Toglo gwelededd dewislen symudol

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.

Mae ein hymagwedd yn dilyn egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth â phobl i ddiwallu eu hanghenion ac atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu. 

Mae'r enw Pwynt Mynediad Cyffredin yn cyfeirio at y ffaith y gall unrhyw un gysylltu â'r lle hwn er mwyn derbyn gwybodaeth a chyngor ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gan ein tîm Pwynt Mynediad Cyffredin Gynorthwywyr Mynediad a Gwybodaeth a fydd yn trafod eich sefyllfa gyda chi ac yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi. Mae'r Cynorthwywyr Mynediad a Gwybodaeth yn gallu'ch cyfeirio at wasanaethau cymunedol 

hefyd, megis grwpiau neu elusennau lleol. Gall hyn fod yr holl gymorth y bydd ei angen arnoch yn aml.

Os na allwn eich helpu o ran darparu gwybodaeth, cyngor neu arweiniad, gall y Cynorthwywyr Mynediad a Gwybodaeth drafod eich sefyllfa gyda'n Tîm Amlddisgyblaeth. Mae ein Tîm Amlddisgyblaeth yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol cymwys, Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd a phobl broffesiynol eraill. Bydd y Tîm Amlddisgyblaeth yn trafod eich sefyllfa i weld a ydynt yn gallu cynnig cyngor arbenigol neu gymorth i chi.

Gallwch chi gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy ffonio, neu e-bostio (manylion isod) neu trwy lenwi ffurflen ffurflen ar-lein (Os ydych chi'n weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol, peidiwch â chysylltu â ni dros y ffôn neu e-bost, ond defnyddiwch y ffurflen ar-lein yn unig).

Oriau agor y tîm yw:

8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau

8.30am - 4.30pm ar ddydd Gwener

Os oes unrhyw argyfwng y tu allan i'r oriau swyddfa hyn, cysylltwch â'r: Yr Tîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol.

Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer Nyrsys Ardal

Mae'r Pwynt Cyswllt Unigol ar gyfer Nyrsys Ardal yn darparu pwynt cyswllt unigol sy'n cynnig gwasanaethau nyrsio ardal i oedolion gan gynyddu nifer y bobl y gellir eu rhyddhau o'r ysbyty, blaenoriaethu gofal cleifion, cyfeirio cleifion at wasanaethau sy'n fwy perthnasol iddynt a rhoi cyngor cywir ar nyrsio yn y pwynt cyswllt cyntaf.

Rhif y pwynt cyswllt unigol ar gyfer atgyfeiriadau yw 01792 343360.

Enw
Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)
Cyfeiriad
  • Canolfan Ddinesig
  • Heol Ystumllwynarth
  • Abertawe
  • SA1 3SN
  • United Kingdom
Rhif ffôn
01792 636519

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mehefin 2024