Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgam ad-daliad OFGEM

Mae sgam ad-daliad ynni yn mynd ar led ar hyn o bryd lle mae twyllwyr yn anfon e-byst ffug yn esgus taw Ofgem (Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan) sydd wedi'u hanfon.

Mae'r e-byst ffug, sy'n edrych yn swyddogol, yn gofyn i bobl am fanylion eu cyfrif banc erbyn 1 Mehefin er mwyn derbyn taliad o £200 a fydd yn helpu i dalu tuag at gostau eu biliau ynni.

Sylwer bod y dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr e-byst ffug hyn yn arwain at wefannau sydd wedi'u dylunio i ddwyn manylion personol ac ariannol.

Ni fyddai banciau Ofgem byth yn gofyn am y manylion hyn dros neges destun na thrwy e-bost.

Os oes angen i chi wirio a yw'n neges ddilys, cysylltwch ag Ofgem yn uniongyrchol, ond peidiwch â defnyddio unrhyw fanylion cyswllt o'r e-bost ffug rydych yn ei dderbyn. Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt cywir yma: https://www.ofgem.gov.uk/about-us/contact-us

Gallwch hefyd roi gwybod i'r heddlu am sgamiau tebyg yn https://www.actionfraud.police.uk/welsh