Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach
Mae busnesau bach a chanddynt werthoedd ardrethol isel yn gymwys i gael gostyngiadau ar eu hardrethi busnes.
Bydd mwyafrif y mangreoedd busnes sydd wedi'u meddiannu a chanddynt werth ardrethol o hyd at £6,000 yn derbyn rhyddhad 100% a bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn canran o ryddhad fel a ddangosir isod:
Gwerth ardrethol | % y rhyddhad |
---|---|
0 - 6000 | 100 |
7000 | 83.4 |
8000 | 66.6 |
9000 | 50 |
10,000 | 33.3 |
11,000 | 16.6 |
12,000 | Nil |
Mae busnesau sy'n gweithredu fel darparwyr gofal plant sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £100,000 yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100%.
Mae busnesau sy'n gweithredu fel swyddfeydd post sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £9,000 yn derbyn rhyddhad ardrethi o 100% a bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad ardrethi o 50%.
Busnesau lluosog
Mewn achosion lle bo'r talwr ardrethi'n gyfrifol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethu annomestig sengl lleol ("rhestr leol"), a bod yr eiddo hynny'n bodloni'r amodau gwerth ardrethol yn unig, yna bydd y talwr ardrethi'n derbyn rhyddhad ar gyfer uchafswm o ddau eiddo o'r fath.
O dan Erthygl 4 y rheoliadau, lle bo trethdalwr yn gyfrifol am dalu ardrethi busnes ar gyfer mwy na dau eiddo a nodir ar y rhestr Ardrethi Annomestig lleol ym mhob ardal y cyngor, sy'n bodloni'r amodau gwerth ardrethol, mae'n rhaid i'r talwr ardrethi roi hysbysiad o'r eiddo hynny i'r Cyngor cyn gynted ag y bo'n rhesymol gwneud hynny.
Cyfrifoldeb y talwr ardrethi yw dweud wrthym a yw'n derbyn mwy na dau Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach ar hyn o bryd mewn perthynas ag unrhyw eiddo y mae'n gyfrifol am dalu ei ardrethi busnes. I roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, cysylltwch â ni.