Toglo gwelededd dewislen symudol

Seibiannau Byr Cymru

Cynllun Seibiannau Byr, yw'r gronfa grant ar gyfer sefydliadau trydydd sector sy'n darparu seibiannau byr personol, hyblyg a chreadigol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Gall seibiant byr chwarae rôl ataliol hanfodol drwy helpu'r berthynas sy'n darparu'r gofal ac atal gofalwyr rhag dioddef ofid emosiynol, iechyd meddwl, neu gorfforol. Mae'n gyfle i ofalwyr di-dâl adfer eu hegni. Mae'n cynnig seibiant rhag heriau beunyddiol gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cynllun Seibiannau Byr ar gyfer gofalwyr di-dâl a'i nod yw galluogi 30,000 o ofalwyr i gymryd seibiant o ofalu erbyn 2025.

Mae ystod o opsiynau seibiant yng Ngymru wedi'u hariannu drwy'r rhaglen hon i gwella gwydnwch a llesiant gofalwyr a chefnogi cynaliadwyedd perthynas ofalu'r gofalydd.

I wneud cais am seibiant byr, dylai gofalwyr di-dâl gysylltu â'u darparydd lleol yn uniongyrchol.

Dewch o hyd i seibiant byr wedi'i ariannu yn eich ardal chi ar www.shortbreaksscheme.wales/dod-o-hyd-i-seibiant-byr/chwilio.

Mae manylion llawn ar gael ar www.shortbreaksscheme.wales/cymraeg/hafan.

Close Dewis iaith