Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhyddhad trosiannol ar gyfer ailbrisiad 2023

Os yw eich gwerth ardrethol wedi cynyddu oherwydd ailbrisiad 1 Ebrill 2023, byddwch yn derbyn rhyddhad trosiannol yn awtomatig os yw eich rhwymedigaeth ardrethi annomestig wedi cynyddu mwy na £300.

Mae hyn wedi'i gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd. Bydd trethdalwr cymwys yn talu 33% o'i rwymedigaeth ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd ei rwymedigaeth lawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26).

Rhaid bod talwr ardrethi cymwys wedi bod yn atebol am ardrethi annomestig mewn perthynas â'r eiddo ar 31 Mawrth 2023, yn ogystal ag o 1 Ebrill 2023, i fod â hawl i'r rhyddhad.

Gellir cael rhagor o fanylion yn: Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2023 (Busnes Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Ebrill 2023