Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025-26
Darperir y rhyddhad ardrethi hwn ar gyfer busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Y nod yw helpu'r sectorau hyn i oresgyn yr heriau economaidd sydd wedi effeithio arnynt dros y blynyddoedd diwethaf.
Cynigir y rhyddhad ardrethi o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026. Bydd y ffurflen gais ar gael ar-lein ar ôl 10.00am ar 2 Ebrill 2025.
Y canlynol yw pwyntiau allweddol y cynllun a bennir gan Lywodraeth Cymru:
- Nod y rhyddhad ardrethi yw parhau i gefnogi busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch: er enghraifft, siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformiadau, gwestai a neuaddau cymunedol sy'n darparu gwasanaethau i ymwelwyr.
- Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais am y rhyddhad ardrethi - os na wneir cais, ni ellir hawlio'r rhyddhad a bydd y swm llawn yn daladwy.
- Uchafswm y rhyddhad fydd gostyngiad gwerth 40% oddi ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo cymwys.
- Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes yng Nghymru. Wrth wneud cais am ryddhad, mae'n ofynnol i bob busnes wneud datganiad nad yw swm y rhyddhad y mae'n ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn.
- I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad, rhaid i'r eiddo gael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y dibenion cymhwyso. Prawf ar ddefnydd yw hwn, yn hytrach na meddiannaeth, felly ni fydd eiddo sy'n cael ei feddiannu, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben cymhwyso, yn gymwys ar gyfer y rhyddhad.
- Rhaid i dalwyr ardrethi wneud ceisiadau i awdurdodau lleol erbyn 31 Mawrth 2026 er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad yn 2025-26. Ni ellir dyfarnu rhyddhad o'r newydd yn ôl-weithredol ar gyfer blynyddoedd blaenorol dan delerau'r cynllun, oni bai fod yr awdurdod lleol yn penderfynu na fyddai wedi bod yn rhesymol disgwyl i'r talwr ardrethi wneud cais yn y flwyddyn berthnasol.
Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022
O 4 Ionawr 2023, daeth system rheoli cymorthdaliadau newydd i rym yn y DU pan gyflwynwyd Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.
Bydd angen i unrhyw ryddhad a ddarperir gan awdurdodau lleol dan y cynllun manwerthu, hamdden a lletygarwch gydymffurfio â rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau domestig a rhyngwladol y DU.
Pan wneir cais i'r cynllun rhyddhad manwerthu, hamdden a lletygarwch, bydd yn ofynnol i fusnesau ddatgan nad ydynt yn torri'r terfyn Cymorth Ariannol Lleiaf. Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar gael yma: Cymorth Ariannol Lleiaf (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Pa fusnesau/sefydliadau nid er elw NAD oes angen iddynt wneud cais am y rhyddhad hwn?
- Elusennau a sefydliadau nid er elw sy'n derbyn rhyddhad elusennol/yn ôl disgresiwn o 100%.
- Talwyr ardrethi sydd â hawl i Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach o 100% ar bob eiddo y maent yn atebol i dalu Ardrethi Annomestig amdano (uchafswm o ddau eiddo mewn unrhyw ardal awdurdod lleol).
Pa fusnesau/sefydliadau nid er elw sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch y MAE angen iddynt wneud cais am y rhyddhad hwn?
- Y rheini sy'n meddiannu eiddo na ellir caniatáu rhyddhad arall ar ei gyfer - er enghraifft, os yw busnes wedi cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar ddau o'i eiddo, ni fydd yn gymwys i gael rhyddhad ar drydydd eiddo (neu fwy). Felly, dylid gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer yr eiddo arall.
- Dylai elusennau/sefydliadau nid er elw/clybiau chwaraeon sydd fel arall â hawl i lai na 100% o ryddhad ardrethi ar eu heiddo wneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar y balans sy'n weddill.
Os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch, e-bostiwch business.rates@abertawe.gov.uk a byddwn yn gwirio hyn ar eich rhan.
Pa fusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn?
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau i gynghorau ar weithredu'r cynllun hwn sy'n nodi'n fras y mathau o ddefnyddiau nad yw Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn ddefnydd manwerthu, hamdden neu letygarwch ac na fyddent yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y rhyddhad. Nid yw'r canllawiau'n darparu rhestr hollgynhwysfawr. Felly, efallai na fydd eiddo tebyg ei naws i'r rhai hynny a grybwyllwyd yn gymwys i gael rhyddhad dan y cynllun.
Gellir dod o hyd i'r canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru: Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025-26 (Busnes Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i bob busnes cymwys ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i gyflwyno cais - ar ôl 10.00am ar 2 Ebrill 2025.
I wneud cais, bydd angen eich bod wedi creu Cyfrif Abertawe. Efallai eich bod eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cyfrif os ydych wedi gwneud cais o'r blaen am grantiau busnes blaenorol neu wasanaethau eraill y cyngor. Os nad oes gennych Gyfrif Abertawe, bydd angen i chi greu un ar ddechrau'r broses ymgeisio.
Ar ôl i chi greu eich cyfrif a/neu fewngofnodi, byddwch yn gweld rhestr o benawdau ar ochr chwith y sgrîn. Dewiswch opsiwn Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26.
Bydd angen cyfeirnod eich cyfrif Ardrethi Busnes i wneud cais. Dangosir hyn ar eich bil.
Ar ôl i chi wneud cais
Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi'i dderbyn.
Yna byddwn yn ystyried eich cais ac yn penderfynu:
- A yw eich busnes yn gymwys ar gyfer y rhyddhad - byddwn yn eich e-bostio i roi gwybod i chi a bydd y rhyddhad yn cael ei gymhwyso i'ch cyfrif ardrethi.
- Os nad yw'ch busnes yn gymwys - byddwn yn eich e-bostio i roi gwybod i chi ac yn esbonio'r rheswm dros ein penderfyniad.
- Os bydd angen rhagor o wybodaeth/dystiolaeth er mwyn gwneud penderfyniad - byddwn yn eich e-bostio i ofyn am yr hyn y mae ei angen arnom.
Sut i dalu'r Ardrethi Busnes sy'n ddyledus
Gwybodaeth ynghylch sut i dalu eich Ardrethi Busnes: Talu Ardrethi Busnes