Ceisiadau am hawlen sgip
Mae'n rhaid gwneud cais am hawlen er mwyn gosod sgip ar y briffordd. Dylid gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn eich bod yn bwriadu ei osod ar y briffordd.
Gellir gosod uchafswm o 2 sgip i bob hawlen ar unrhyw adeg. Sylwer, yng nghanol y ddinas dylid gorchuddio a chloi pob sgip, a bydd angen i sgipiau mewn mannau penodol ar y briffordd gynnwys goleuadau a chonau.
Mae pob hawlen yn ddilys am 28 niwrnod. Os bydd angen cadw'r sgip ar y briffordd am gyfnod hwy, bydd angen gwneud cais am hawlen newydd. Os bydd angen yr hawlen am lai na 28 niwrnod bydd y tâl llawn yn gymwys o hyd.
Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn. Rhaid cyflwyno copi cyfredol o'ch tystysgrif yswiriant gyda'ch cais. Byddwch yn gallu lanlwytho fersiwn electronig fel rhan o'r ffurflen.
Os ydych yn gosod sgip ar dir preifat lle nad oes gan aelodau'r cyhoedd fynediad iddo, ni fydd angen sgip arnoch.
Caniatâd Dealledig
Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, e-bostiwch priffyrdd@abertawe.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792 843330 neu e-bostwich priffyrdd@abertawe.gov.uk