Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoli contractau

Caiff cyflenwyr eu monitro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â meini prawf perfformiad y contract.

Rhaid cyflwyno nwyddau, gwaith a gwasanaethau yn unol â'r gofynion a nodir yn y contract, i'r safonau penodol. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda chyflenwyr i drafod perfformiad a materion perthnasol eraill i sicrhau bod y contract yn mynd rhagddo'n llyfn. Fe'u defnyddir hefyd i fynd i'r afael â materion yn gyflym ac er budd gorau'r cyngor. Ymdrinnir â pherfformiad gwael yn gyflym, fel y gall cyflenwyr fynd i'r afael â'r materion a'u datrys.

Lle nad yw cyflenwyr yn mynd i'r afael â pherfformiad gwael, gallai hyn arwain at ddod â'r contract i ben. Mae'n bwysig felly bod cyflenwyr yn deall anghenion y contract yn glir, yn teimlo eu bod yn gallu eu cyflawni ac yn darllen yr amodau a thelerau cyn tendro.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2022