Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerbydau - hurio preifat

Mae cerbydau hurio preifat yn wyn gyda phlât trwydded melyn ar y cefn. Hefyd ceir trionglau gwyrdd (sticeri) ar ddau ddrws blaen y cerbyd.

Dengys y plât a'r sticeri ar y drysau rif trwydded y cerbyd.  Mae'r plât ar y cefn hefyd yn arddangos uchafswm nifer y teithwyr y caniateir i'r cerbyd eu cario.

Dim ond teithwyr sydd wedi archebu'r cerbyd ymlaen llaw (naill ai trwy alw heibio i swyddfa'r cwmni neu ffonio), sy'n gallu defnyddio cerbydau hurio preifat. Ni chaniateir i gerbydau hurio preifat gasglu teithwyr o'r strydoedd.

Ceir mesuryddion mewn rhai cerbydau hurio preifat, ond ni chaiff y tâl sy'n cael ei godi ei reoleiddio gan yr awdurdod, a gall amrywio o gwmni i gwmni. Dylai teithwyr gytuno ar dâl cyn mynd i mewn i'r cerbyd neu ar y ffôn wrth archebu.

Cais ar gyfer derbyn neu adnewyddu cerbyd hurio preifat (Word)

Cais ar gyfer derbyn neu adnewyddu cerbyd hurio preifat.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2025