1400 - Rhagor o wrthryfelwyr Cymreig a rhai ysbiwyr y Saeson
Ar ôl can mlynedd heb unrhyw ymosodiadau, daeth y castell dan fygythiad eto pan gyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr yn 1400.


Roedd milwyr arfog a saethwyr yr iwmyn wedi eu gosod yng Nghastell Abertawe, a thalwyd dau ddyn i deithio i'r gogledd tuag at Fachynlleth "i ysbïo ar a chanfod bwriadau a gweithredoedd Owain Glyndŵr a gwrthryfelwyr eraill, fel y gellid rhybuddio deiliaid yr arglwyddiaeth honno a'u paratoi i wrthsefyll y malais, gan ofni eu dyfodiad drwy'r amser". Er gwaethaf y cofnodion hyn o lyfrau cyfrifon y castell ni wyddom a wnaeth Owain ymosod ar Gastell Abertawe.
Dilynwch hanes Owain Glyndŵr drwy ymweld â Chastell Cydweli - a ddioddefodd fwy nag un ymosodiad gan gefnogwyr Owain Glyndŵr.