Toglo gwelededd dewislen symudol

Teithio llesol

Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.

Cyclist on path at Hafod Copperworks.

Teithio llesol: Coridor Glannau'r Tawe - cyfle i ddweud eich dweud

Mae manteision teithio llesol yn cynnwys y canlynol:

  • gwella'ch iechyd a'ch lles 
  • llai o geir ar y ffordd, lleihau tagfeydd 
  • gostyngiadau mewn allyriadau carbon ac aer glanach 
  • gwell cysylltiadau rhwng cymunedau lleol 
  • gwell mynediad at gyflogaeth, addysg, a gwasanaethau allweddol

Mae'r rhwydwaith teithio llesol presennol yn Abertawe'n cynnwys dros 120km o lwybrau beicio a cherdded oddi ar y ffordd y mae pobl o bob gallu yn eu mwynhau.

Yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru, a ddarperir fel rhan o'r gronfa teithio llesol, rydym wedi ymrwymo i gynyddu a hyrwyddo llwybrau teithio llesol ar draws yr ardal. Mae hyn yn golygu bod rhagor o lwybrau'n cael eu hychwanegu at y rhwydwaith, gan wneud cymudo ar droed ac ar gefn beic yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy cydgysylltiedig.

Bydd prosiectau'n gweld isadeiledd newydd a gwell yn cael ei ddarparu ar draws Abertawe, a fydd yn gwella cysylltedd rhwng cymunedau a hefyd yn cysylltu â'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus ehangach.

Llwybrau wedi'u cwblhau

Mae'r llwybrau newydd neu well hyn wedi'u cwblhau ac maent ar agor i bawb eu mwynhau.

Prosiectau teithio llesol cyfredol

Dyfarnwyd cyllid grant i'r prosiectau hyn o'r gronfa teithio llesol i'w datblygu neu eu cyflawni.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn ceisio'i gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru, yn benodol i hyrwyddo cerdded a beicio fel dulliau ymarferol o gludiant ar gyfer teithiau pob dydd fel mynd i'r siopau, i'r gwaith neu'r coleg.

Rhoi gwybod am broblem neu roi adborth

Rhowch wybod i ni os oes gennych broblem gydag unrhyw lwybrau teithio llesol neu ymholiad amdanynt.

Gwybodaeth am deithio llesol i gyflogwyr

Gall hyrwyddo teithio llesol helpu'ch sefydliad i gyrraedd targedau cynaliadwyedd a bydd yn gwella lles eich gweithwyr.

Rhannwch gyda gofal

Byddwch yn ystyriol o eraill sy'n defnyddio'r llwybrau defnydd a rennir fel y gall pawb eu mwynhau'n ddiogel.

Beicio

Ewch ar eich beic gyda llwybrau beicio gwych yn Abertawe ar gyfer teithio a hamdden, rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybrau 4 a 43) a Lôn Geltaidd y Gorllewin.

Cerdded

Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.
Close Dewis iaith