Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023
Gwnaed SATC yn ddeddfwriaeth gan Ddeddf Tai (Cymru) 204 ac mae wedi bod yn ofynnol i Ddinas a Sir Abertawe fel landlord fodloni'r safon hon fel rhwymedigaeth gyfreithiol.
Cyhoeddwyd y SATC 2023 diwygiedig ym mis Ebrill 2024 ac mae manylion llawn i'w cael yn: Safon ansawdd tai Cymru (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
I fodloni'r safon, mae'n rhaid i gartrefi fod:
- mewn cyflwr da
- yn ddiogel
- yn fforddiadwy i'w gwresogi ac yn cael yr effaith amgylcheddol lleiaf bosib; yYn cynnwys cegin ac ardal gyfleustodau cyfredol
- yn cynnwys ystafell ymolchi gyfredol
- yn gyfforddus ac yn hyrwyddo lles
- yn cynnwys gardd addas
- yn cynnwys ardal awyr agored ddeniadol
Rheoliadau eraill
Er bod SATC ei hun yn ofyniad cyfreithiol, mae'r safon hefyd yn dod â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol eraill ynghyd fel y System Raddio Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae hefyd yn cysylltu â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) Cymru 2022.
Sut caiff SATC 2023 ei ariannu?
Darperir y cyllid gan gyfuniad o incwm rhent tai cyngor ac arian a fenthycwyd. Rhoddir rhan o'r buddsoddiad hwn i ni fel grant Lwfans Atgyweirio Sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Yn 2025/26 byddwn yn derbyn £9,283,000 gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei wario ar gynlluniau gwella SATC. Mae'r grant hwn yn helpu i wella bywydau'r rhai sy'n byw yn nhai'r cyngor, yn ogystal â darparu buddion cymunedol. Ar y cyfan, yn 2025/26 byddwn yn gwario £46m ar welliannau SATC.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi rhaglenni unigol gyda chyllid grant y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a chyllid ar gyfer diogelwch tân.
Mae rhagor o wybodaeth am yr arian grant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gael ar ei gwefan yn: Safon ansawdd tai Cymru (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Cydymffurfiad
Ataliwyd adrodd am gydymffurfio wrth i'r safon newydd gael ei datblygu. Adroddir am y ffigurau cydymffurfio nesaf wrth Lywodraeth Cymru yn ystod y Pasg 2025.
