Tirwedd Genedlaethol Gŵyr - Ffermio Bro
Mae Ffermio Bro yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg tan Fawrth 2028. Rhaglen i dod â ffermwyr a thirfeddianwyr at ei gilydd i greu newid amgylcheddol cadarnhaol ar draws ein tirweddau mwyaf gwerthfawr. Ein prif amcan o fewn Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yw adeiladu ecosystemau gwydn tra'n cefnogi arferion ffermio cynaliadwy.
Amcanion y rhaglen
Gan weithio gyda'n gilydd, ein nod yw:
- Cyflawni gweithgareddau ar draws sawl fferm i gyflawni nodau amgylcheddol cyffredin
- Cefnogi adferiad natur a gwydnwch ecosystemau
- Gwella cynaliadwyedd a gwydnwch busnesau fferm
- Creu cyfleoedd i'r cyhoedd ymgysylltu â'n tirweddau a'n treftadaeth ddiwylliannol
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gydweithredol sy'n ariannu gweithgareddau ar draws sawl fferm i greu newidiadau ar raddfa tirwedd.
Cydweithio thematig - Ffermydd ar draws y Tirwedd Genedlaethol yn gweithio tuag at nodau cyffredin, heb drefnidau clwstwr ffurfiol.
Cydweithio dalgylch - Ffermwyr ar hyd afonydd neu nentydd yn ymgymryd â gweithredoedd cydgysylltiedig i wella ansawdd dŵr.
Cydweithio lleol - Prosiectau lle mae ffermwyr yn cydweithio ar dir Comin neu'n cysylltu cynefinoedd drwy'r dirwedd.
Bydd Ffermio Bro yn ariannu prosiectau sy'n cyflawni nodau trwy gamau a gymerir ar sawl fferm—id oes angen cytundebau ffurfiol na chydweithio uniongyrchol ar ffermwyr.
Ein meysydd ffocws
Drwy gydweithio penodol a chefnogaeth arbenigol, rydym yn canolbwyntio ar:
- Gwella ansawdd dŵr ffres: Gwella gwydnwch dalgylchoedd, ansawdd dŵr, a chreu cynefinoedd gwlyptir;
- Ffermio adfywiol: Cefnogi arferion sy'n gwella iechyd pridd a bioamrywiaeth;
- Gwarchod tiroedd comin: Gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau a gweithredu strategaethau atal tanau gwyllt;
- Ffiniau traddodiadol: Adfer nodweddion hanesyddol fel waliau cerrig a chloddiau drwy ail adeiladu, plannu,a phlygu er mwyn creu coridorau bywyd gwyllt;
- Gwarchod rhywogaethau: Gwarchod rhywogaethau allweddol drwy reoli cynefinoedd penodol.
Gweithgareddau cymwys
Mae'r rhaglen yn ariannu ystod eang o weithgareddau ar draws amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Plannu coed wedi'u targedu dwysedd isel ac adfer coetiroedd;
- Adfywio naturiol a chreu gwyrchoedd;
- Adfer gwyrchoedd trwy osod gwyrchoedd, torri coedlannau a llenwi bylchau;
- Dileu rhywogaethau estron ymledol;
- Ymryriadau rheoli risg llifogydd naturiol;
- Gwella cynefinoedd gwlyptiroedd a glannau afonydd;
- Prosiectau adfer ffiniau traddodiadol;
- Adfer dolydd gwair traddodiadol, a chreu stribedi a lleiniau adar gwyllt, bywyd gwyllt a pheillwyr;
- Gwella mynediad i gefn gwlad trwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd;
- Mesurau wedi'u targedu i gefnogi adferiad rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt;
- Mesurau wedi'u targedu i wella ansawdd dŵr fel rheoli stoc.
Enghreifftiau yn unig yw'r rhain ac nid rhestr gynhwysfawr yw hon. Cynllun dan arweiniad ffermwyr yw hwn ac rydym yn croesawu pob syniad ar gyfer gwella cynefinoedd a meithrin bywyd gwyllt.
Ceisio am gyllid Ffermio Bro
Bydd ffermwyr a thirfeddianwyr o fewn Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn gwneud cais uniongyrchol am y cyllid i Gyngor Abertawe, a bydd tîm Ffermio Bro yn ogystal â'r Panel Asesu Lleol yn dyfarnu cyllid ar gyfer gweithgareddau sy'n adlewyrchu anghenion lleol. Mae tîm Ffermio Bro yn cynnwys cynghorwyr arbenigol a fydd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu ceisiadau a chefnogi ymgeiswyr drwy'r broses.
Mae Ffermio Bro yn rhan o gam paratoadol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a bydd yn llywio datblygiad yr haen gydweithredol.
I geisio am gyllid:
- Cwblhewch Ffurflen datgan Diddordeb (EOI) Ffurflen datgan diddordeb Ffermio Bro (Word doc, 81 KB)
- Cyflwynwch cyn y dyddiad cau ar gyfer y ffenestr gyntaf: Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025
- Bydd ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried ar gyfer y ffenestr EOI nesaf..
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Ar ôl derbyn yr EOI bydd y tîm yn cysylltu â chi i drafod eich prosiect ac yn gweithio gyda chi i gwblhau cais llawn;
- Ym mis Gorffennaf bydd ceisiadau'n cael eu sgorio a'u hasesu gan Dîm Ffermio Bro (dan £10,000) neu'r Panel Asesu (mwy na £10,000);
- Yn dilyn asesiad gwneir cynigion grant ar gyfer gwaith i'w gwblhau cyn diwedd y Flwyddyn Ariannol.
Prif fanteision ymuno â Ffermio Bro:
- Mynediad at arweiniad a chefnogaeth;
- Cyllid ar gyfer gwelliannau amgylcheddol;
- Rhwydweithio gyda rheolwyr tir eraill;
- Cyfrannu at newid amgylcheddol ar raddfa tirwedd.
Am ragor o wybodaeth neu i ddechrau eich cais drwy gyflwyno ffurflen mynegiant o ddiddordeb, cysylltwch â Chynghorydd Bro Ffermio Gŵyr, Mark Blackmore yn markb@pembrokeshirecoast.wales neu fel arall, ffôniwch 07484 431864.
Ymunwch â'n rhwydwaith cynyddol o reolwyr tir blaengar a helpwch i lunio dyfodol ein tirweddau gwerthfawr.
Am fwy o wybodaeth am y Cynllun dilynwch y ddolen Isod