Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo gwag neu rannol wag

Gall eiddo sy'n wag neu'n rhannol wag fod yn gymwys i gael gostyngiadau neu eithriadau ar eu hardrethi busnes.

Pan ddaw eiddo'n wag, bydd cyfnod cychwynnol lle nad oes ardrethi sef:

  • 3 mis ar gyfer eiddo anniwydiannol
  • 6 mis ar gyfer eiddo diwydiannol

Ar ôl hyn, codir ffi 100% ar fwyafrif yr eiddo gwag.

Ni fydd newid perchnogaeth yn golygu y bydd cyfnod 3 neu 6 mis newydd heb drethi'n dechrau.

Defnydd cyfnod byr - nid yw adeiladau sydd wedi bod yn wag ac yn cael eu defnyddio am lai na 26 wythnos, ac yna'n dod yn wag eto, yn cael cyfnod 3 neu 6 mis arall heb drethi. Codir trethi ar y gyfradd lawn ar gyfer y cyfnod pan fo'r fangre'n wag.

Eiddo gwag wedi'u heithrio rhag talu ardrethi busnes

  • Eiddo gwag â gwerth trethadwy llai na £2,600
  • Eiddo gwag lle mae gan y perchennog hawl i'w ddefnyddio dim ond yn ei rôl fel cynrychiolydd person sydd wedi marw
  • Eiddo gwag lle mae'r gyfraith yn gwahardd ei ddefnyddio (ac eithrio cyfnodau defnyddio anghyfreithlon)
  • Eiddo sy'n wag o ganlyniad i fethdaliad
  • Adeiladau rhestredig gwag

Pris gostyngol ar gyfer eiddo rhannol wag

Caiff eiddo a ddefnyddir yn rhannol wneud cais drwy ni i'r swyddfa brisio i'r gwerth ardrethol gael ei ddosrannu i adlewyrchu'r rhannau a ddefnyddir a'r rhannau na chaiff eu defnyddio.

Ni fyddai'r gwerthoedd newydd yn cael eu dangos ar y rhestr trethi, ond byddai gennym yr hawl i ddefnyddio'r wybodaeth i godi ardrethi ar y lefel is. Bydd y bil ardrethi diwygiedig yn adlewyrchu'r tâl llawn am y rhan a ddefnyddir a thâl 100% neu ddim tâl am y rhan na chaiff ei defnyddio. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Rhowch wybod i ni am eiddo gwag

Dywedwch wrthym ar unwaith pan fydd eiddo'n wag, fel y gallwn gynnal archwiliad.

Hefyd dywedwch wrthym am unrhyw newid mewn meddiannaeth neu ddefnydd o'r eiddo, gan gynnwys unrhyw addasiadau strwythurol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2022