Polisi Tai Cydweithredol
Cynnwys
Gwnaeth Llywodraeth Cymru 2016 ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai yn ystod oes y Llywodraeth.
Gwnaeth y Llywodraeth gytundeb tai â chartrefi Cymunedol Cymru, y corff masnachu dros gymdeithasau tai yng Nghymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar sut i wneud hyn.
Mae'r cytundeb yn cynnwys datblygiad tai cydweithredol posib. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu arian cyfalaf ar gyfer datblygu tai rhentu fforddiadwy a chynnyrch sy'n ymwneud â pherchentyaeth cost isel ac mae'n ymchwilio ymhellach i'w rhaglenni cyllid benthyciadau (yn hytrach na grantiau) er mwyn galluogi'r cyllid sydd ar gael i fynd ymhellach.
Mae hyn yn golygu bod amrywiaeth o fathau a daliadaethau o gynlluniau tai cydweithredol ymarferol a rhai a arweinir gan y gymuned yn debygol o dderbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Abertawe'n ymroddedig i chwarae rôl mewn cefnogi datblygiadau tebyg yn yr ardal.
Mae cydweithfa yn gymdeithas ymreolus o bobl sy'n cyfuno'n wirfoddol er mwyn bodloni eu hanghenion a'u dyheadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol trwy fenter a berchnogir ar y cyd ac a reolir yn ddemocrataidd.
Gwerthoedd Cydweithredol
Mae cydweithfeydd yn seiliedig ar werthoedd hunangymorth, hunan gyfrifoldeb, democratiaeth, cydraddoldeb, tegwch ac undod. Yn dilyn traddodiad eu sylfaenwyr, mae aelodau cydweithredol yn credu mewn gwerthoedd moesegol, sef gonestrwydd, didwylledd, cyfrifoldeb cymdeithasol a gofalu am eraill.
Mae'r 7 egwyddor gydweithredol yn ganllawiau y mae cydweithfeydd yn eu dilyn er mwyn rhoi eu gwerthoedd ar waith.
1. Aelodaeth Wirfoddol ac Agored
Mae cydweithfeydd yn sefydliadau gwirfoddol, sy'n agored i bawb sy'n gallu defnyddio eu gwasanaethau ac sy'n fodlon derbyn cyfrifoldebau aelodaeth, heb wahaniaethu ar sail rhyw, cymdeithas, hil, gwleidyddiaeth neu grefydd.
2. Rheoli Democrataidd gan Aelodau
Mae cydweithfeydd yn sefydliadau democrataidd sy'n cael eu rheoli gan eu haelodau, sy'n cymryd rhan wrth bennu eu polisïau a gwneud penderfyniadau.Mae'r dynion a'r menywod sy'n gweithredu fel cynrychiolwyr etholedig yn atebol i'r aelodaeth. Mewn cydweithfeydd sylfaenol, mae gan aelodau hawliau pleidleisio cyfartal (un aelod, un bleidlais) a threfnir cydweithfeydd ar lefelau eraill mewn modd democrataidd hefyd.
3. Cyfranogiad Economaidd Aelodau
Mae aelodau'n cyfrannu'n deg ar gyfalaf eu cydweithfa ac yn ei reoli'n ddemocrataidd. Mae o leiaf ran o'r cyfalaf hwnnw fel arfer yn eiddo cyffredin y gydweithfa. Mae aelodau fel arfer yn derbyn ychydig iawndal, os derbynnir unrhyw beth o gwbl, ar gyfalaf a gyfrannwyd fel amod aelodaeth. Mae aelodau'n dyrannu'r arian dros ben at unrhyw un, neu bob un, o'r dibenion canlynol: datblygu eu cydweithfa, efallai trwy sefydlu cronfeydd wrth gefn, y bydd o leiaf ran o hyn yn anrhanadwy; creu buddion i aelodau yn unol â'u trafodion â'r gydweithfa; a chefnogi gweithgareddau eraill a gymeradwywyd gan yr aelodaeth.
4. Ymreolaeth ac Annibyniaeth
Mae cydweithfeydd yn sefydliadau ymreolus, hunangymorth sy'n cael eu rheoli gan eu haelodau. Os ydynt yn dechrau cytundebau â sefydliadau eraill, gan gynnwys llywodraethau, neu'n codi cyfalaf o ffynonellau allanol, maent yn gwneud hyn ar delerau sy'n sicrhau rheolaeth ddemocrataidd gan eu haelodau ac yn cynnal eu hymreolaeth gydweithredol.
5. Addysg, Hyfforddiant a Gwybodaeth
Mae cydweithfeydd yn darparu addysg a hyfforddiant ar gyfer eu haelodau, eu cynrychiolwyr etholedig, eu rheolwyr a'u gweithwyr fel y gallent gyfrannu'n effeithiol at ddatblygiad eu cydweithfeydd. Maent yn hysbysu'r cyhoedd cyffredinol, yn enwedig pobl ifanc ac arweinwyr barn, am natur a manteision cydweithredu.
6. Cydweithredu ymysg cydweithfeydd
Mae cydweithfeydd yn gwasanaethu eu haelodau'n fwyaf effeithlon ac yn cryfhau'r mudiad cydweithredol drwy gydweithio trwy strwythurau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol.
7. Pryder am y Gymuned
Mae cydweithfeydd yn gweithio dros ddatblygiad cynaliadwy eu cymunedau trwy bolisïau sy'n cael eu cymeradwyo gan eu haelodau.
Bydd Cyngor Abertawe'n ystyried cefnogi cynigion tai cydweithredol yn ôl ei haeddiant unigol. Mae'n rhaid i gynigion arddangos y gwerthoedd a nodir uchod ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio ag ymrwymiadau maniffesto'r cyngor, y cynllun corfforaethol a'r amcanion lles.
Yn benodol, mae'r polisi hwn yn cefnogi'r ymrwymiad at gam allweddol wrth ddarparu'r amcan lles 'Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd' o fewn Cynllun Corfforaethol 2017/22.
'Gwneud cynnydd o ran tai strategol a safleoedd datblygu cymysg i ddiwallu'r angen am gartrefi a darparu cyflogaeth'
Gall cynigion Tai Cydweithredol a Rhai a Arweinir gan y Gymuned (CCLH) fod i bawb:
- Ar gyfer pobl ar lefelau incwm gwahanol,
- Ar gyfer grwpiau penodol o bobl,
- Ar gyfer daliadaethau gwahanol (e.e. rhentu, perchenogi neu rannu asedau),
- Ar gyfer adeiladu tai newydd neu brynu ac addasu adeiladau preswyl neu adeiladau eraill sydd eisoes yn bodoli,
- Ar gyfer rheoli tai sydd eisoes yn bodoli, gyda pherchnogaeth bosib.
Mae Abertawe'n ardal drefol gyda galw uchel am dai. Mae Cyngor Abertawe'n cadw ei stoc tai ac mae'n adeiladu tai cyngor newydd.
Y tair her fwyaf sydd gan y farchnad dai leol:
- Cynnydd o ran prisiau prynu a rhentu tai,
- Llai o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu,
- Fforddadwyedd ar gyfer pobl sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf.
Mae Cyngor Abertawe'n awyddus i fynd i'rafael â rhai o'r heriau hyn trwy'r polisi hwn.
Mai tai a arweinir gan y gymuned yn rhoi'r cyfle i breswylwyr lleol gymryd rhan wrth fynd i'r afael ag anghenion tai yn eu hardaloedd a chynorthwyo'r cyngor i ddechrau ar gynlluniau tai'r farchnad a thai fforddiadwy newydd.
Credai Cyngor Abertawe fod tai fforddiadwy o safon yn sylfaen i ddinas lwyddiannus, a'r ffordd fwyaf effeithlon o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn ymrwymo i 'wneud cynnydd o ran tai strategol a safleoedd datblygu cymysg i ddiwallu'r angen am gartrefi a darparu cyflogaeth'.
Un o'r mesurau i gyflawni hyn yw cefnogi Ymddiriedolaethau Datblygu Cymunedol, adeiladwyr lleol ac adeiladwyr annibynnol ar safleoedd y cyngor a safleoedd preifat a nodir, i adeiladu mwy o dai sy'n addas ar gyfer y gymdogaeth, sy'n creu cymunedau mwy cymysg a chyfartal.
Gellir datblygu cynlluniau cydweithredol mewn tair ffordd fras, a gall y tair gyflawni canlyniadau cadarnhaol:
Llawr Gwlad
Lle mae grŵp o bobl yn cydweithio i weithredu.
Sefydliadau Cymunedol sy'n Bodoli Eisoes
Lle mae cydweithfa tai, ymddiriedolaeth datblygu neu sefydliad cymunedol arall sydd eisoes yn bodoli'n datblygu cynllun CCLH.
O'r Brig i'r Gwaelod
Mae awdurdod lleol, cymdeithas tai neu sefydliad arall yn penderfynu sefydlu cynllun CCLH a recriwtio'r aelodau sefydlu fel y mae tai yn cael eu datblygu.
Mae Cyngor Abertawe'n croesawu cynigion ar gyfer unrhyw un o'r opsiynau hyn.
Bydd angen cyflwyno cynigion yn ysgrifenedig i'r canlynol:
Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Abertawe
Heol Ystumllwynarth Abertawe
SA1 3SN
Bydd angen i bob cynnig arddangos ystyriaeth o degwch ymysg y gymuned dan sylw, trin pobl yn deg, yn unol â'u hanghenion.
Bydd y cyngor yn monitro gweithrediad y polisi hwn a gall ei adolygu ar unrhyw adeg drwy'r prosesau ymgynghori priodol.
Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Corfforaethol sy'n gyfrifol am roi'r polisi hwn ar waith, ei fonitro a'i ddatblygu. Cyfrifoldeb swyddogion a enwebwyd yw gweithredu'r polisi o ddydd i ddydd a sicrhau y cydymffurfir ag ef.
Cydffederasiwn Tai Cydweithredol: Sefydliad y DU dros gydweithfeydd tai, sefydliadau tai a arweinir gan denantiaid a ffederasiynau rhanbarthol. www.cch.coop (Yn agor ffenestr newydd)
Canolfan Cydweithredol Cymru: asiantaeth datblygu gydweithredol sy'n gweithio ar draws Cymru er mwyn hybu cynhwysiad cymdeithasol, ariannol a digidol drwy amrywiaeth o brosiectau. www.cwmpas.coop (Yn agor ffenestr newydd)
Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Lles Cyngor Abertawe: Cynllun gwella corfforaethol