Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog

Mae'n cynnwys holl ardaloedd tai Townhill a Chanol y Dref ac mae'r swyddfa yn Townhill.

Ardaloedd eraill a gynhwysir yn y swyddfa hon: Townhill, Mayhill, Waun Wen, Plasmarl, Glandŵr, y Marina, Dyfati, Heol Griffith John ac ardal New Street.

Cyfleusterau

Mae gan bob un o'n swyddfeydd tai:

  • rampiau a rheiliau i ddrysau'r fynedfa ynghyd â drysau sy'n agor yn awtomatig
  • dolenni clyw i helpu pobl â nam ar y clyw yn y derbynfeydd ac mewn cyfarfodydd
  • cymhorthion cynorthwyol sy'n cynnwys hambyrddau arffed, pinnau gafael mawr, chwyddwydrau, lampiau golau dydd, canllawiau ysgrifennu
  • ystafelloedd cyfweliad preifat y gellir eu defnyddio i drafod gwybodaeth gyfrinachol neu os ydych eisiau preifatrwydd i gael help gan aelod o staff i ddarllen drwy ffurflen gymhleth gyda chi a'i chwblhau
  • arwyddion cyffyrddol

Mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i siarad â chi a gallwch gael gwyodaeth ysgrifenedig am dai yn Gymraeg os gofynnwch am hynny. Gallwn ddarparu cyfieithwyr proffesiynol os oes angen iaith arall arnoch. Gofynnwch i aelod o staff yn ein swyddfa dai am help a chymorth.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd galw heibio un o'n swyddfeydd, gallwn drefnu ymweliadau cartref. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog

Cyfeiriad

Rhodfa Powys

Townhill

Abertawe

SA1 6PH

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Oriau Agor

Dydd Llun: 9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mawrth: 9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Mercher: 9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Iau: 9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm)
Dydd Gwener: 9.00am - 3.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm)

Rhif ffôn

01792 513900
Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu