Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaethau bysus a threnau

Mae'r adroddiadau hyn yn darparu polisi a strategaeth ar gyfer teithio ar fysus a threnau yn Ninas a Sir Abertawe a De Orllewin Cymru.

Bws

Lluniwyd y Strategaeth Rhwydwaith Rhanbarthol hon gan gyn Gonsortiwm Trafnidiaeth Integredig De-orllewin Cymru (SWWITCH), y Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTC) dros dde-orllewin Cymru sy'n cynnwys awdurdodau lleol Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae'r ddogfen hon yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru, ym mis Ionawr 2013, i ddisodli'r trefniadau ariannu blaenorol; y Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysus (BSOG), y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Leol (LTSG) a'r Fenter Tocynnau Consesiynol Trafnidiaeth Gymunedol (CTCFI), gyda chynllun ariannu sengl o'r enw'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol (RTSG).

Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd y trefniadau ariannu bysus newydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag amddifadedd a chefnogi byw'n annibynnol ledled Cymru drwy wobrwyo cwmnïau preifat sy'n cyflwyno targedau mesuradwy y mae teithwyr am eu gweld fwyaf yn hytrach nag ad-dalu gweithredwyr bysus o ran defnydd tanwydd.'

Trên

Datblygwyd y Strategaeth Rheilffyrdd Ranbarthol mewn partneriaeth â phedwar cyngor yn Ne-orllewin Cymru er mwyn darparu polisi a strategaeth argymelledig ar gyfer gwella gwasanaethau trên ar draws y rhanbarth. Er bod rheilffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli i'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru a bod eiu rheolaeth a'u datblygiad yn gyfrifoldeb Network Rail, nod y strategaeth hon yw darparu strategaeth argymelledig o safbwynt yr awdurdodau lleol.

Datblygwyd y strategaeth gan ymgynghoriaeth drafnidiaeth sy'n arbenigo mewn cynllunio rheilffyrdd, ac mae argymhellion a chasgliadau'r adroddiad wedi cael eu defnyddio i lobïo Network Rail wrth iddo baratoi ei gynlluniau ar gyfer y rhwydwaith rhanbarthol. Gellir cael copi o'r Strategaeth Rheilffyrdd Ranbarthol o'r adran lawrlwythiadau isod.

Close Dewis iaith