Toglo gwelededd dewislen symudol

Polisi palmentydd i bobl

Yng nghyd-destun y polisi hwn, ystyr palmant yw llwybrau cerdded, troedffyrdd ac arwynebau defnydd a rennir palmantog y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt.

1. Cefndir

Lluniwyd Polisi Palmentydd i Bobl ar gyfer yr awdurdod rai blynyddoedd yn ôl a oedd yn cynnwys swm sylweddol o arweiniad perthnasol a gwybodaeth am safonau. Sefydlwyd gweithgor yn 2009 i ddarparu fersiwn ddiweddar. Wrth i'r grŵp ddatblygu, daeth yn amlwg bod angen polisi newydd gydag arweiniad pwrpasol y gellir ei ddiweddaru yn ôl yr angen.

2. Cyflwyniad

2.1 Yng nghyd-destun y polisi hwn, ystyr palmant yw llwybrau cerdded, troedffyrdd ac arwynebau defnydd a rennir palmantog y mae'r awdurdod yn gyfrifol amdanynt.

2.2 Diben y polisi yw:

  • pennu safonau cyffredinol i sicrhau defnydd diogel i'r holl ddefnyddwyr palmentydd (lle y bo'n ymarferol)
  • darparu fframwaith, egwyddorion, arfer gorau a safonau (cysylltiedig â deddfwriaeth) a fydd yn arwain gwaith dylunio, rheoli a chynnal a chadw palmentydd.

2.3 Mae'r polisi wedi'i ddatblygu ar y cyd â'r canlynol:

  • Mynediad i Bawb Abertawe (SAFE)
  • Aelod Hyrwyddo Cydraddoldeb
  • Y meysydd gwasanaeth canlynol:
    • Strydlun
    • Cludiant
    • Cynllunio
    • Parciau
    • Perfformiad a Phrosiectau Strategol.

3. Egwyddorion

3.1 Defnyddir palmentydd gan amrywiaeth o bobl ag anghenion a gofynion gwahanol y mae'n rhaid eu parchu.

3.2 Bodloni, i'r graddau y bo hynny'n bosib, yr arfer gorau a'r gofynion deddfwriaethol.

3.3 Mae golwg palmant yn rhan annatod o ansawdd a chymeriad lle.

3.4 Ymdrechu i sicrhau y gall pawb ddefnyddio'n palmentydd trwy gael gwared ar unrhyw rwystrau sy'n achosi peryglon a dylunio'r cynllun a dewis y celfi stryd sy'n eu hatal rhag achosi peryglon.

3.5 Ymgynghori a chynnwys yn ystod y broses o baratoi'r dogfennau arweiniad, gan gynnwys egwyddorion dylunio lleol trwy lynu wrth yr egwyddorion a'r arweiniad a nodir yn Strategaeth Ymgynghori'r Cyngor.

4. Amcanion

4.1 Darparu fframwaith ymarferol sy'n cydnabod ac yn diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr.

4.2 Bydd y meysydd a gwmpesir yn y polisi, trwy ei arweiniad, yn cynnwys lleiafswm safonau a gofynion statudol, e.e. lledau mynediad, alinio celfi stryd, lled ac uchder a thecstilau stryd.

4.3 Llunio safonau lleol a gwasanaethau, a chytuno arnynt, a fydd yn arfer gorau a weithredir gan y meysydd gwasanaeth perthnasol.

4.4 Atgyfnerthu mentrau a strategaethau eraill, yn benodol:

  • Llwybrau Mwy Diogel i Gymunedau ac annog pobl i gerdded
  • Gwella diwydiant twristiaeth ac adfywio Abertawe
  • Cefnogi amgylcheddau diogel, gan gynnwys cydlyniant cymunedol.

5. Deddfwriaeth

5.1 Prif ddeddfwriaeth y polisi hwn yw fel a ganlyn:

  • Deddf Priffyrdd 1980
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Rheoli Traffig 2004
  • Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991

5.2 Mae'r polisi hefyd yn ymwneud â chynlluniau a pholisïau canlynol y cyngor;

  • Cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol a chenedlaethol
  • Cynllun Gweithredu Cymru ar Gerdded a Beicio 2009-13 (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
  • Cynllun Datblygu Unedol
  • Cynllun Datblygu Lleol
  • Cynllun Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2009-12
  • Polisi Cynaladwyedd.

6. Monitro ac adolygu:

  • Caiff y polisi a'r gweithredoedd eu hadolygu flwyddyn ar ôl eu mabwysiadu a bob tair blynedd wedi hynny.
  • Caiff yr arweiniad a ddatblygwyd yn y cynllun gweithredu ei adolygu a'i ddiwygio wrth i safonau neu ddeddfwriaeth newid.

7. Camau gweithredu:

7.1 Datblygu neu adolygu arweiniad y cyngor, gan gynnwys gweithdrefnau gorfodi yn y meysydd canlynol erbyn adolygiad y flwyddyn gyntaf:

  • a) Dyluniad hygyrch (Cynllunio)
  • b) Rhwystr wedi'i achosi gan wastraff masnach (Strydlun)
  • c) Rhwystr wedi'i achosi gan arwyddion ar y briffordd (Strydlun)
  • ch) Gorfodi o ganlyniad i barcio ar balmentydd (Cludiant)
  • d) Trwyddedu ar balmentydd (Strydlun)
  • dd) Defnydd palmentydd a rennir (Cludiant)

7.2 Hyrwyddo'r polisi i sicrhau ymwybyddiaeth ohono ac arweiniad, safonau ac arfer gorau cysylltiedig.

Close Dewis iaith