Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol 2 - safleoedd ymgeisiol

Mae safle ymgeisiol yn ardal o dir wedi'i diffinio a gyflwynir i'r cyngor gan barti â diddordeb i'w gynnwys o bosib yn y Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2).

Dechreuodd cyfnod yr 'Alwad am Safleoedd Ymgeisiol' ym mis Awst 2023 a daeth i ben ar 31 Hydref 2023. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd helaeth i'r broses, a darparodd hyn gyfle i unrhyw hyrwyddwr safle neu barti â diddordeb gyflwyno safle i'w gynnwys o bosib yn y CDLl2.

Y dilyn cau'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol, mae'r cyngor bellach yn cynnal yr asesiad Cam 1 (hidlo cychwynnol) o safleoedd a gyflwynwyd, yn unol â'r Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Bydd proses hidlo Cam 1 yn penderfynu a fydd safleoedd yn symud ymlaen i asesiadau manwl Cam 2 a 3 a gynhelir drwy gydol 2024 a 2025 i gyfeirio'r broses o baratoi'r Strategaeth a Ffefrir a'r Cynllun Adnau.  Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol gan hyrwyddwyr safle i gyfeirio'r hidlo cychwynnol, bydd y cyngor yn cysylltu â'r hyrwyddwyr safle'n uniongyrchol.

Arweiniad a Methodoleg Asesu

Mae'r cyngor wedi llunio Arweiniad Safleoedd Ymgeisiol a nodyn Methodoleg Asesu cynhwysfawr i helpu'r rheini sy'n bwriadu cyflwyno safleoedd.

Mae hwn yn darparu arweiniad cam wrth gam ar sut i ateb pob cwestiwn sydd ar y ffurflen gyflwyno safleoedd ymgeisiol, ac yn darparu gwybodaeth am lefel y dystiolaeth y mae ei hangen ar y cyngor gan gyflwynwyr i'w alluogi i wneud asesiad cadarn o gynaladwyedd, y gallu i gyflawni a dichonoldeb ariannol y safle. Mae'r nodyn hefyd yn nodi'r Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol a'r meini prawf y bydd y cyngor yn ei ddefnyddio i asesu safleoedd i benderfynu a ydynt yn addas i'w cynnwys yn y CDLl2.  

CDLl Newydd Abertawe Arweiniad ar Safleoedd Ymgeisiol a Methodoleg Asesu Awst 2023 (PDF) [1MB]

Map Cyfyngiadau a Gwybodaeth

Mae map cyfyngiadau a gwybodaeth cynhwysfawr wedi'i baratoi i gynorthwyo hyrwyddwyr safle. Sylwer, er bod yr wybodaeth yn cynrychioli'r data mwyaf cyfredol sydd ar gael i'r cyngor ar yr adeg cyhoeddi, cyfrifoldeb hyrwyddwr y safle yw gwirio'r holl wybodaeth o ran cywirdeb. Mae'r map yn cynnwys haen o wybodaeth sy'n ymwneud â dynodiadau presennol y CDLl.  Darperir hyn fel pwynt cyfeirio'n unig, gan y caiff dynodiadau o'r fath eu hadolygu fel rhan o'r CDLl2. Gellir cyrchu'r mapio drwy'r canlynol: Map Cyfyngiadau a Gwybodaeth Galwad am Safleoedd Ymgeisiol Cyngor Abertawe (opus4.co.uk) 

Mae'n bwysig nodi mai ymarfer casglu tystiolaeth yw'r Alwad am Safleoedd, ac mae'n gam cynnar statudol ym mhroses y CDLl2.  Nid yw'r cyngor yn gwarantu y bydd unrhyw Safle Ymgeisiol a gyflwynir yn ystod y broses hon yn cael ei ddyrannu yn y CDLl2. 

 phwy y dylwn gysylltu?

Os hoffech drafod y broses o gyflwyno safle neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill sy'n ymwneud â'r CDLl2, yna e-bostiwch cdll@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 07814 105625.

 

Cwestiynau cyffredin

Pryd byddaf yn gallu gweld pa safleoedd sydd wedi'u cyflwyno? 

Bydd y cyngor yn cyhoeddi Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol o'r holl safleoedd a gyflwynwyd yn ystod y cam Galwad am Safleoedd cyn iddo gyhoeddi'r Strategaeth a Ffefrir drafft i ymgynghori arno. Bydd y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn cynnwys manylion canlyniad  hidlad Cam 1 cychwynnol o'r safleoedd a gyflwynwyd.

A allaf gyflwyno safle nawr bod y Cam Galwad am Safleoedd wedi dod i ben? 

Nid yw'r Cyngor yn gwahodd pobl i gyflwyno unrhyw safleoedd ymgeisiol pellach cyn cam Strategaeth a Ffefrir CDLl2. Mae gwaith yn parhau i ymgymryd ag asesiadau safle manwl o'r holl rai a gyflwynwyd. 

Bydd y cyfle nesaf i hyrwyddwyr gyflwyno safleoedd i'w hystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori drafft ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir ddrafft, y disgwylir i hyn ddigwydd ar ddiwedd 2024.

Beth sy'n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir?

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, bydd y cyngor yn ceisio gorffen yr asesiadau manwl o'r holl safleoedd a basiodd hidlad cychwynnol Cam 1.  Fel rhan o'r Asesiad Cam 2 gall y cyngor ofyn am ragor o wybodaeth gan hyrwyddwyr safle yn ôl yr angen a allai gynnwys tystiolaeth ychwanegol ar ddichonoldeb er enghraifft.

Pryd byddaf yn gwybod a yw fy safle'n cael ei gynnig i'w ddyrannu yn y CDLl2? 

Y Strategaeth a Ffefrir yw pan fydd y cyngor yn nodi ei gyfeiriad ar gyfer twf a'i nodau strategol, a all gynnwys nodi safleoedd strategol. Os bwriedir i'ch safle fod yn safle strategol yna bydd y cyngor yn cysylltu â chi yn y cyfnod sy'n arwain at gyhoeddi'r Strategaeth a Ffefrir ddrafft oherwydd gall fod gofyniad i ddarparu asesiadau priodol a thystiolaeth fanwl arall ar gyfer y safle hwnnw. Ar gyfer yr holl safleoedd eraill, cam y Cynllun Adnau yw lle bydd y cyngor yn nodi'r rheini y maent yn ystyried eu bod yn addas i'w dyrannu.

Cyn bod y Cynllun Adnau yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad, bydd y cyngor yn cysylltu â hyrwyddwyr safle perthnasol i sicrhau bod yr holl dystiolaeth ategol angenrheidiol yn cael ei chyflwyno ar gyfer unrhyw ddyraniad arfaethedig. Disgwylir i'r ymgynghoriad ar y CDLl adnau ddechrau yn haf/hydref 2025. Bydd safleoedd yn cael eu cadarnhau'n ffurfiol fel dyraniadau ar ôl y broses Archwilio'n unig, unwaith bydd yr Arolygydd penodedig yn fodlon bod y cynllun yn gadarn.

Close Dewis iaith