Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig

Cyllid sy'n cefnogi cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig.

Mae cyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach wedi'i ymestyn i redeg rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2025. Mae dau grant ar gael:

  1. Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe
  2. Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe (ynni adnewyddadwy)

Y wardiau sy'n gymwys am gymorth yw:

  • Llandeilo Ferwallt
  • Clydach
  • Fairwood
  • Gorseinon a Phenyrheol
  • Gŵyr
  • Tregŵyr
  • Llangyfelach
  • Llwchwr
  • Pen-clawdd
  • Penlle'r-gaer
  • Pennard
  • Pontarddulais
  • Pontlliw a Thircoed

Y rhai hynny a all gyflwyno cais:

  • grwpiau cymunedol cyfansoddiadol - nid er elw 
  • elusennau 
  • sefydliadau'r 3ydd sector - nid er elw
  • sefydliadau cyhoeddus - nid er elw 

Y rhai hynny nad ydynt yn gymwys i gyflwyno cais:

  • busnesau
  • sefydliadau er elw 
  • cynlluniau amaethyddiaeth sylfaenol a chynlluniau a gefnogir gan y gymuned 
  • grwpiau cymunedol nad ydynt yn rhai cyfansoddiadol
  • grwpiau cymunedol heb eu cyfrif banc eu hunain 
  • unigolion 

Mae'r holl hawliadau grant yn cael eu talu drwy ôl-daliadau ar ôl derbyn tystiolaeth o wariant. Ar gais, gellir cyflwyno cyfran fach o'r grant ymlaen llaw os bydd llif arian y prosiect yn mynnu hynny.

Mae'r cynlluniau grant yn agor ar 1 Ebrill 2025 a bydd yr holl arian y gallwch wneud cais amdano ar gael ar yr adeg hon. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir erbyn 14 Ebrill 2025 yn cael eu prosesu a'u hasesu gan y panel grant yn yr wythnos sy'n dechrau ar 28 Ebrill 2025. Bydd y cynlluniau ar agor hyd nes y bydd yr holl arian wedi'i neilltuo.

Rhaid cyflwyno'r holl brosiectau erbyn 31 Hydref 2025, a rhaid i'r holl hawliadau gael eu cwblhau erbyn 30 Tachwedd 2025.

Mae'r arweiniad llawn i'r cynlluniau ar gael yn y dogfennau isod, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os ydych yn barod i wneud cais ac mae angen copi o'r ffurflen gais arnoch, e-bostiwch y tîm yn ruralanchorspf@abertawe.gov.uk

1. Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe

Darperir y grant hwn gan Gyngor Abertawe ac fe'i cefnogir gan y Grŵp Cynghori Gwledig, gyda'r nod o ychwanegu budd at gymunedau gwledig.

  • Grantiau refeniw:
    • isafswm grant £1,000
    • uchafswm grant £15,000
  • Nid oes angen arian cyfatebol ar gyfer Grantiau Angori Gwledig. Dyfernir yr holl grantiau ar sail cyfradd ymyrryd 100% a gellir eu defnyddio fel arian cyfatebol yn erbyn cyrff grantiau eraill.
  • Mae costau cyllid yn refeniw yn unig.
  • Gall ymgeiswyr gyflwyno un cais yn unig i gynllun Angori Gwledig Abertawe yn ystod y rownd ariannu hon.
  • Mae swm y grant a ddyfernir yn ôl disgresiwn Cyngor Abertawe.

Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe - arweiniad llawn (Word doc, 804 KB)

2. Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe (ynni adnewyddadwy)

Cyflwynir y grant hwn gan Gyngor Abertawe gyda chefnogaeth y Grŵp Cynghori Gwledig, gyda'r nod o alluogi sefydliadau i weithio tuag at fod yn garbon sero net mewn ardaloedd gwledig. 

  • Grantiau cyfalaf:
    • isafswm grant £5,000
    • uchafswm grant £25,000
  • Nid oes angen arian cyfatebol ar gyfer Grantiau Angori Gwledig. Dyfernir yr holl grantiau ar sail cyfradd ymyrryd 100% a gellir eu defnyddio fel arian cyfatebol yn erbyn cyrff grantiau eraill.
  • Mae costau cyllid yn gyfalaf yn unig.
  • Gall ymgeiswyr gyflwyno un cais yn unig i gynllun Angori Gwledig Abertawe yn ystod y rownd ariannu hon. 
  • Mae swm y cyllid a ddyfernir yn ôl disgresiwn Cyngor Abertawe.

Cynllun Grant Angori Gwledig Abertawe (ynni adnewyddadwy) - arweiniad llawn (Word doc, 804 KB)

Cefnogaeth iechyd a lles wledig

Mae'r cyfeirlyfr hwn yn cynnwys manylion am amrywiaeth o sefydliadau cefnogi, y mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar y rheini sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Cyllid Angori Gwledig

Yn 2023 gwnaethom dderbyn cyllid gan Lywodraeth y DU dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fel rhan o'r agenda Ffyniant Bro.

Rhaglen Datblygu Gwledig (RDG)

Cefnogodd fusnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru rhwng 2014 a 2023.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Mawrth 2025