Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
Yr egwyddorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y choedd.
Beth yw'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol?
Mae hyn yn golygu | Byddwn ni | |
---|---|---|
Gwybodaeth | Mae gennych chi'r hawl i wybodaeth sy'n hawdd ei deall ac sy'n gadael i chi wneud penderfyniad gwybodus. | Yn darparu gwybodaeth o safon dda, yn glir ac yn hawdd mynd ati. Yn rhoi gwybod i chi pwy sy'n mynd i wrando a gadael i chi wybod pa wahaniaeth gallai'ch cyfranogiad chi ei wneud. |
Chi biau'r dewis | Mae gennych chi'r hawl i ddewis cymryd rhan a gweithio ar bethau sy'n bwysig i chi. | Yn rhoi digon o gefnogaeth ac amser i chi ddewis a ydych chi eisiau cymryd rhan. |
Dim gwahaniaethu | Mae plant a phobl ifanc i gyd yn wahanol ac mae ganddyn nhw'r hawl i gael eu trin yn deg. | Yn herio gwahaniaethu. Yn cynnig amrediad o gyfleoedd a chefnogaeth i fodloni anghenion plant a phobl ifanc. |
Parch | Mae gennych chi'r hawl i leisio barn. Mae'ch safbwyntiau chi'n bwysig a chant eu parchu. | Yn gwrando ar eich barn, eich profiadau a'ch syniadau ac yn eich cymryd chi o ddifri. Yn gweithio gyda chi ar bethau rydych chi'n dweud eu bod nhw'n bwysig. Yn gwerthfawrogi beth sydd gennych chi i'w gynnig. |
Bod ar eich ennill | Mae gennych chi'r hawl i ddysgu a bod y gorau y gallwch chi fod. Bydd gennych chi gyfleodd i weithio gyda phobl eraill a gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni eisiau i chi gymryd rhan mewn profiadau positif. | Yn gweithio gyda chi mewn ffordd ddiogel, hwyl a phleserus. Yn manteisio i'r eithaf ar beth rydych chi'n ei wybod ac yn gwneud pethau sy'n meithrin eich hyder a'ch sgiliau chi. |
Adborth | Mae gennych chi'r hawl i wybod pa wahaniaethau rydych chi wedi eu gwneud a sut mae rhywun wedi gwrando ar eich syniadau chi. | Bob amser yn sicrhau eich bod chi'n cael adborth o fewn amser sydd wedi'i gytuno. Yn dweud wrthych chi ut mae'ch syniadau wedi caeal eu defnyddio a pharn. Yn dweud wrthych chi beth sy'n digwydd nesaf. |
Gweithio'n well drosoch chi | Dylai'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc roi hawliau plant yng nghanol popeth maen nhw'n ei wneud. | Yn gweithio gyda chi ac yn dysgu sut i wneud pethau'n well. Yn gwneud yn siwr bod eich barn yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd rydyn ni'n gwneud cynlluniau a phenderfyniadau. |
Sut mae'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn cysylltu a'r egwydorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y cyhoedd?
Dyma'r egwyddorion cenedlaethol ar gyfer cynnwys y cyhoedd. Egwyddorion nid safonau. Maent yn gyfres drosgynnol o egwyddorion ar gyfer sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ar draws pob sector yng Nghymru. Diben yn rhain yw bod uwchlaw unrhyw safonau penodol y gallech eisoes fod yn eu defyddio e.e. Safonau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, safonau Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol, a bwriedir iddynt eu hategu. Maent yn ceisio cynnig ymagwedd gyson a safon dda ar gyfer cynnwys y choedd ar draws Cymru.