Pryderon ynghylch lles anifeiliaid mewn mangre drwyddedig
Os ydych yn bryderus ynghylch arferion busnes anifeiliaid trwyddedig neu gyflwr y man lle cedwir yr anifeiliaid.
Os ydych yn bryderus ynghylch arferion busnes anifeiliaid trwyddedig neu gyflwr y man lle cedwir yr anifeiliaid, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk gan roi cynifer o fanylion â phosib ynghylch eich pryderon.
Bydd swyddog yn cysylltu â chi ac, os oes angen, bydd yn cadarnhau unrhyw bwyntiau ychwanegol.
Os yw'ch pryder yn ymwneud â chyflwr yr anifeiliaid neu gyflwr y man lle cedwir yr anifeiliaid, yna mae'n arferol cynnal archwiliad o'r fangre.