Prosiect gwella adeiladau YG Gŵyr
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif a Chyngor Abertawe.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddarparu amgylchedd dysgu sy'n addas at ddibenion yr 21ain ganrif ar gyfer disgyblion a staff yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Rhagwelir y bydd diffyg lle ar y safle erbyn 2021 i ddiwallu anghenion y disgyblion sy'n dymud o ysgolion cynradd partner eraill. Felly, cynigir estyn ôl troed yr adeiladau presennol i ateb y galw ac i fynd i'r afael ag anghenion addasrwydd ac amodau ar y safle.
Mae manteision y prosiect yn cynnwys:
- Digonolrwydd angen sylfaenol ar gyfer lleoedd cyfrwng Cymraeg yn y lleoliad cywir
- Gwella digonolrwydd ac ansawdd yr amgylchedd dysgu
- Gwella cyflwr presennol yr adeiladau a lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd heb ei wneud yn yr ysgol lle bo'n briodol
- Potensial ar gyfer cyfleusterau allanol gwell i'w defnyddio gan y gymuned.
Y Diweddaraf am Gynnydd - Hydref 2020
- Ar 23 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Cabinet benodiad Kier i ymgymryd a'r gwaith adeiladu ac ailfodelu.
- Amodau cynllunio cyn adeiladu wedi'u cymeradwyo - Mehefin 2020.
- Dechrau ar y safle 6 Gorffennaf 2020.
- Digwyddiad torri tyweirch 7 Gorffennaf 2020.
- Llofnodi dur gan ddisgyblion 9 Hydref 2020.
'Iofnodi'r dur'
Mae'r gwaith i osod polion a sylfeini a chodi ffrâm ddur saernïol wedi'i gwblhau ar gyfer yr estyniad yn YG Gŵyr. I ddathlu'r garreg filltir, gofynnwyd i ddisgyblion o'r ysgol 'lofnodi'r dur' ar gyfer y dyfodol, a chyfansoddon nhw gerdd fer gyda'r geiriau wedi'u hysgrifennu ar esgyrn yr adeilad.
Hon a'i Chymraeg sydd annwyl
A hon a'i addysg sydd hwyl
For her the Welsh language is dear
And for her the education is fun.
Dyddiad | Carreg Filltir |
---|---|
Ionawr 2019 | Cwblhau arfarniadau economaidd, arfarniad ariannol a gweddil yr ABA |
Chwefror - Mawrth 2019 | Grŵp Craffu Achosion Busnes a Phanel Cyfalaf LlC i ystyried yr Achos Busnes Amlinellol (ABA) |
Tachwedd 2018 - Mai 2019 | Proses ceisiadau cynllunio |
Ionawr 2020 - Chwefror 2020 | Grŵp Craffu Achosion Busnes a Phanel Cyfalaf LlC i ystyried yr Achos Busnes Llawn ac adrodd i'r Cabinet |
Mawrth 2020 | Llywodraeth Cymru i dderbyn a llofnodi'r contract |
Mawrth 2020 | Penodi contractwr |
Mehefin 2020 | Dechrau adeiladu |
Mai 2022 | Cwblhau'r gwaith adeiladu |
Tim y prosiect
Mr D Jenkins, Pennaeth
Nicola Jones, Rheolwr Datblygu Achosion Busnes Ysgolion
Jenny Lewis-Jones, Swyddog Cefnogi Prosiectau
Alex Harries, Rheolwr Prosiectau Pensaerniol
Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael
Manteision i'r Gymuned
Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi cwmniau lleol a chreu swyddi i bobl leol. Yn ystod y gwaith arfaethedig, bydd y prif gontractwr yn defnyddio cyflenwyr lleol, lle y bo'n bosib, ar gyfer y deunyddiau a'r cynnyrch. Caiff contractwyr eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol a chynnig profiad gwaith i bobl ifanc ddi-waith.
Cynnwys disgyblion
Bydd cynnwys pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Perianneg a Mathemateg) yn rhan annatod o'n prosiect. Bydd y contractwr a'r cyngor yn gweithio ar y cyd â'r ysgol i gefnogi cyfleoedd dysgu drwy gydol y prosiect adeiladu.
Prosiectau cymunedol
Fel rhan o'r prosiect, disgwylir i'r contractwr gefnogi mentrau lleol yn yr ardal. Darperir mwy o fanylion am hyn wrth i'r prosiect fynd rhagddo.
Darluniau pensaer/cynlluniau cymeradwy/lluniau cynnydd
Dim ar hyn o bryd.
Cylchlythyrau
Dosbarthwyd y cylchlythyr cyntaf i'r ardal ym mis Mehefin 2020.