Rheoli HMO
Os ydych yn rheoli HMO, dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud i ofalu am eich eiddo a'ch tenantiaid.
Yng Nghymru, mae dwy gyfres o reoliadau rheoli y mae angen i chi eu dilyn. Mae'r rheoliadau y mae angen i chi eu bodloni'n dibynnu ar yr eiddo rydych yn ei reoli. Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 (Yn agor ffenestr newydd) ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth Adran 257 (y rhai a rennir yn fflatiau hunangynhwysol a Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 (Yn agor ffenestr newydd) ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth eraill.
Hefyd, efallai y bydd angen i chi fodloni gofynion trwyddedu sy'n berthnasol i'ch HMO.
Mae'r ddwy gyfres o reoliadau'n cynnwys yr un math o ofynion. Y rhain yw rhoi gwybodaeth i breswylwyr, cadw'r llety'n ddiogel, yn lân ac mewn cyflwr da, sicrhau y cynhelir mesurau a rhagofalon diogelwch tân, cynnal dŵr diogel, draenio, cyflenwadau nwy a thrydan, gofalu am bartiau cyffredin, gosodion, gosodiadau a pheiriannau a darparu cyfleusterau ar gyfer gwaredu gwastraff.
Hefyd, mae cyfrifoldebau gan breswylwyr dan y rheoliadau. Y rhain yw gadael i'r rheolwr gael mynediad rhesymol i'r eiddo; peidio â rhwystro'r rheolwr rhag cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol; darparu gwybodaeth berthnasol ar gais y rheolwr a storio a gwaredu sbwriel yn briodol yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr.
Os ydych yn methu bodloni'r rheoliadau rheoli, gallech gael eich erlyn.
Rheoli a thrwyddedu HMO
Mae'n rhaid i bob un sy'n gwneud cais am drwydded roi manylion i'r cyngor am sut mae'r eiddo'n cael ei reoli a chaiff trwydded ei rhoi ar yr amod bod y cyngor yn fodlon ar y trefniadau hyn.
Bydd angen i ddeiliad arfaethedig y drwydded ynghyd â'r rheolwr fod yn bobl 'addas a phriodol'. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn Trwyddedu Tai Amlbreswyl.
Os ydych yn rheoli HMO y mae'n rhaid cael trwydded ar ei gyfer, cofiwch ofyn i'r landlord am weld copi o'i drwydded HMO cyn i chi osod neu ddechrau rheoli'r eiddo, a sicrhewch nad yw nifer y preswylwyr yn uwch na'r nifer uchaf a nodir ar y drwydded. Sicrhewch eich bod yn gweld y drwydded ac amserlen unrhyw waith sydd wedi'i gynnwys yn amodau'r drwydded. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â ni i gadarnhau statws y drwydded. Bydd angen i ddeiliad y drwydded wneud cais i'r cyngor am amrywiad i'r drwydded os bydd newid i'r rheolwr.
Mae person sy'n rheoli eiddo neu'n gofalu amdano'n troseddu os yw'n gosod HMO y mae angen trwydded arno heb drwydded, neu'n ei osod i fwy o bobl na'r nifer uchaf a nodir ar y drwydded. Os cewch eich dwyn gerbron y llys a'ch cael yn euog, gallech wynebu dirwy hyd at £20,000.
Os nad ydych yn siŵr a yw eiddo wedi'i drwyddedu, gallwch wirio'r Gofrestr Gyhoeddus neu gysylltu â ni. Gallwch hefyd wirio gyda ni os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded ar HMO.