd Dinas a Sir Abertawe wedi'u seilio ar yr egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn adran gwasanaeth y gaeaf yn y llyfr 'Well Maintained Highways - Code of Practice for Highway Maintenance Management' a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2005, a'r diwygiadau dilynol, ac eithrio'r rhai a nodir isod. 

Nid yw'r Atodiad H presennol am wasanaeth y gaeaf wedi'i fabwysiadu. Yn dilyn sylwadau a phryderon gan nifer o ddarparwyr gwasanaethau'r gaeaf yn genedlaethol, cynhelir adolygiad gan Grŵp Ymchwil Cenedlaethol Gwasanaeth y Gaeaf (NWSRG) a ddatblygodd yr arweiniad. Felly, mae'n debygol y ceir diwygiad i'r ddogfen hon o fewn y 12 mis nesaf.

Felly, ynghyd â phob awdurdod lleol arall yng Nghymru, nid ydym yn bwriadu mabwysiadu'r arweiniad hwn yn llawn tan i'r adolygiad gael ei gwblhau. Bydd yr awdurdod hwn yn parhau i gyfrannu at yr adolygiad drwy ei adborth a gyflwynir drwy Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru.

Cyfrifoldebau

Mae Dinas a Sir Abertawe, yn ei rinwedd fel awdurdod priffyrdd, yn gyfrifol am weithgareddau gwasanaeth y gaeaf ar yr holl ffyrdd mabwysiedig o fewn ei ffiniau (ac eithrio'r M4).

Mae'r Cyfarwyddwr Lleoedd wedi datganoli'r weithred o gynllunio a chyflwyno gwasanaeth y gaeaf i Bennaeth y Gwasanaeth drwy'r Arweinydd Grŵp Gwaith Cymdogaethau.

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi rhoi polisi a chynllun gwasanaeth y gaeaf ar waith er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, na fydd teithio ar hyd ei briffyrdd yn beryglus oherwydd eira neu iâ, yn unol â'r ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003.

Caiff y Polisi Gwasanaeth y Gaeaf hwn ei adolygu a'i gymeradwyo'n ffurfiol gan Bennaeth y Gwasanaeth bob blwyddyn.

Mae prif gyfnod gwasanaeth y gaeaf yn dechrau o wythnos gyntaf mis Tachwedd ac yn parhau am 20 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gweithwyr ar gael wrth gefn a'r tu allan i'r cyfnod hwn mae trefniadau gweithio hyblyg ar waith.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau Cymru'n cydweithredu o ran rhagweld y tywydd a chaffael graean ar gyfer darparu gwasanaeth y gaeaf.

Blaenoriaethau

Mae Dinas a Sir Abertawe'n graeanu oddeutu 43%o ffyrdd yr awdurdod ymlaen llaw. Nid oes adnoddau digonol i drin yr holl ffyrdd, felly blaenoriaethir y rhwydwaith ffyrdd. Mae gwybodaeth am y llwybrau hyn ar gael i'r cyhoedd ar: Graeanu map llwybr

Y Rheolwr Priffyrdd ar Ddyletswydd sy'n gyfrifol am benderfynu, yn unol â'r nodiadau arweiniad gweithredol, am unrhyw gamau gweithredu y mae eu hangen.

Cynhelir y gwaith blaenoriaeth gyntaf gwasanaeth y gaeaf ar lwybrau strategol, prif ffyrdd dosbarthu, ffyrdd dosbarthu eilaidd a ffyrdd cyswllt. Hefyd, rhoddir blaenoriaeth i lwybrau mynediad depos y gwasanaethau brys. Mae'r prif lwybrau bysud hefyd yn cael eu trin ac ymgynghorir â'r cwmnïau bysus yn flynyddol ynglŷn â hyn. Caiff unrhyw sefyllfa sy'n cynnwys perygl i fywyd flaenoriaeth dros y polisi hwn.

Pe bai rhagolygon o eira trwm, caiff dau lwybr graeanu eilaidd ychwanegol eu cyflwyno fel bo'r angen, ac os yw'r adnoddau'n caniatáu.

Caiff ardaloedd i gerddwyr a llwybrau troed eu trin yn adweithiol pan fo angen yn unig ac yn dilyn archwiliadau amser go iawn. Nid yw adnoddau'n caniatáu graeanu troedffyrdd/meysydd parcio'n rheolaidd, hyd yn oed mewn mannau gyda llawer o gerddwyr neu er enghraifft, mewn safleoedd bysus. Cynhelir archwiliadau mewn sampl o ardaloedd ar draws yr awdurdod yn ôl disgresiwn y Rheolwr ar Ddyletswydd. Dewisir yr ardaloedd hyn er mwyn rhoi trosolwg da o amodau'r troedffyrdd ar draws y rhwydwaith. Cofnodir yr archwiliadau ar y system rheoli priffyrdd.

Pan fydd angen clirio eira, fe'i blaenoriaethir ar sail angen, a bydd yn canolbwyntio ar drin rhwydwaith llai o lwybrau strategol, ysbytai a gwasanaethau brys eraill a phrif gyfnewidfeydd cludiant. 

Os bydd llawer o eira dros gyfnod estynedig o amser, pennir blaenoriaethau'n ddyddiol. Caiff grŵp gweithredu ei sefydlu yn Nepo Clydach a fydd yn cydlynu'r gweithlu, yn comisiynu adnoddau ychwanegol ar gyfer clirio eira ac yn ymateb i'r cyhoedd yn unol â'r lefel briodol o'r Cynllun Parhad Busnes Cadernid y Gaeaf. Rhoddir blaenoriaeth i glirio eira o droedffyrdd yn y canolfannau dinesig yn gyntaf.

Gwybodaeth am y tywydd

Derbynnir rhagolwg tywydd dyddiol gan gontractwr meteorolegol y cyngor am y cyfnod rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill. Darperir yr wybodaeth hon at ddibenion gweithredu ar gyfer graeanu ffyrdd.

Cyflwynir gwybodaeth am y tywydd ac unrhyw gamau gweithredu ar y rhyngrwyd ar gyfer cyflwyno gwybodaeth i'r cyhoedd: Llifogydd a thywydd garw Hefyd caiff yr wybodaeth ei chyflwyno ar Twitter.

Mae'r Rheolwr ar Ddyletswydd ar alw 24 awr y dydd ac mae'n gallu derbyn diweddariadau 24-awr mewn amser go iawn, pe bai rhybuddion yn cael eu cyhoeddi.

Ar ôl derbyn rhagolwg, bydd y Rheolwr ar Ddyletswydd yn diweddaru unrhyw gamau gweithredu a drefnwyd.

Mae'r awdurdod wedi gosod Gorsafoedd Gwybodaeth Tywydd a Ffyrdd Icecast gan Vaisala mewn 4 lleoliad:

  1. Rhodfa'r Gors, Townhill
  2. Y B4247/Heol Monksland, Scurlage
  3. Heol-y-Mynydd, Garnswllt
  4. Yr A4067, Heol Castell-nedd, Treforys

Caiff y gorsafoedd hyn eu gwasanaethu, eu cynnal a'u graddnodi'n flynyddol gan Vaisala. Gwneir gwiriadau graddnodi o bell hefyd yn ystod tymor y gaeaf. Bellach, fel rhan o 'Rhwydwaith Cymru Gyfan - Contract Rhagolygon Tywydd', mae gan yr awdurdod fynediad at ddata tywydd o orsaf dywydd Llywodraeth Cymru ar yr M4 yn 'Felindre'.

Adnoddau

Bydd 6 rheolwr a 6 goruchwyliwr ar gael 24 awr y dydd ar sail cylchdro 6 wythnos.

Mae gennym chwe graeanwr a dau gerbyd wrth gefn â chânt eu cynnal ar lefel weithredol.

Mae 2 raeanwr 'tryc agored' HilHip ar gael ar gyfer mannau anodd eu cyrraedd.

Mae'r holl gerbydau graeanu wedi'u graddnodi.

Darperir y gwasanaeth trwsio a chynnal a chadw cerbydau brys gan yr Uned Trafnidiaeth Ganolog. Mae'r holl gerbydau arbenigol yn cael eu graddnodi a'u monitro gan Econ UK Ltd.

Defnyddir dau raeanwr ag ôl-gerbyd, ynghyd â graeanwyr tebyg i whilber a gaiff eu gwthio â llaw i raeanu ardaloedd mawr o droedffyrdd i gerddwyr pan fo angen.     

Caiff yr ôl-gerbydau graeanu eu defnyddio ar sail adweithiol.

Caiff yr holl droedffyrdd eu graeanu ar sail adweithiol.

Bydd holl gerbydau gyrru 4 olwyn yr awdurdod yn cael eu rheoli gan yr Uned Trafnidiaeth Ganolog a'u defnyddio mewn amodau argyfwng, fel bo'r angen.

Halen craig

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod lefel gadernid o 1.5 x defnydd cyfartalog dros y 6 mlynedd flaenorol. Mae hyn gyfwerth â 4,200 o dunelli wrth gefn.

Mae Dinas a Sir Abertawe'n gallu storio 1,200 o dunelli yn Nepo'r Priffyrdd, Ystâd Ddiwydiannol Players, Clydach. Yn ogystal, caiff stôr strategol o 4,800 o dunelli ei gadw yn Heol Alamein, Glandŵr. Mae hyn yn fwy na'r lefelau argymelledig.

Cyflenwir halen trwy'r Contract Fframwaith Halen Cymru Gyfan

Mae Dinas a Sir Abertawe wedi cofrestru mewn egwyddor i stôr strategol Cymru gyfan sy'n rhoi cadernid ychwanegol ar ben stoc Dinas a Sir Abertawe.

Pan fydd amodau gaeafol difrifol estynedig, bydd yr awdurdod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru o ran y stoc halen er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol a bydd hefyd yn cydweithio ag awdurdodau priffyrdd eraill.

Nid oes gofyniad statudol i ddarparu halen i ddefnyddwyr eraill, ond serch hynny, mae'r awdurdod wedi sefydlu cysylltiadau ag asiantaethau eraill ac adrannau mewnol a byddant yn darparu halen am gost, ar yr amod nad oes risg i'r cyflenwadau y mae eu hangen ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd. Cysylltir â gwasanaethau eraill y cyngor yng nghanol yr haf a chynigir cymorth iddynt o ran caffael ar gyfer y gaeaf. Nid yw gwasanaeth y gaeaf yn gyfrifol am ailgyflenwi cyfleusterau/ysgolion etc yn ystod tywydd gwael, ond byddant yn helpu pan fydd adnoddau'n caniatáu iddynt wneud hynny.

Pe bai'r cyflenwadau halen dan fygythiad, mae'r gwasanaeth wedi gosod lefelau isaf a phan gyrhaeddir y pwynt hwnnw caiff defnydd adweithiol o halen neu ddefnydd nad yw'n hanfodol ei atal.*

  • 800 o dunelli: rhoi'r gorau i gyflenwi adrannau eraill a pheidio ag ail-lenwi biniau graean.
  • 500 o dunelli: rhoi'r gorau i gyflenwi ysbytai ac amlosgfeydd.
  • 300 o dunelli: rhoi'r gorau i raeanu adweithiol a lleihau cyfraddau graeanu cymaint â phosib.

*Caiff hyn ei adolygu trwy gydol cyfnod y gaeaf a gall defnydd o halen nad yw'n hanfodol gael ei rwystro cyn cyrraedd y lefelau dangosol os yw cyflenwadau halen dan fygythiad neu os yw rhagolygon tywydd garw yn parhau.

Yn ystod amodau eithafol, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei fod yn hanfodol rhoi 'Cell Halen' ar waith er mwyn rheoli'r dosbarthiad o halen i'r holl awdurdodau lleol a'r asiantaethau priffyrdd. Yng Nghymru caiff hyn ei gydlynu gan CLlLC ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n cynrychioli Cymru ar banel gwneud penderfyniadau 'Cell Halen'.

Bydd Dinas a Sir Abertawe'n cymryd rhan yn archwiliad y CLlLC o'r stoc halen cyn ac yn ystod tymor y gaeaf. Bydd hyn naill ai'n bythefnosol neu'n wythnosol yn ddibynnol ar yr amodau a'r defnydd o halen.

Biniau graean

Mae'r awdurdod yn darparu biniau graean i gyfrannu at raeanu rheolaidd y prif lwybrau. Mae'r biniau hyn er defnydd y cyhoedd ar briffyrdd mabwysiedig. Ar hyn o bryd, mae gan yr awdurdod oddeutu 922 o finiau.

Pwrpas y biniau graean yw galluogi unigolion a sefydliadau cymunedol i gynorthwyo gyda chynnal mynediad i ddefnyddwyr priffyrdd. Ni chaniateir cymryd halen o'r biniau i'w ddefnyddio y tu hwnt i'r briffordd. Caiff holl leoliadau'r biniau graean eu hadolygu er mwyn asesu'r lefel o fudd cymunedol a gall biniau gael eu symud pan ddaw'n glir nad yw'r halen yn cael ei ddefnyddio i drin y briffordd.

Caiff cyflenwad yr holl finiau ei wirio cyn dechrau'r tymor a chaiff unrhyw finiau gwag eu hail-lenwi. Ni chaiff y biniau eu hail-gyflenwi'n rheolaidd yn ystod y tymor.

Nid yw ail-lenwi adweithiol ar gais yn bosibl oherwydd yr adnoddau y mae eu hangen o ran llafur a halen. 

Rhaid i'r awdurdod gydbwyso gofynion am finiau newydd yn erbyn cost a hefyd yn erbyn y baich ychwanegol o ail-gyflenwi. Caiff yr holl geisiadau am finiau newydd asesiad risg a'u blaenoriaethu yn seiliedig ar ffactorau megis topograffeg y safle, llwybrau bysus, lleoliad â blaenoriaeth (ysgol etc), ystadegau damweiniau a phellter i'r bin agosaf.

Cyn i unrhyw fin gael ei amnewid (oherwydd lladrad neu ddifrod), ailystyrir meini prawf lleoliad y safle (asesiad risg) er mwyn penderfynu ar yr angen parhaus i gael  bin ar y safle hwnnw.

Mae cynghorau cymuned a BID Abertawe wedi derbyn biniau mawr 1.5 tunnell â chlo i alluogi i halen gael ei daenu gan y gymuned (i'w ddefnyddio ar y briffordd) sy'n cyfranogi'n unol â'r cynllun Warden Eira.

Gweithredu

Caiff y gwaith ei reoli o'r Depo Priffyrdd yng Nghlydach.

Mewn amodau tywydd difrifol, eirwynder neu sefyllfa o rewi maith, bydd yr Arweinydd Grŵp Gwaith Cymdogaeth a/neu'r Rheolwr ar Ddyletswydd yn cysylltu â Phennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant ac yn rhoi'r Cynllun Parhad Busnes ar waith.

Caiff mwy o bobl a pheiriannau sydd ar gael yn yr adran eu rhoi ar waith.  Mae gweithdrefn wedi'i sefydlu gyda Gweithrediadau Parciau er mwyn defnyddio eu staff pan fydd yr amodau'n galw. Mae hyn yn cynnwys staff goruchwylio ac, os oes angen, gellir defnyddio pobl eraill o'r sector preifat.

Pan roddir y Cynllun Parhad Busnes ar waith, sefydlir cysylltiad uniongyrchol â'r Heddlu yn Ystafell Reoli Ardal y Gorllewin, Abertawe (01792 456999 - estyniad 230). Bydd yr Arweinydd Grŵp Gwaith Cymdogaeth yn cysylltu â'r Arolygydd Efydd ynglŷn ag unrhyw faterion dadleuol, e.e. cau ffyrdd. Pan fydd angen, rhoddir Swyddog Priffyrdd yn ystafell reoli'r Heddlu er mwyn cynorthwyo â'r trefniadau gweithredol yn ôl yr angen.

Gweithio ar y cyd

Mae'r cytundebau graeanu trawsffiniol presennol wedi'u tynnu'n ôl mewn cytundeb â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Caiff y ffyrdd a oedd yn cael eu graeanu dan y cytundeb hwn o'r blaen bellach eu trin gan weithrediadau Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Nid oes unrhyw drefniadau trawsffiniol mewn grym gyda Chyngor Sir Gâr.

Bydd yr awdurdod yn cymryd rhan mewn trefniadau cymorth ar y cyd, fel y bo'n briodol, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hollbwysig yn cael eu cynnal.

 

Dogfen bolisi wedi'i chymeradwyo gan: Stuart Davies
Pennaeth Priffyrdd a Chludian

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Hydref 2024