Strategaeth ddigidol
Mae Strategaeth Digidol 2023-28 yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes a'i nod yw cyfrannu at strategaethau partneriaeth ehangach.
Rhagair
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a'r Dirprwy Arweinydd
"Mae technoleg ddigidol wedi trawsnewid sut mae pobl yn byw, yn dysgu ac yn gweithio. Mae defnydd o'r rhyngrwyd wedi tyfu'n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf i'r pwynt lle mae bellach yn cael ei ystyried fel y pedwerydd cyfleustod. Yn annhebyg i unrhyw gyfnod arall yn ein hanes, gall pawb bellach gael mynediad at lawer iawn o wybodaeth drwy wasgu botwm yn unig; ac mae'r dyfeisiau y gall pobl eu prynu yn mynd yn llai, yn rhatach, ac yn fwy cyfleus bob blwyddyn.
Cymeradwyodd y Cabinet y Strategaeth Digidol gyntaf ym mis Tachwedd 2015 a gwnaed cynnydd sylweddol dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'r strategaeth newydd a diwygiedig hon yn adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn. Nid yw'n ymwneud â thechnoleg er ei fwyn, yn hytrach mae'n ymwneud â defnyddio dulliau digidol i wella ansawdd bywyd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr ag Abertawe."
Rhagarweiniad
Dros y saith mlynedd diwethaf mae Cyngor Abertawe wedi gwneud y canlynol:
- Gwella ac ehangu'n sylweddol y ffordd y gall preswylwyr a busnesau roi gwybod am bethau, gofyn, gwneud cais a thalu am wasanaethau drwy ei wefan. Mae'r defnydd o ffurflenni ar-lein wedi cynyddu dros 50% dros y pum mlynedd diwethaf
- Gweithio i wella cysylltedd digidol a band eang ar draws y ddinas a'r sir ac wedi dechrau ar y daith tuag at ddod yn ddinas glyfar
- Gwella isadeiledd a systemau digidol mewnol y cyngor yn sylweddol i gefnogi staff a Chynghorwyr a chynyddu effeithlonrwydd
- Cefnogi preswylwyr gyda hyfforddiant a chyngor digidol
- Cyflwyno cannoedd o brosiectau digidol gan gynnwys meysydd fel awtomeiddio, gweithio'n ddi-bapur, y rhyngrwyd pethau, a Chyfrif Abertawe i breswylwyr a busnesau.
Mae Strategaeth Digidol 2023-28 yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes a'i nod yw cyfrannu at strategaethau partneriaeth ehangach.
Ein nodau digidol
- Gwasanaeth Cwsmeriaid Rhagorol sy'n cyd-fynd â'n safonau gwasanaeth
- Gwasanaethau digidol sy'n canolbwyntio ar bobl
- Isadeiledd a systemau digidol cadarn
- Data hygyrch sy'n cefnogi cymunedau a pherfformiad y cyngor
- Gweithlu a chymunedau sy'n fedrus ac yn hyderus yn ddigidol
- Dinas a sir sydd wedi'i chysylltu'n ddigidol
Ein hegwyddorion arweiniol
Canolbwyntio ar Bobl - Rydym yn rhoi dinasyddion, cymunedau, busnesau a'n partneriaid wrth wraidd popeth a wnawn, yn gweithio gyda nhw pryd bynnag y bo modd i ddylunio gwasanaethau sy'n seiliedig ar yr hyn y maent ei eisiau a'i angen.
Cydweithrediad - Rydym yn cefnogi cydweithio ar draws y cyngor a chyda'n partneriaid i gydlynu ein gwaith.
Agored ac Eglur - Rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail data a thystiolaeth ac yn cyhoeddi ein targedau a'n canlyniadau.
Arloesol - Rydym yn croesawu ffyrdd newydd o weithio ac yn moderneiddio ein hoffer, ein technoleg a'n lleoedd yn barhaus.
Diogel - Rydyn ni'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r holl ddata a gwybodaeth rydyn ni'n eu defnyddio.
Canlyniadau allweddol a ddymunir
- Mae cwsmeriaid yn cael profiad cadarnhaol bob tro wrth gael mynediad at wasanaethau'r cyngor ac yn ddelfrydol byddent yn rhan o'u dyluniad
- Cefnogir dinasyddion i ddatblygu sgiliau digidol a all wella eu bywydau
- Lle bynnag y bo'n bosib mae prosesau'r cyngor yn ddigidol o'r dechrau i'r diwedd
- Mae gwasanaethau digidol yn cael eu dylunio a'u darparu yn unol ag anghenion pobl
- Mae'r isadeiledd a'r systemau digidol yn ddiogel, yn effeithlon ac yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau'r cyngor
- Mae tystiolaeth bod y broses benderfynu a pherfformiad wedi gwella drwy well deallusrwydd busnes
- Mae gan y cyngor y gallu sydd ei angen arno i gyflawni'r strategaeth digidol
- Mae Abertawe'n ddinas glyfar gydag isadeiledd digidol sy'n cefnogi'r economi leol.
Sut byddwn yn mesur ein perfformiad
- Cydymffurfio â safonau gwasanaethau cwsmeriaid cyhoeddedig y cyngor
- Nifer y cwynion cyfiawn i'r cyngor (cam 1 a cham 2)
- Nifer y prosesau awtomataidd (o'r dechrau i'r diwedd)
- Nifer y taliadau sy'n cael eu cwblhau ar-lein
- Nifer y defnyddwyr Cyfrif Abertawe
- Nifer y prosiectau arloesedd digidol sydd wedi'u cwblhau
- Swm y data agored sydd ar gael i gymunedau
- Nifer y cyfleoedd Cyflogaeth a Dysgu Gwell
- Nifer y prosiectau Dinas Glyfar sydd wedi'u cyflawni
- Adborth gan ein defnyddwyr gwasanaeth lle bo hynny'n bosib.
Pam mae angen Strategaeth Digidol arnom
Mae gan y cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dinas a sir Abertawe sydd wedi'u nodi yn ein cynllun corfforaethol, sy'n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2023.
Mae technoleg ddigidol eisoes yn cael ei defnyddio fel dull strategol allweddol ar gyfer cefnogi cyflawni chwe phrif flaenoriaeth y cyngor, gan gynnwys:
- Diogelu pobl rhag niwed: rydym yn defnyddio datrysiadau digidol (e.e., technoleg gynorthwyol i gefnogi byw'n annibynnol) ac yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd i integreiddio gwasanaethau a systemau
- Gwella Addysg a Sgiliau: rydym yn darparu dysgu rhithwir, cymunedau addysgu, rhwydweithiau ar-lein, pyrth datblygu a data agored ac atebion digidol cynaliadwy ar gyfer ysgolion
- Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd: rydym yn gweithio tuag at ddod yn Ddinas Glyfar ac yn hwyluso isadeiledd cyflym iawn i gefnogi busnesau technoleg newydd, cyflogaeth a thwristiaeth
- Trechu Tlodi: rydym yn cynyddu sgiliau digidol a chynhwysiad digidol i wella mynediad pobl at gyflogaeth a gostyngiadau manwerthu ar-lein, lleihau unigedd, cynyddu canlyniadau i bobl ifanc, ac arbed amser wrth ymdrin â'r cyngor
- Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd: rydym yn rhoi technolegau a chaledwedd digidol newydd ar waith a fydd yn cefnogi'r amgylchedd naturiol ac yn lleihau ôl troed carbon y cyngor
- Trawsnewid a Datblygu'r cyngor yn y Dyfodol: rydym yn defnyddio'r offer a'r technolegau digidol diweddaraf i gefnogi arloesedd ac effeithlonrwydd, gan gynyddu e-ddemocratiaeth ac ailddylunio gwasanaethau i wella effeithiolrwydd a hygyrchedd, fel cynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth lle bo modd.
Fodd bynnag, bydd angen i'r cyngor fynd i'r afael â nifer o heriau allanol a mewnol wrth iddo geisio cyflawni ei amcanion dros y blynyddoedd nesaf a bydd technoleg ddigidol yn bwysicach nag erioed wrth helpu'r cyngor i wneud hyn.
Cyd-destun Allanol
Mae ystod eang o ffactorau allanol a fydd yn effeithio ar flaenoriaethau'r cyngor a'r potensial i ddefnyddio technoleg ddigidol i'w bodloni, gan gynnwys:
Gwleidyddol:
- Ysgogwr "Unwaith i Gymru" o Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol, Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol a'r CLlLC sy'n annog cydweithio ynghylch systemau a darparu gwasanaethau
Economaidd:
- Mae cryfder y farchnad lafur leol a threfniadau cyflog a gwobrwyo yn effeithio ar allu'r cyngor i recriwtio a chadw gweithwyr technegol sydd â'r sgiliau cywir ar yr adeg gywir.
- Bydd setliadau ariannol a lefelau treth y cyngor disgwyliedig yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau'r cyngor a thrawsnewid digidol
- Cynnydd esbonyddol mewn seiberdrosedd ac ymosodiadau seibr ar gyrff cyhoeddus
- Galw i wella isadeiledd craidd a band eang ar gyfer preswylwyr a busnesau ledled Abertawe.
Cymdeithasol:
- Mae niferoedd uchel o bobl yn Abertawe yn defnyddio'r rhyngrwyd na chyfartaledd Cymru a'r DU
- Roedd gan 86% o gartrefi Abertawe fynediad at y rhyngrwyd gartref yn 2017-18.
- Mae cyfraddau eithrio digidol Abertawe yn gymharol isel
- Mae'r pandemig wedi cynyddu cyflymder newid sianeli i ddulliau ar-lein a thros y ffôn
- Bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at fwy o alw am wasanaethau a chyswllt â chwsmeriaid
Technolegol:
- Mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol yn newid ymddygiad cwsmeriaid (gyda galw cynyddol am wasanaethau ar-lein a disgwyliadau am fynediad 24/7 at wasanaethau) ac yn creu cyfleoedd i'r gweithlu wneud prosesau a gwasanaethau'n fwy ymatebol ac effeithlon
- Mae technolegau gweithio o bell yn cefnogi recriwtio y tu hwnt i'r farchnad lafur leol ac yn helpu gyda chadw gweithwyr
- Y Rhyngrwyd Pethau, fel technolegau cynorthwyol (e.e. larymau personol, adnabod olion bysedd); synwyryddion (e.e. i ganfod llygredd aer, argaeledd maes parcio ac i wirio a yw biniau'n llawn); ac anfon rhybuddion i ffonau clyfar.
Cyfreithiol:
- Wrth i gyfleoedd godi i rannu data ar draws ffiniau, bydd angen i ni sicrhau bod llywodraethu priodol ar waith i ddiogelu data a bodloni gofynion deddfwriaethol.
Amgylcheddol:
- Mae newid yn yr hinsawdd yn ysgogi mwy o weithio ystwyth a sianeli gwasanaethau cwsmeriaid digidol oherwydd llai o deithio (er gall yr argyfwng costau byw fod yn effeithio ar hyn yn y tymor byr).
Byd-eang:
- Gall dylanwadau byd-eang ar dechnoleg ddigidol arwain at bwysau gan gwsmeriaid i groesawu atebion digidol newydd yn gynt nag sy'n fforddiadwy.
Cyd-destun Mewnol
Mae'r cyngor yn darparu neu'n comisiynu mwy na dau gant o wasanaethau ar draws ystod o swyddogaethau, o addysg a gofal cymdeithasol i wasanaethau hamdden ac iechyd yr amgylchedd. Mae gennym 12,000+ o weithwyr, gan gynnwys tua 6,000 mewn ysgolion, ac mae pob un ohonynt yn defnyddio technoleg ddigidol i gyflawni eu swyddi.
Mae rhai o'r ffactorau allweddol mewnol a fydd yn effeithio ar allu'r cyngor i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi cyflawni ei flaenoriaethau o fewn cyfyngiadau'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys:
- Gallu'r gweithlu: bydd angen gallu digonol i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd gan dechnoleg ddigidol i'w cynnig
- Recriwtio a Chadw staff: mae heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff sydd â'r sgiliau angenrheidiol
- Gweithio Ystwyth: Cyn y pandemig roedd y sefydliad wedi mabwysiadu polisi gweithio ystwyth a oedd yn galluogi gweithwyr i weithio o bell, ac roedd hyn yn berthnasol i'r holl staff swyddfa yn 2020, ac mae wedi bod yn weithredol ers hynny
- Awtomeiddio: Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau ar y daith o ddefnyddio awtomeiddio ar-lein a thros y ffôn, a bydd y rhaglen ar hyn yn parhau
- Cynyddu democratiaeth a chynhwysiad drwy barhau i esblygu cyfarfodydd hybrid
- Cydnabod bod defnyddio dulliau 'digidol' yn ymwneud â rheoli newid a phobl yn yr un modd ag y mae'n ymwneud â thechnoleg
- Mae bylchau mewn sgiliau yn bodoli mewn perthynas â thechnoleg newydd a rheoli newid o fewn y Gwasanaethau Digidol ac ar draws y sefydliad ehangach
- Mae ein gweithlu yn gwsmeriaid hefyd ac maen nhw'n disgwyl yr un profiad digidol yn y gwaith ag sydd ganddyn nhw yn eu bywydau personol.
Ein gweledigaeth ar gyfer Abertawe Ddigidol
Defnyddio technoleg ddigidol i wella bywydau pobl, galluogi mynediad digidol at wasanaethau 24 awr y dydd, a gwella effeithlonrwydd gweithredol
Nodau Strategol
1. Gwasanaeth Cwsmeriaid Rhagorol sy'n cyd-fynd â'n safonau gwasanaeth
Mae pobl nawr yn disgwyl gallu cael mynediad at wasanaethau'r cyngor ar unrhyw ffôn clyfar neu ddyfais gyfrifiadurol ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw. Mae angen i ni felly ddylunio'n gwasanaethau o amgylch anghenion ein dinasyddion, ein cymunedau a'n busnesau, gan ddefnyddio technoleg i'w gwneud mor hygyrch ac mor gynhwysol â phosib.
Yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes:
- Cyflwynwyd y dechnoleg gyfathrebu unedig ddiweddaraf ar gyfer llwybro galwadau ffôn ac mae bellach ar lwyfan sefydlog a chadarn
- Dechreuwyd ar y daith i gyflwyno awtomeiddio fel y gall staff ganolbwyntio ar yr achosion mwy cymhleth
- Mae'r cyfrif dinesydd sengl ar waith a bydd hyn yn cael ei ehangu gyda mwy o wasanaethau drwy fywyd y strategaeth hon.
Beth fyddwn ni'n ei wneud erbyn 2028:
- Gweithio i gynnal ystod o sianeli cyswllt lleol sy'n cefnogi digidol
- Cefnogi'r bobl fwyaf diamddiffyn a phobl hŷn wrth wneud cais am wasanaethau cyhoeddus neu wrth eu defnyddio
- Dylunio sianeli mynediad yn seiliedig ar brofiadau ac adborth cwsmeriaid a thrwy gyfranogiad ein defnyddwyr gwasanaeth
- Ei gwneud hi'n haws i bawb gysylltu â ni
- Adolygu a chyhoeddi ein safonau gwasanaeth fel bod preswylwyr a busnesau yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth gysylltu â'r cyngor.
2. Gwasanaethau Digidol sy'n Canolbwyntio ar Bobl
Mae gwasanaethau digidol yn ymwneud â mwy na chydgysylltu gyda chwsmeriaid. Maent yn cynnwys defnyddio technoleg ddigidol i symleiddio, awtomeiddio a chyflymu prosesau. Mae hyn yn golygu edrych ar ein gwasanaethau gan ganolbwyntio ar anghenion pobl a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth i nodi ffyrdd y gellid eu gwella a sut y gall technoleg ddigidol helpu i wneud y gwasanaethau'n fwy effeithiol ac effeithlon.
Yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes:
- Gwella ac ehangu'n sylweddol y ffordd y gall preswylwyr a busnesau roi gwybod am bethau, gofyn, gwneud cais a thalu am wasanaethau drwy ei wefan. Mae'r defnydd o ffurflenni ar-lein wedi cynyddu dros 50% dros y pum mlynedd diwethaf
- Lansiwyd gwefan newydd sydd wedi gwella profiad y defnyddiwr yn sylweddol, fel a nodwyd gan Sitemorse
- Wedi dechrau defnyddio awtomeiddio - mae un enghraifft wedi arbed dros 600 awr o amser swyddfa mewn gwasanaeth sydd wedi mynd yn ddi-bapur.
Beth fyddwn ni'n ei wneud erbyn 2028:
- Ehangu Cyfrif Abertawe fel y gall preswylwyr a busnesau ofyn, gwneud cais, a thalu am ystod eang o wasanaethau ar-lein
- Sicrhau bod ein holl wasanaethau ar-lein yn gwbl hygyrch, drwy brofi hyn gyda'n defnyddwyr gwasanaeth a'n grwpiau rhanddeiliaid cynrychioliadol
- Parhau i awtomeiddio tasgau arferol fel y gall ein staff ganolbwyntio ar y tasgau mwy cymhleth ac anodd
- Sicrhau bod preswylwyr a busnesau ond yn gorfod rhannu gwybodaeth â ni unwaith
- Ail-ddylunio ein prosesau a'n ffyrdd o weithio er mwyn cynnig cymorth yn gynnar, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn y broses.
3. Isadeiledd a Systemau Digidol Cadarn
Heb isadeiledd a systemau digidol cadarn, ni fyddai modd cyrraedd ein huchelgeisiau digidol. Mae angen i'n cwsmeriaid a'n gweithlu gael yr offer cywir a mynediad at y systemau a'r data cywir pan fydd eu hangen arnynt. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y systemau hyn a data personol yn cael eu cadw'n ddiogel bob amser.
Yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes:
- Ymgymerwyd â gwaith i resymoli meddalwedd, gan arwain at arbedion a bydd hyn yn parhau fel prosiect parhaus
- Mae gweithio ystwyth a symudol wedi'i alluogi gan offer/dechnoleg ddigidol, gan wella gwasanaethau i breswylwyr a lleihau lle swyddfa
- Uwchraddio'r isadeiledd ysgolion i hwyluso'r cwricwlwm digidol yn ogystal â'r broses o fudo'n llawn i Hwb.
Beth fyddwn ni'n ei wneud erbyn 2028:
- Darparu isadeiledd a systemau meddalwedd cadarn, gwydn, sy'n cael eu storio ar gwmwl yn gyntaf, sy'n gost-effeithiol ac yn lleihau ein hôl troed carbon
- Datblygu a chaffael cymwysiadau hygyrch sy'n perfformio'n dda ac y gellir eu defnyddio at amryfal ddibenion
- Parhau i ddefnyddio dulliau arloesol a datblygu map ffordd arloesi digidol a chyfres o brosiectau
- Cynnal a datblygu ein seiberddiogelwch a'n biometreg er mwyn cadw data'r cyngor yn ddiogel
- Caffael ar y cyd â phartneriaid yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau arbedion maint.
4. Data hygyrch sy'n cefnogi cymunedau a pherfformiad y cyngor
Mae data hygyrch, cywir, ystyrlon ac amserol yn hanfodol er mwyn darparu dealltwriaeth o anghenion a disgwyliadau pobl yn ogystal â llywio'r broses o wneud penderfyniadau a dylunio gwasanaethau. Mae sefydliadau sy'n perfformio'n dda yn defnyddio data a deallusrwydd busnes i gael adborth ar brofiad cwsmeriaid ac anghenion/galw dinasyddion i lywio'r gwaith o gynllunio a datblygu polisïau a gwasanaethau, yn ogystal ag ar gyfer hunanasesu a rheoli perfformiad.
Yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes:
- Mae monitro perfformiad corfforaethol gwell yn fyw ac yn ei ail gylch ddatblygu
- Mae meddalwedd Deallusrwydd Busnes fel rhan o Office 365 (Power BI) bellach yn cael ei defnyddio i ddarparu dadansoddeg well ar gyfer adrodd am dai a monitro cynnydd y cyngor ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig
- Datblygwyd cymwysiadau newydd i reoli risgiau'r cyngor.
Beth fyddwn ni'n ei wneud erbyn 2028:
- Cyfuno data mewn ffyrdd sy'n cefnogi gwell prosesau gwneud penderfyniadau a rheoli perfformiad
- Integreiddio data gyda'n partneriaid i wella dealltwriaeth o'r galw a dylunio a chynllunio gwasanaethau
- Cyflwyno meddalwedd deallusrwydd busnes ymhellach i wella mynediad gweithwyr at ddadansoddeg data
- Sicrhau bod data agored ar gael i gymunedau a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau i wella cywirdeb data
- Nodi hyrwyddwyr data ar draws y cyngor a all gefnogi ac arwain y daith hon.
5. Gweithlu a chymunedau sy'n fedrus ac yn hyderus yn ddigidol
Gall Abertawe elwa o weithlu a chymunedau a chanddynt y sgiliau a'r hyder i wneud yn fawr o'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn gyson o dechnolegau digidol newydd. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd a gallu eu croesawu'n hyderus.
Mae hyn yn golygu meithrin yr arbenigedd technegol cywir yn y sefydliad yn ogystal â sicrhau bod gan yr arweinwyr a'r gweithlu'r sgiliau digidol a rheoli newid sydd eu hangen arnynt i weithio'n ddigidol ac i gefnogi unigolion a chymunedau i wneud yr un peth.
Gall helpu dinasyddion i groesawu technoleg wella'u cyfleoedd bywyd yn sylweddol drwy:
- Helpu pobl i ddod o hyd i waith a gwella'u potensial ennill arian
- Cynnig gwell cyfleoedd dysgu
- Cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau rhatach ar-lein
- Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd, yn enwedig i'r rhai mwyaf diamddiffyn
- Bod yn rhan o gymunedau digidol a chymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau cydgysylltiedig.
Yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes:
- Gwell cyfleoedd Cyflogaeth a Dysgu drwy ddefnyddio technoleg. Mae'r rhain wedi cynnwys defnydd uwch o gyfarpar digidol a hyfforddiant gan raglenni Dysgu Gydol Oes a Chyflogadwyedd, darparu cynllun benthyciad Chromebook ar gyfer cyfranogwyr y rhaglen gyflogaeth a rhoi offer digidol wedi'i ariannu gan grantiau i sefydliadau partner
- Datblygu dulliau cyflwyno'r cwricwlwm i ehangu hygyrchedd cyfleoedd dysgu. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau cyfunol ac ar-lein ar draws y rhan fwyaf o feysydd pwnc, y llynedd fe wnaethom ddenu 25% o unigolion nad oeddent erioed wedi defnyddio Dysgu Oedolion o'r blaen
- Wedi gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau i wella sgiliau a symleiddio prosesau drwy rannu arferion da a chyfleoedd hyfforddi cydweithredol. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant Jisc (jisc.ac.uk) (Yn agor ffenestr newydd) i staff a dysgwyr, partneriaid hyfforddi Dysgu Oedolion a hyfforddiant bwrdd gwyn ar draws partneriaid.
Beth fyddwn ni'n ei wneud erbyn 2028:
- Parhau â'r gefnogaeth Dysgu Gydol Oes i gymunedau o fewn y cyllidebau sydd ar gael
- Gweithio gyda darparwyr i ddyfeisio datblygiad ar gyfer staff a Chynghorwyr i gynyddu sgiliau digidol a hyder
- Recriwtio ar gyfer rhagoriaeth ddigidol gan gynnwys prentisiaethau
- Gweithio tuag at fodloni Safonau Digidol 2030
- Gwella rhwydweithio a rhannu arferion gorau ar draws proffesiynau digidol.
6. Dinas a sir sydd wedi'i chysylltu'n ddigidol
Gall darparu gwasanaethau digidol ysgogi twf economaidd a chefnogi cynhwysiad a chydlyniant cymdeithasol. Fel rhan o hyn, mae Abertawe'n anelu at ddatblygu ardaloedd trefol clyfar i wella gweithrediadau a gwasanaethau i breswylwyr, yng nghanol y ddinas ac ar draws y stryd fawr. Gan weithio gyda'n partneriaid a'n cymunedau, nod yr uchelgais hwn yw denu mewnfuddsoddiad a hefyd wella cysylltedd i breswylwyr.
Yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes:
- Rhoi'r rhyngrwyd pethau ar waith gan ddefnyddio synwyryddion o fewn y cyngor, e.e. defnydd ystafelloedd ac ar draws y ddinas, e.e. Monitro llygredd
- Dechrau gweithio gyda Bargen Ddinesig Bae Abertawe a darparwyr telathrebu er mwyn darparu ffeibr llawn
- Dechrau rhaglen i uwchraddio teledu cylch cyfyng a rhoi WiFi ar waith ar strydoedd mawr ar draws wardiau.
Beth fyddwn ni'n ei wneud erbyn 2028:
- Datblygu map ffordd Dinas Glyfar
- Gweithio gyda rhaglen ddigidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i wella cysylltedd i breswylwyr a busnesau a denu mewnfuddsoddiad
- Cefnogi cymunedau digidol
- Cynyddu'r defnydd o'r Rhyngrwyd Pethau i wella effeithlonrwydd gwasanaethau a gwasanaeth cwsmeriaid
- Manteisio ar unrhyw isadeiledd newydd i wella gwasanaethau'r cyngor, gwella diogelwch, a chynyddu mynediad digidol.