Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Seremonïau mewn lleoliadau cymeradwy

Gellir cynnal priodasau a phartneriaethau sifil mewn amrywiaeth o fangreoedd. Mae'r rhain yn cynnwys gwestai, amgueddfeydd, theatrau a hyd yn oed stadia pêl-droed.

Gelwir y rhain yn Lleoliadau Cymeradwy. Gwelir isod restr o'r lleoliadau yn Abertawe sydd wedi'u trwyddedu.

Sut i drefnu seremoni

Gallwch drefnu cofrestrydd ar gyfer eich seremoni hyd at ddwy flynedd ymlaen llaw. Mae'n rhaid i chi wneud hyn drwy ebost cofrestryddion@abertawe.gov.uk. Ar gyfer trefniadau a wneir mwy na blwyddyn ymlaen llaw, bydd angen i chi dalu ffi na chaiff ei had-dalu i sicrhau'r amser a'r dyddiad nes y gellir cwblhau'r hysbysiad o briodas.

Sylwer, na chaiff eich trefniadau eu cadarnhau'n derfynol nes i chi gyflwyno'ch hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil o fewn yr amserlenni statudol.

Chi sy'n gyfrifol am drefnu gyda'r lleoliad a Swyddfa'r Cofrestrydd i sicrhau bod cofrestryddion ar gael ar y diwrnod rydych am gynnal eich seremoni.

Byddwn yn ceisio diwallu'ch anghenion lle bynnag y bo modd ond ni allwn warantu y gallwn fodloni'ch dyddiad ac amser o ddewis.

Lleoliadau cymeradwy yn Abertawe

Ystafell Cefn Bryn, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN   Ffôn: 01792 636188

Clyne Farm Centre, Westport Avenue, Mayals, Abertawe SA3 5AR Ffôn: 01792 403333

Gwesty'r Dragon, Cylch Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5LS   Ffôn: 01792 657100

Fairyhill, Reynoldston, Gŵyr, Abertawe SA3 1BS   Ffôn:  01792 390139

Clwb Golff Gŵyr, Fferm Cefn Golau, Y Crwys SA4 3HS   Ffôn: 01792 872480

Neuadd y Ddinas, (Neuadd Brangwyn, Neuadd Siôr, neu Ystafell yr Arglwydd Faer), Abertawe SA1 4PE   Ffôn: 01792 635432

Ystafell Cilfái, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN Ffôn: 01792 636188

Gwesty'r King Arthur, Higher Green, Reynoldston, Gŵyr SA3 1AD   Ffôn: 01792 390775

Gwesty'r Manor Park, Heol Ynyspenllwch, Clydach SA6 5NR   Ffôn: 01792 846999

Gwesty Mercure, Ffordd y Ffenics, Abertawe SA7 9EG Ffôn: 01792 310330

Gwesty Morgans, Somerset Place, Abertawe SA1 1RR   Ffôn: 01792 484848

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ardal Forol, Abertawe SA1 3RD   Ffôn: 01792 638974

Tŷ Norton, 17 Heol Norton, Norton, Abertawe SA3 5TQ   Ffôn: 01792 404891

Ocean View, Fferm Melin Wynt, Gŵyr SA3 1HB Ffôn: 01792 974928

Oldwalls Leisure Ltd, Oldwalls, Gŵyr, Abertawe SA3 1HA   Ffôn: 01792 391468

Gwesty Bae Oxwich, Bae Oxwich, Gŵyr SA3 1LS   Ffôn: 01792 390329

Tŷ Parc Le Breos, Penmaen, Abertawe SA3 2HA Ffôn: 01792 371636

Gwesty Marriott Abertawe, Cei Victoria, Ardal Forol, Abertawe SA1 3SS   Ffôn: 01792 642020

Gwesty a Chlwb Hamdden y Village, Glannau Abertawe, Ffordd Fabian, SA1 8QY   Ffôn: 01792 479930

Gwesty Gŵyr, 11 Lôn yr Eglwys, Llandeilo Ferwallt SA3 3JT    Ffôn: 01792 232074

Stadiwm Swansea.com, Parc Manwerthu'r Morfa, Ffordd Brunel SA1 2FA   Ffôn: 01792 616400

The River House, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8AW Ffôn 01792 649060

The Grand Hotel, Plas Ivey, Abertawe SA1 1NX Ffôn: 01792 645898

The Willows, Clwb Golff Pontarddulais, Heol Allt-y-Graban, Pontarddulais, SA4 9DT Ffôn: (01792) 883279