Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau teithio llesol cyfredol

Dyfarnwyd cyllid grant i'r prosiectau hyn o'r gronfa teithio llesol i'w datblygu neu eu cyflawni.

Man cycling in red top (Grovesend to Pontarddulais).

Mae ein cynlluniau wedi'u rhannu'n ddau gategori:

  1. Cynlluniau sy'n cael eu cyflawni - mae'r cynlluniau hyn wedi derbyn cyllid a byddant yn cael eu cyflawni eleni, yn amodol ar gymeradwyaeth.
  2. Cynlluniau sy'n cael eu datblygu - cynlluniau arfaethedig yw'r rhain sydd ar gam cynharach astudiaethau dichonoldeb, dylunio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Gan ddibynnu ar ei gymhlethdod neu faint, gall cynllun gael ei ddatblygu am sawl blwyddyn cyn ei fod ar gam lle'r ydym yn barod i wneud cais am gyllid i adeiladu'r llwybr newydd.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Cynlluniau sy'n cael eu darparu eleni

Gwelliannau i lwybr beicio'r RhBC4

Mae llwybr Dyffryn Clun yn rhan o Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae'r llwybr yn rhedeg o Blackpill i Dregŵyr.

Mae'n llwybr teithio llesol allweddol sy'n cysylltu cymunedau gwahanol ac fe'i defnyddir yn aml ar gyfer cymudo a theithiau hamdden. Dywedodd defnyddwyr wrthym fod y llwybr yn anwastad, yn dioddef o lifogydd a'i fod yn aml yn brysur. Yn y gorffennol, gwnaethom ehangu ac ailwynebu llwybr Dyffryn Clun rhwng Blackpill a Chilâ. Eleni, byddwn yn parhau â'r gwaith hwn, gan wella'r rhan nesaf o'r llwybr rhwng Cilâ a Dyfnant, sef pellter o 1.55km.

Bydd y llwybr yn cael ei ehangu a'i ailwynebu, a bydd seddi newydd a systemau draenio gwell i leihau achosion o lifogydd. Bydd y gwaith hwn yn gwella'r profiad o ddefnyddio'r llwybr ac yn galluogi mwy o bobl i deithio'n llesol. Ein huchelgais yw parhau â'r gwelliannau yn Nhregŵyr yn y dyfodol, yn amodol ar gyllid.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd, a bydd yn cymryd oddeutu deufis i'w gwblhau. Mae'n debygol y bydd angen cau'r llwybr am gyfnod yn ystod y gwaith adeiladu, fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i darfu ar bobl cyn lleied â phosib. Bydd rhagor o fanylion am gau'r llwybr yn cael eu cyhoeddi yn y man.

Gwelliannau i lwybr beicio'r RhBC4 - Cilâ i Ddyfnant (PDF, 1 MB)

Cyswllt Derwen Fawr i Gilâ

Bydd y cynllun hwn yn darparu llwybr teithio llesol oddi ar y ffordd sy'n cysylltu cymunedau Cilâ, Derwen Fawr a'r Olchfa, drwy ailwynebu'r llwybr a adwaenir fel Old Carriage Drive. Bydd yr arwyneb newydd 750 metr o hyd a 3 metr o led yn hwyluso cerdded, olwyno a beicio rhwng y cymunedau.  Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at ein huchelgais o ddarparu mynediad i lwybr Dyffryn Clun yng Nghilâ ac oddi arno heb orfod defnyddio'r man mynediad lletchwith yn The Railway Inn.

Gan fod rhan o'r llwybr ar lethr, bydd stribyn carlamu 2 fetr o led ar gyfer marchogion. Bydd gât mynediad newydd yn cael ei gosod i reoli mynediad i gerbydau. Bydd bolardiau yn cael eu gosod i reoli cyflymder, a bydd paneli gwybodaeth newydd yn cael eu darparu i dynnu sylw at dreftadaeth hanesyddol yr ardal. Bydd dau gwlfer presennol yn cael eu cryfhau a bydd seddi newydd yn cael eu gosod i ddarparu mannau gorffwys. Bydd gwelliannau ecolegol amrywiol (megis blychau adar) hefyd yn cael eu hychwanegu fel rhan o'r cynllun.

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd a bydd yn cymryd oddeutu deufis i'w gwblhau. Bydd angen cau'r llwybr yn ystod y gwaith adeiladu. Byddwn yn ymdrechu i darfu ar bobl cyn lleied â phosib. Bydd rhagor o fanylion am gau'r llwybr yn cael eu cyhoeddi yn y man.

Gwelliannau i Fynediad a Chreu Lleoedd

Bydd y cynllun hwn yn parhau â'r gwaith o ddarparu gwelliannau mynediad a chreu lleoedd yn ardal Sandfields. Ei nod yw gwneud y strydoedd yn fwy hygyrch a deniadol ar gyfer cerdded, olwyno a beicio. Mae gwaith arfaethedig yn cynnwys cael gwared ar rwystrau ffisegol, gosod cyrbau isel, gwella croesfannau i gerddwyr ac ychwanegu planwyr i wella mannau cyhoeddus. 

Parcio Beiciau

Bydd isadeiledd parcio beiciau newydd yn cael ei gyflwyno ar draws Abertawe mewn lleoliadau allweddol a gerllaw llwybrau teithio llesol. Gallai hyn gynnwys podiau parcio beiciau preswyl i helpu i oresgyn heriau storio beiciau ar gyfer preswylwyr nad oes ganddynt lawr o le dan do, drwy ddarparu cyfleusterau storio awyr agored diogel ar eu cyfer.

Cael Gwared ar Rwystrau

Bydd rhwystrau nad ydynt yn cydymffurfio ar hyd y llwybr teithio llesol yn cael eu dileu neu eu disodli i sicrhau hygyrchedd i bawb. Mae enghreifftiau o rwystrau nad ydynt yn cydymffurfio yn cynnwys gatiau neu folardiau sy'n rhwystro pramiau neu gadeiriau olwyn rhag mynd heibio.

 

Cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer y blynyddoedd i ddod

Comin Clun

Bydd y llwybr defnydd a rennir newydd hwn yn rhedeg ar hyd ochr ddeheuol y B4436 dros Gomin Clun, rhwng y Mayals a Llandeilo Ferwallt. Mae e' tua 2.5km o hyd a bydd yn 3m o led. Bydd yn darparu llwybr oddi ar y ffordd a fydd yn cysylltu Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt â llwybr Mayals a adeiladwyd yn ddiweddar, gan alluogi pobl sy'n byw yn ardaloedd Llandeilo Ferwallt a Murton i gael mynediad at y rhwydwaith teithio llesol ehangach i'r Mwmbwls, Abertawe a thu hwnt drwy Lwybr Beicio Cenedlaethol 4.

Cyswllt Pontarddulais

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys nifer o ymyriadau sy'n cael eu cyflwyno dros sawl blwyddyn, a bydd yn cysylltu tref Pontarddulais â'r rhwydwaith teithio llesol presennol, ac yn hwyluso teithiau i Sir Gaerfyrddin, sy'n ffinio â Phontarddulais, ac oddi yno. 

Bydd llwybrau'n cysylltu ardaloedd preswyl allweddol Pontarddulais ag ysgolion, gorsaf drenau Pontarddulais, cyfleusterau hamdden, unedau manwerthu ac i'r de drwy'r coridor teithio llesol newydd sy'n ymuno â gweddill rhwydwaith Abertawe. 

Casllwchwr i Dregŵyr

Cynigir llwybr a rennir 3m o led newydd i gerddwyr a beicwyr i gysylltu Tregŵyr â Llwchwr, tua 2km o hyd, i wella cysylltedd rhwng y ddwy gymuned sy'n profi toriad a achosir gan yr A484. Bydd y llwybr yn darparu mynediad i Ganolfan Hamdden Elba, Canolfan Feddygol Tregŵyr, Tesco Express, dwy eglwys a maes gwersylla Clwb Carafannau a Chartrefi Modur.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno ar draws dau gam. Bydd Cam Un yn cynnwys rhan ddeheuol y llwybr o Dregŵyr. Bydd yn cychwyn o Ffordd Beck (wrth fynedfa Cyfadeilad Chwaraeon Elba) a bydd yn pasio'r caeau chwarae ac yn ymuno â Pont Y Cob Road, lle bydd yn parhau i Bont yr Ynys. Bydd Cam Dau yn cynnwys disodli Pont yr Ynys bresennol sydd ag un lôn a pharhau ar hyd Culfor Road a chysylltu â Llwchwr.

Pen-clawdd i Dregŵyr

Mae'r cynllun hwn yn ceisio cwblhau cyswllt coll mewn darpariaeth teithio llesol rhwng cymunedau Pen-clawdd a Thregŵyr ar hyd y B4295, lle mae'n rhaid i gerddwyr ddefnyddio troedffordd gul ar hyn o bryd, tra bod yn rhaid i feicwyr ailymuno â ffordd gerbydau. Bydd y cynllun hwn yn gwella opsiynau teithio llesol i breswylwyr Pen-clawdd, gan ddarparu cysylltedd â Thregŵyr a chynnig mynediad ehangach i'r rhwydwaith teithio llesol drwy Lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y cynllun hefyd yn galluogi mwy o fynediad i ardal Gŵyr.

Y Crwys i Ddyfnant a Chilâ Uchaf

Mae'r cynllun hwn yn ceisio darparu llwybr teithio llesol diogel rhwng cymunedau'r Crwys, Dyfnant a Chilâ Uchaf. Mae llwybrau presennol drwy Dunvant Road a Tirmynydd Road yn brin o droedffyrdd a darpariaeth beicio oddi ar y ffordd ddynodedig, sy'n gorfodi cerddwyr i rannu'r ffordd gerbydau â cherbydau modur. Nod y cynllun yw darparu isadeiledd teithio llesol oddi ar y ffordd i alluogi teithiau diogel ar droed neu ar gefn beic rhwng y cymunedau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Medi 2025