Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Strategaeth Toiledau Cyhoeddus

Mae darpariaeth toiledau cyhoeddus yn rhan bwysig o isadeiledd unrhyw ardal ddaearyddol.

  1. Cyflwyniad
  2. Cefndir - Deddfwriaeth
  3. Cefndir - Abertawe
  4. Strategaeth
  5. Llywodraethu
  6. Cyfathrebu
  7. Cyfleusterau
  8. Datblygu
  9. Cyllid
  10. Blaenoriaethau
  11. Gwybodaeth bellach

1. Cyflwyniad

1.1 Mae argaeledd a hygyrchedd cyfleusterau toiledau cyhoeddus o ansawdd da yn caniatáu i'r ardal gael ei mwynhau gan fwy o bobl ac am gyfnodau hwy. Mae hyn yn berthnasol i ardaloedd trefol/canol dinas ac i ardaloedd arfordirol/cefn gwlad/twristaidd.

1.2 I'r rheini yn y boblogaeth a chanddynt anghenion iechyd penodol, mae toiledau cyhoeddus yn gyfleuster hanfodol sy'n ofynnol os ydynt am allu cymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Yn aml mae hyn yn gofyn am ddarparu cyfleusterau arbenigol sy'n briodol ar gyfer anghenion iechyd cymhleth.

1.3 Ni fu erioed ddyletswydd statudol sy'n mynnu bod awdurdodau lleol yn darparu toiledau cyhoeddus ac felly mae eu darpariaeth bob amser wedi bod yn destun ystod o bwysau cystadleuol, gan gynnwys galw'r cyhoedd, blaenoriaethau gwleidyddol a gwirioneddau cyllidebol.

1.4 Fodd bynnag, derbynnir yn gyffredinol fod gan bob cyngor rôl sylweddol wrth ddarparu toiledau cyhoeddus i gefnogi cymunedau lleol, yn enwedig y rheini â'r anghenion mwyaf, a hyrwyddo cyfranogiad gweithredol mewn bywyd a mwynhad o fannau cyhoeddus.

2. Cefndir - Deddfwriaeth

2.1 Derbyniodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf, 2017. Rhoddodd Rhan 8 y Ddeddf ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau leol ar gyfer ei ardal.

2.2 Nid yw'r ddyletswydd i baratoi strategaeth ynddi'i hun yn ei gwneud yn ofynnol i ALl ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus eu hunain, ond mae gofyn iddynt gymryd golwg strategol ar draws eu hardal o ran sut y gellir darparu'r cyfleusterau hyn a sut y gall y boblogaeth leol gael mynediad atynt. Wrth wneud hynny, rhagwelir y bydd ALl yn ystyried ystod lawn o opsiynau ar gyfer sicrhau bod cyfleusterau ar gael i'r cyhoedd.

2.3 Mae'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i strategaeth gynnwys asesiad o angen y gymuned am doiledau, gan gynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a chyfleusterau Changing Places ar gyfer pobl anabl. Rhaid i'r strategaeth hefyd roi manylion ynghylch sut mae'r awdurdod lleol yn bwriadu diwallu'r angen a nodwyd.

2.4 Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn sail i'r Ddeddf, ac mae'n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw iddynt a'u darllen ar y cyd â'r Ddeddf. Nid oes gofyniad i  gyflwyno'r strategaethau i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo, gan y dylai'r strategaethau fod yn destun strwythurau craffu presennol awdurdodau lleol a gwaith craffu cyhoeddus.

2.5 Mae'r canllawiau'n darparu amserlen ar gyfer cyhoeddi ac adolygu'r strategaeth, yn ogystal â chyhoeddi datganiadau cynnydd rheolaidd. (Gweler Atodiad A)

3. Cefndir - Abertawe

3.1 Datblygwyd Strategaeth Toiledau Cyhoeddus Abertawe yng nghyd-destun ei Chynllun Corfforaethol, sy'n cyd-fynd â'r amcan lles "Yr Economi ac 
Isadeiledd": Defnyddio'n hasedau diwylliannol i gefnogi unigolion, busnesau a chymunedau; a sicrhau bod Abertawe yn lle a nodweddir gan gymunedau cynaliadwy â digon o dai o ansawdd da a lleoedd ar gyfer gwaith a hamdden.

3.2 Paratowyd y strategaeth wreiddiol yn 2019, gyda chefnogaeth Cymdeithas Toiledau Prydain, yn seiliedig ar asesiad o anghenion cychwynnol a oedd yn edrych ar y ddarpariaeth bresennol ac yn ei chymharu ag anghenion Abertawe, ei phoblogaeth, ymwelwyr a datblygiad economaidd. O hyn cynigiwyd cynllun gweithredu cychwynnol.

3.3 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth ddrafft, gan gynnwys ei hasesiad o anghenion a'i chynllun gweithredu, yn 2020 (gweler Atodiad Ch) ac, yn dilyn oedi yn gysylltiedig â COVID-19, cymeradwywyd y strategaeth derfynol gan Gabinet Cyngor Abertawe ym mis Tachwedd 2021, ynghyd ag adroddiad cynnydd.

3.4 Mae'r strategaeth a'i chynllun gweithredu wedi'u rhannu'n chwe maes gwaith:

  • Datblygu Strategaeth
  • Llywodraethu
  • Cyfathrebu
  • Cyfleusterau
  • Datblygu
  • Cyllid

3.5 Cynhelir adolygiadau dilynol o'r strategaeth yn unol â'r amserlen a nodir yn Atodiad A.

4. Strategaeth

4.1 Dyma'r broses o lunio ac adolygu'r strategaeth.

4.2 Er bod y strategaeth ei hun yn rhan o'r Cynllun Corfforaethol, mae'r gwaith o'i datblygu a'i rhoi ar waith hefyd yn cael ei lywio gan gynllun Cydraddoldeb Strategol y cyngor.

4.3 Yr amcan cydraddoldeb y mae'r strategaeth yn cyd-fynd agosaf ag ef yw:

Iechyd: Ceisio hyrwyddo iechyd corfforol a meddwl da a lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy ddarparu cyfleoedd chwaraeon, diwylliant a hamdden ac amgylchedd adeiledig a naturiol iach. 

4.4 Yr egwyddor sylfaenol ar gyfer cynnal yr asesiad o anghenion a datblygu'r cynllun gweithredu yw asesu a gwella cydraddoldeb mynediad i doiledau cyhoeddus, gan flaenoriaethu darpariaeth ar gyfer y rhai mwyaf difreintiedig.

5. Llywodraethu

5.1 Sefydlwyd strwythur ffurfiol i oruchwylio'r strategaeth, a datblygu'r cynllun gweithredu a'i roi ar waith. 

5.2 Mae Gweithgor mewnol, sy'n cynnwys adrannau perthnasol y cyngor, yn llywio'r gwaith o gyflawni cynllun gweithredu'r strategaeth o ddydd i ddydd ac yn goruchwylio'i hadolygiad.

5.3 Mae Grŵp Rhanddeiliaid, gyda chynrychiolaeth gan gyrff allweddol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn rhoi mewnbwn, gwybodaeth ac adborth arbenigol i'r Gweithgor, ar ran y cyrff y maent yn eu cynrychioli.

6. Cyfathrebu

6.1 Mae tair elfen i gynllun cyfathrebu'r strategaeth:

  • Diweddariadau cynnydd ar ddatblygu a chyflwyno'r strategaeth;
  • Gwybodaeth ar-lein am doiledau cyhoeddus Abertawe, y cyfleusterau sydd ar gael a ble i ddod o hyd iddynt; 
  • Arwyddion sy'n nodi ble mae toiledau cyhoeddus ac sy'n darparu cyfarwyddiadau.

7. Cyfleusterau

7.1 Mae'n bwysig bod Cyngor Abertawe yn darparu toiledau cyhoeddus o'r safon uchaf, gyda'r adnoddau sydd gennym ar gael i ni. Mae'r trefniadau glanhau, cynnal a chadw a rheoli'n allweddol er mwyn cyflawni hyn.

8. Datblygu

8.1 Mae'r cyd-destun y mae'r strategaeth yn gweithredu oddi mewn iddo'n newid drwy'r amser, a bydd pwysau bob amser a fydd yn effeithio ar gwmpas y strategaeth a'i gallu i gyflawni'i chynllun gweithredu.

8.2 Fodd bynnag, dylai'r strategaeth allu ymateb i'r pwysau hyn a nodi ffyrdd y gellir gwella'r ddarpariaeth bresennol ac ychwanegu ati.

8.3 Bydd yr asesiad o anghenion yn rhoi arweiniad ar y meysydd datblygu y dylid eu blaenoriaethu.

9. Cyllid

9.1 Fel yr amlygwyd eisoes, nid oes dyletswydd statudol i ddarparu toiledau cyhoeddus na phot unigol o arian i sicrhau eu bod yn cael eu darparu a'u cynnal; nid oes arian ar gael yn rhwydd i ariannu datblygiadau newydd ychwaith.

9.2 Daw adnoddau'r strategaeth o wahanol wasanaethau cyngor, ac felly maent yn amodol ar y pwysau cyllidebol gwahanol sy'n wynebu'r gwasanaethau hynny.

9.3 Mae'n bwysig bod y strategaeth yn ymwybodol o hyn. Mae angen i'r strategaeth allu mynegi achos busnes clir ar gyfer yr holl feysydd gwaith y mae'n eu goruchwylio a nodi cyfleoedd newydd posib ar gyfer cyllid yn gyflym, pe baent yn codi.

10. Blaenoriaethau

10.1 Fel y nodwyd uchod, nid yw'r ddyletswydd statudol i lunio strategaeth toiledau cyhoeddus yn dod ag unrhyw arian newydd i ddarparu cyfleusterau toiled ychwanegol. Fodd bynnag, er mwyn i'r strategaeth hon fod yn berthnasol, rhaid iddi gynnal perthynas agos rhwng ei hasesiad o anghenion a'i chynllun gweithredu.

10.2 Bydd y camau gweithredu sy'n flaenoriaeth yn canolbwyntio ar:

  • Diogelu a gwneud y defnydd gorau o'r cyllidebau presennol
  • Canolbwyntio ar nodi a gwella ardaloedd lle mae pobl dan anfantais oherwydd diffyg darpariaeth toiledau
  • Datblygu cynigion i wella argaeledd a hygyrchedd Toiledau cyhoeddus Abertawe

11. Gwybodaeth bellach

11.1 Mae'r strategaeth yn cael ei llywio gan y dogfennau canlynol:

Strategaeth Toiledau Cyhoeddus Abertawe - atodiadau (PDF) [774KB] 

Close Dewis iaith