Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai cyngor ynni effeithlon

Mae pob tŷ cyngor newydd yn cael ei adeiladu gydag effeithlonrwydd ynni fel un o'r prif flaenoriaethau.

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS)

Passivhaus

Safon Abertawe

 

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS)

Mae'r cartrefi wedi'u dylunio fel gorsafoedd pŵer bach ac fe'u gelwir yn Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS). Gallant gynhyrchu tua 60% - 80% o'r ynni y byddwch yn ei ddefnyddio, a'ch helpu i leihau eich biliau ynni.

Adeiladwyd y cartrefi i safon perfformiad a elwir yn Gartref Safon Abertawe, sy'n golygu eu bod wedi'u hinsiwleiddio'n dda iawn a bydd lefel yr ynni y mae ei angen i'w gwresogi yn isel iawn o'i chymharu â chartref traddodiadol.

Mae'r cartrefi wedi'u seilio ar strwythur sy'n effeithlon yn thermol ac yn aerglos, ac a ddyluniwyd i leihau'r gwres a gollir i gyfran fach iawn o'r gwres a gollir mewn cartref arferol. Cynhyrchir ynni drwy ddefnyddio Paneli Solar ar y to ar gyfer trydan.

Mae'r ynni y mae'r paneli solar yn ei gynhyrchu naill ai'n cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol i bweru offer a gwresogi neu'n cael ei storio i'w ddefnyddio'n hwyrach mewn batri Powerwall Tesla a gedwir yn eich eiddo. Mae'r batri lithiwm yn storio'r ynni a gynhyrchir yn ystod y dydd ac yn ei ryddhau pan fo angen.

Mae'r system gwres canolog yn defnyddio pwmp gwres ffynhonnell daear sy'n tynnu gwres o'r ddaear i wresogi eich cartref a'r dŵr twym. Mae'r silindr dŵr twym  yn rhan o'r system wresogi ac mae'n defnyddio gwres o'r ddaear a thrydan i dwymo'r rheiddiaduron a'r dŵr.

Mae cartref HAPS yn gartref cysurus iawn sy'n defnyddio lefel isel iawn o ynni. Mae nodweddion fel ffenestri gwydr dwbl, lefelau uchel o insiwleiddio a system adfer gwres mecanyddol (MVHR) yn rhoi aer o ansawdd da i chi ac yn helpu i leihau cyddwysiad ac arogleuon annymunol.

Sut mae'r system wresogi'n wahanol i dai eraill

Mae'r rhan fwyaf o dai cyffredin yn cynhesu ac yn oeri'n gyflym iawn, gan wastraffu llawer o'r ynni a ddefnyddir i'w cynhesu yn y lle cyntaf.

Dyna pam mae ganddynt systemau gwresogi sy'n aml yn troi ymlaen yn y bore, yn cael eu diffodd yn ystod y dydd ac yna'n troi ymlaen eto yn y nos. Mae gan Gartref HAPS ymateb arafach ac nid oes angen y math hwn o reolaeth.

Mewn cartref HAPS ceir system wresogi a rheiddiaduron traddodiadol ond mae hefyd:

Lawer o insiwleddido

Mae'r waliau allanol yn drwchus iawn; y rheswm am hyn yw eu bod yn cynnwys llawer o ddefnydd inswleiddio. Mae'r lloriau a'r to hefyd wedi'u hinswleiddio, er bod hyn yn anos i'w weld. Mae'r ffenestri a'r drysau hefyd wedi'u hinswleiddio i raddau uchel, gyda gwydr dwbl. Rydym yn sicrhau bod yr holl inswleiddwyr hyn yn cydgysylltu fel nad oes bylchau sy'n gwastraffu ynni.

Lleihau drafftiau

Mae'r tŷ wedi'i gynllunio i leihau drafftiau a darparu awyr iach drwy'r amser drwy system awyru. Mae'r tyllau awyru yn y nenfydau yn cyflenwi aer ffres i'r ystafell eistedd/man bwyta a'r ystafell wely. Mae'r tyllau awyru hyn hefyd yn tynnu'r hen aer o'r gegin, yr ystafell ymolchi a'r toiledau. Mae'r system hon yn defnyddio hidlyddion i sicrhau bod yr aer bob amser yn lân.

Peidio â gwastraffu unrhyw wres

Mae'r system awyru, mewn ffordd glyfar, yn adfer y gwres o hen aer ac yn ei ddefnyddio i gynhesu'r awyr iach. Mae'r cartref wedi'i gynllunio i ddefnyddio gwres o'r haul, yr offer a hyd yn oed y bobl sy'n byw yno. Drwy wneud hynny, nid oes angen i iddynt dalu am ynni drud i gadw'r tŷ'n gynnes.  Yn lle, mae'n cadw'r tymheredd yn gyson, sy'n golygu bod y cartref yn gyfforddus drwy'r amser ond bydd yn defnyddio llawer llai o ynni.

Gwresogi

Adeiladwyd cartref HAPS mewn ffordd sy'n golygu na fydd angen llawer o ynni i'w gadw'n gynnes.

Mae gan y tŷ system awyru fecanyddol sy'n defnyddio system adfer gwres hynod effeithlon i sicrhau mai ychydig iawn o'r gwres sy'n cael ei golli o'r awyr sy'n mynd allan. Mae tyllau echdynnu yn y gegin a'r ystafelloedd ymolchi. Pan fydd y system yn synhwyro cynnydd mewn lleithder, mae'n rhoi hwb i'r system yn awtomatig i echdynnu'r aer yn gyflymach.

Os oes angen gwres ychwanegol, mae system gwres canolog. Oherwydd y gwaith adeiladu a faint o insiwleiddio sydd yno, bydd y tŷ'n dal y tymheredd yn llawer gwell na thŷ traddodiadol.

Oherwydd y diffyg drafftiau mewn Cartref HAPS, ni fydd angen i chi osod y thermostat mor uchel â phe baech mewn tŷ traddodiadol - ond dewis personol fydd hyn. Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn amcangyfrif y bydd tymheredd 1 gradd yn is ar eich thermostat yn arbed £85-£90 y flwyddyn.

Oherwydd y ffordd yr adeiledir  Cartref HAPS, mae'n debygol mai ychydig iawn o wres fydd ei angen i gynnal tymheredd sefydlog a chyfforddus yn y cartref. Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar sut y defnyddir y cartref a pha mor gynnes rydych am i'ch cartref fod. Mae thermostat ystafell yn gweithio drwy synhwyro tymheredd yr aer a throi'r gwres ymlaen neu ei ddiffodd gan ddibynnu ar osodiadau'r thermostat.

Dŵr twym

Mae'r silindr dŵr twym yn darparu ar gyfer eich holl anghenion dŵr twym ar gais. Dim ond y dŵr sydd ei angen fydd yn cael ei wresogi wrth droi'r tap twym neu'r gawod ymlaen.

Mae'r system yn blaenoriaethu dŵr twym cyn gwresogi. Mae hyn yn synhwyrol gan fod dull gwresogi cyson cartref HAPS yn golygu bod y gofyniad am ddŵr twym yn debygol o fod yn bwysicach.

Awyru

Mae'r system awyru wedi'i hawtomeiddio'n llawn ac nid oes angen ei haddasu. Bydd y system yn cryfhau'n awtomatig pan fydd yn synhwyro cynnydd mewn lleithder yn y gegin a'r ystafelloedd ymolchi.

Fe'i lleolir mewn cwpwrdd y bydd angen mynd iddo ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn unig. Byddwn yn newid yr hidlyddion yn flynyddol neu yn ôl yr angen.

Trydan

Mae eich cartref HAPS yn defnyddio trydan yn unig. Nid oes unrhyw offer nwy yn yr eiddo.

Gellir lleihau biliau trydan drwy ddiffodd goleuadau pan nad oes eu hangen a thrwy brynu a defnyddio offer ynni isel (gweler y label sgôr ynni ar yr offer). Pethau sy'n cael eu defnyddio'n gyson neu'n rheolaidd yw'r pwysicaf fel oergelloedd, rhewgelloedd a pheiriannau golchi.

 

Passivhaus

Mae Passivhaus yn set o feini prawf dylunio ar sail perfformiad ar gyfer adeiladau ynni isel iawn, a all helpu i greu adeiladau sy'n defnyddio tua 75% - 90% yn llai o ynni na thai safonol.

Mae Passivhaus yn ceisio dileu'r angen am wresogi gwagle ac mae'n seiliedig ar yr egwyddor mai lleihau swm y gwres a gollir yw'r ffordd fwyaf cost-effeithiol a chadarn o gyflawni adeilad carbon isel. Mae'n dibynnu ar gysyniad 'cap tebot' sy'n gwneud y defnydd mwyaf o insiwleiddio a pha mor aerglos yw'r cartref a chael gwared ar bontydd thermol.

Drwy gyfuno hyn â chynnydd solar a system awyru fecanyddol ac adfer gwres, gall y dyluniad greu adeiladau iach a chyfforddus nad oes angen llawer o wres arnynt.

 

Safon Abertawe

Mae Safon Abertawe'n dilyn ymagwedd 'ffabrig yn gyntaf', sy'n welliant o 25% ar y rheoliadau adeiladu cyfredol. Mae'n ymwneud â pherfformiad thermol a pha mor aerglos yw adeilad, gan roi pwyslais ar adeiladwaith y cartref.

Mae'r ymagwedd 'ffabrig yn gyntaf' yn ystyried yn ofalus ddyluniad ac adeiladwaith yr adeilad yn y camau dylunio cychwynnol, cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau. Gan ddefnyddio deunyddiau o safon ac addasu egwyddorion aerglos ac awyriad, gallwch leihau'r ynni sydd ei angen i wresogi'ch cartref, gan leihau costau ac allyriadau CO2. 

Mae adeiladwaith yr adeilad yn cynnwys elfennau ffisegol sy'n gwahanu'r amgylchedd dan do o'r awyr agored. Mae hyn yn cynnwys pethau fel fframiau, adeiledd ac insiwleiddio mewn elfennau fel y waliau, y lloriau a'r nenfydau ac mae'n bwysig cynnal amgylched dan do cyfforddus.

Mae'r ymagwedd ffabrig yn gyntaf at adeiladu cartrefi cynaliadwy yn dibynnu ar y gwahanol ffactorau canlynol sydd wedi'u dylunio i leihau'r defnydd o ynni:

  1. Insiwleiddio o safon
  2. Cynyddu aerglosrwydd
  3. Osgoi pontydd thermol
  4. Cynnydd mewn solar
  5. Awyru naturiol

Gwerth "U" neu drosglwyddiad thermol yw'r mesuriad ar gyfer pa mor effeithlon yw adeilad. Trosglwyddiad thermol yw cyfradd trosglwyddo gwres drwy adeiledd, wedi'i rannu â'r gwahaniaeth mewn tymheredd ar draws yr adeiledd hwnnw. Yr unedau mesur yw W/m²K. Gorau po insiwleiddio'r adeiledd, lleiaf yw'r gwerth U = perfformiad thermol gwell, costau ynni llai ac ôl troed carbon is.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2021