Toglo gwelededd dewislen symudol

Tair gweithiwr benywaidd yn cael eu lladd: stori Ada Fish, Mary Fitzmaurice, Jane Jenkins ac Edith Copham

Ganed Ada Fish yn Abertawe ar 18 Chwefror 1900. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd Ada yn y ffatri ffrwydron genedlaethol ym Mhen-bre. Ar 18 Tachwedd 1918, cafodd Ada ddihangfa lwcus pan gafwyd ffrwydrad yn y ffatri. Nid oedd tair menyw arall o Abertawe mor ffodus. Dyma eu stori.

Three Women Workers

Ganed Ada Fish yn Abertawe ar 18 Chwefror 1900. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd Ada yn y ffatri ffrwydron genedlaethol ym Mhen-bre. Ar 18 Tachwedd 1918, cafodd Ada ddihangfa lwcus pan gafwyd ffrwydrad yn y ffatri. Nid oedd tair menyw arall o Abertawe mor ffodus. Dyma eu stori...

Roedd Ada newydd adael cwmni'r tair merch i fynd i ôl pâr o blycwyr bach wedi'u miniogi (a ddefnyddir i dynnu ffiwsiau). Roedd y peiriant llifanu yn yr adeilad nesaf (er mwyn atal y perygl amlwg y byddai gwreichion yn ei achosi). Roedd menyw arall yn miniogi ei phlycwyr ar y pryd, felly roedd yn rhaid i Ada aros ychydig yn hwy.

Roedd Mary Fitzmaurice o 18 Shelly Crescent, Abertawe'n 36 oed ac yn briod a chanddi saith o blant. Roedd hi'n cael ei chyflogi fel un oedd yn gyfrifol am eraill yn y ffatri. Roedd Jane Jenkins o 2 Washington Terrace, Glandŵr yn 20 oed ac yn cael ei chyflogi fel archwiliwr. Roedd Edith Ellen Copham o 55 Matthew Street, Abertawe yn 19 oed ac yn cael ei chyflogi fel Gweithiwr Proses. 

Am tua 22.15pm nos Lun, roedd Edith Ellen Copham yn mynd â ffrwydron wedi'u ffiwsio i fynedfeydd y ciwbiclau. Doedd yr ail gludwr, a ddefnyddiwyd i gasglu'r ffrwydron nad oedd wedi'u ffiwsio, ddim yn gweithio gan nad oedd y fenyw wedi dod i'r gwaith. Mary Fitzmaurice oedd yn gyfrifol am yr ochr honno o'r sied. Ei chyfrifoldeb hi oedd goruchwylio'r gwaith yno. Aethpwyd â'r ffrwydron nad oeddent wedi'u ffiwsio i'r olwyn, lle cawsant eu harchwilio gan weithiwr a oedd yn gwahanu'r bwshys pres a'r bwshys dur. Ar adeg y ddamwain, Jane Jenkins oedd yr archwiliwr. Digwyddodd y ffrwydrad yn y cyntedd gyferbyn â chiwbicl Rhif 24, tua 4 llath o'r man lle'r oedd Jane Jenkins yn gweithio. Gwelodd tystion y llawr a rhan o'r ciwbicl gerllaw ar dân. Cafwyd hyd i Edith yn gorwedd yn y cyntedd ar ei hochr, yn fyw ond wedi ei hanafu'n wael.  Cafwyd hyd i Jane yn gorwedd ar y llawr ar bwys y drws a oedd yn arwain o ffordd glir i mewn i'r sied. Roedd hi'n farw, roedd rhan o'i phenglog wedi'i chwythu i ffwrdd.  Roedd Mary wedi cael ei thynnu allan o'r sied gan weithiwr arall. Aethpwyd ag Edith a Mary i'r ysbyty, lle bu farw'r ddwy yn ddiweddarach.

Ar 23 Tachwedd 1918, adroddodd y Cambrian Daily Leader am gladdedigaethau dwy o'r menywod: Mary Fitzmaurice ac Edith Ellen Copham:

"Roedd golygfeydd teimladwy iawn wrth gladdu Mrs Fitzmaurice a Miss Copham yn Dan-y-graig brynhawn dydd Sadwrn, ac roedd dros 200 o weithwyr ffatri arfau rhyfel benywaidd yn bresennol ynghyd â nifer fawr iawn o alarwyr a ffrindiau.

Daeth tawelwch mawr dros y dref wrth i'r orymdaith fynd yn ei blaen i lawr y Stryd Fawr a Wind Street. Daeth Band Pres San Joseph yn gyntaf; yna gwahanlu o batrolau menywod, ac yna'r gweithwyr ffatri arfau rhyfel yn eu gwisgoedd llwm. Ar ôl y rhain, daeth nifer cyfartal o fenywod wedi gwisgo mewn du. Aeth ychydig o ddynion, rhai mewn gwisgoedd brigâd dân, yn syth o flaen yr hersiau yr oedd yr eirch ynddynt wedi'u gorchuddio â'r symbol cysegredig hwnnw o ryddid Prydain - Jac yr Undeb, wedi'i orchuddio â blodau.

Gweithwyr ffatri arfau rhyfel benywaidd oedd y cludwyr. Gwelwyd bod yr arferiad cyfandirol o godi het i gydnabod difrifoldeb marwolaeth - nas gwelwyd ryw lawer yn Lloegr - wedi'i ddilyn ar yr achlysur hwn gan y rhan fwyaf o'r dorf dawel, a oedd yn gwylio'r orymdaith drist gyda chydymdeimlad dwys.

Pregethwyd, heb flewyn ar dafod, am undod a chwaeroliaeth menywod, oherwydd roedd un o'r meirwon yn Babyddes, y llall yn Brotestannaidd, ac ar ôl cyrraedd Dan-y-graig roedd dau wasanaeth claddu - y naill gan y Tad Dawson a'r llall gan y Parch. W. Evans, ficer St Thomas".

Claddwyd Jane Jenkins yr un diwrnod ym mynwent Cwmgelli.

Ym 1917, roedd 1,050 o weithwyr yn y ffatri ffrwydron - roedd llawer ohonynt yn dod o'r tu allan i'r ardal uniongyrchol ac yn cael eu cludo yno ar drenau o Abertawe a Chaerfyrddin. Menywod oedd yn cyfrif am gyfran uwch o'r gweithwyr, gyda 70.5% wedi'u cofnodi ym mis Mawrth y flwyddyn honno. Parhaodd gwaith yn y ffatri, gan ddatgymalu ffrwydrau tan ddiwedd 1919 pan gafodd llawer o weithwyr eu diswyddo ac fe'u cyflwynwyd â thystysgrif am eu gwaith.

Yn ôl i dudalen Hanes Menywod

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Gorffenaf 2024