Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe - Arweiniad gwybodaeth, sgiliau a galluoedd

Ar ôl datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd, efallai bydd angen help arnoch o hyd i wybod sut i'w defnyddio er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa.

Gwybodaeth - y pynciau, y testunau a'r eitemau o wybodaeth y dylai gweithiwr eu gwybod.

Sgiliau - technegol neu law, sy'n cael eu dysgu neu eu caffael fel arfer drwy hyfforddiant.

Galluoedd - defnyddio amrediad o wybodaeth a sawl sgil ar yr un pryd er mwyn cwblhau tasg.

 

Gall Abertawe'n Gweithio eich helpu i ddatblygu'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch galluoedd.

Bydd gennych yr holl rannau cywir. Meddyliwch am fotor car. Eich meddwl yw'r motor ac mae gennych bellach yr holl wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd sy'n angenrheidiol er mwyn i'ch cerbyd droi.

Yr allwedd yn y lle tanio yw meddwl yn gadarnhaol. Pan fydd yr allwedd yn troi, mae cylch y motor yn dechrau. Caiff aer a thanwydd eu tynnu i'r silindrau ac yna mae'r plygiau tanio'n tanio. Mae hyn yn dechrau'r tanio mewnol. Gyrrwch, peidiwch â symud yn ôl!

Os ydych wedi dilyn cwrs yn ddiweddar, os ydych wedi magu hyder mewn meysydd eraill, os ydych wedi derbyn cyngor, anelwch at eich nod ar yr adeg honno, gan arddangos eich sgiliau mewn modd cymwys. Peidiwch ag ofni'ch doniau na'u gwastraffu.

 

Dilynwch yr arweiniad isod i'ch helpu ar hyd y ffordd:

1. Rhestrwch y cryfderau rydych wedi'u hennill a'r gwendidau rydych wedi'u goresgyn.

2. Nodwch eich sgiliau newydd yn ysgrifenedig (CV, llythyrau eglurhaol a cheisiadau am swyddi), wyneb yn wyneb (mewn cyfarfodydd ac mewn cyfweliadau) ac ar-lein (llwyfannau cyfryngau a gwneud ceisiadau am swyddi ar-lein) Byddwch yn falch o'ch hyfforddiant a'ch gwybodaeth. Peidiwch ag ofni'u defnyddio a'u harddangos.

3. Byddwch yn arbenigwr wrth weithredu. Efallai y crybwyllir nerfau ac esgusodion yn rhy aml er mwyn osgoi gweithredu. Pan fo cyfleoedd ar gyfer datblygu, canolbwyntiwch ar eich cynnydd ei ch hun.

4. Rhannwch eich gwybodaeth a chefnogwch eraill wrth i chi symud yn uwch. Cymerwch amser i annog eich cydweithwyr i achub ar eu cyfleoedd eu hunain. Efallai na chewch chi eich synnu gan faint rydych chi'n ei wybod, ond bydd eraill yn synnu. Bydd pobl yn gwerthfawrogi eich bod yn rhannu ac yn eu cefnogi ar hyd y ffordd.

5. Ymrwymwch i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Ceisiwch ffyrdd newydd o wella'ch cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ionawr 2023