Toglo gwelededd dewislen symudol

Ydych chi'n pryderu am ddyled?

Os ydych yn teimlo dan straen, yn bryderus neu mewn argyfwng, gallwch gysylltu â'r sefydliadau isod i gael cymorth.

"Mae gorbryder wedi gwneud cyfathrebu â chredydwyr yn anodd, yn enwedig dros y ffôn. Rwyf yn aml yn gwirio rhif y galwr ac nid wyf yn ateb galwadau gan gredydwyr. Mae iselder a gorbryder wedi fy achosi i oedi... sy'n aml yn arwain at ragor o ffïoedd am beidio â thalu gan nad ydw i wedi cysylltu â nhw i roi rhesymau dros hynny neu i ddweud fy mod yn ei chael hi'n anodd gwneud y taliadau."

"Mae'r pryder ynghylch dyledion a methu â thalu biliau'n gwneud i bopeth deimlo'n waeth ac rydych yn teimlo na fydd unrhyw beth yn newid ac na fyddwch chi'n gallu talu ôl-ddyledion."

Pan fyddwch yn cymryd rheolaeth ac yn derbyn cymorth am ddim, bydd bywyd yn teimlo'n well.

Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol

Eich helpu i ddeall, rheoli a gwella'ch iechyd meddwl a'ch problemau ariannol.

Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L)

Mae'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n dioddef gofid meddyliol yn ogystal â'u ffrindiau, eu gofalwyr a'u perthnasau

Mind

Os ydych yn byw gyda rhywun â phroblem iechyd meddwl, neu'n cefnogi rhywun sy'n cefnogi person â phroblem iechyd meddwl, mae cael mynediad at yr wybodaeth gywir yn hanfodol.

Samaritans yng Nghymru

Cymorth emosiynol i'r rhai sy'n cael teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai a allai arwain at hunanladdiad - 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023