Toglo gwelededd dewislen symudol

Telerau ac amodau Pasbort i Hamdden

Amodau a thelerau'r cynllun Pasbort i Hamdden.

Y broses ymgeisio, data a bod yn gymwys i ymaelodi â'r cynllun

Mae Pasbort i Hamdden ar gael i drigolion sy'n byw o fewn ffin Dinas a Sir Abertawe ac yn cyd-fynd ag un o'r categoriau cymhwystra. Mae manylion y categoriau hyn a'r ffurflen gais ar-lein ar gael yn Ydych chi'n gymwys ar gyfer Pasbort i Hamdden?.

Cyfrifoldeb ymgeiswyr (neu riant/gwarcheidwad) yw sicrhau eu bod yn gymwys i ymgeisio am Basbort i Hamdden cyn llenwi ac anfon y ffurflen a gwneud taliad. Mae'r taliad yn ffi gweinyddu'r cais ac ni chaiff ei ad-dalu, pa un ai a roddir cerdyn Pasbort i Hamdden neu beidio.

Ar ôl gwirio cais yr ymgeisydd a chadarnhau ei fod yn gymwys i ymaelodi â'r cynllun, bydd cerdyn yn cael ei anfon ato drwy'r post. Pan fydd yr ymgeisydd wedi cael y cerdyn hwn (cyn pen 10 diwrnod gwaith fel arfer), bydd yn gallu elwa o'r cynllun (h.y. cael cyfradd ratach).

Mae aelodaeth o'r cynllun Pasbort i Hamdden yn ddilys am 12 mis o'r dyddiad y caiff ei rhoi, ac mae'n dod i ben ar y dyddiad a ddangosir ar y cerdyn. Pythefnos cyn y dyddiad pan ddaw'r aelodaeth i ben, ac nid yn gynt, y gellir gwneud cais i ymaelodi â'r cynllun eto.

Bydd cyflwyno cais yn gyfystyr a chysyniad gan bob ymgeisydd (neu riant/gwarchedwad ymgeisydd) y gellir gwirio ffynonellau data sydd gan Gyngor Abertawe i gadarnhau cymhwystra ymgeisydd.

Os na cheir ymateb i gais am ragor o wybodaeth i ategu'r cais cyn pen un mis calendr, ystyrir bod y cais yn anghyflawn a chaiff ei ddileu o'r system.

Gellir ychwanegu partner neu blentyn unrhyw bryd tra bod y prif ymgeisydd yn aelod o'r cynllun. Bydd y dyddiad pan ddaw ei aelodaeth i ben yr un peth â'r dyddiad pan ddaw aelodaeth y prif ymgeisydd i ben.

Cyngor Abertawe yw rheolydd y data mewn perthynas a'r wybodaeth bersonol y byddwch chi'n ei nodi ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth i roi mynediad i chi i'r Gwasanaethau Hamdden a Diwylliannol rydych chi wedi gofyn amdanynt ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Mae cyfraith gwarchod data yn disgrifio sail gyfreithlon prosesu eich data gennym ni fel rhywbeth gofynnol i gyflawni cytundeb. Ni wnawn ni rannu eich data ag unrhyw drydydd parti oni bydd y gyfraith ym mynnu ein bod yn gwneud hynny neu'n caniatau i ni wneud hynny.

Mae'r gyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol dros brosesu'ch data fel un sy'n seiliedig ar ganiatâd. I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd Cyngor Abertawe yn defnyddio eich data personol, yn cynnwys eich hawliau fel gwrthrych data, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd corfforaethol Hysbysiad preifatrwydd.

 

Defnyddio'ch cerdyn Pasbort i Hamdden

Dim ond deiliad y cerdyn Pasbort i Hamdden a all ddefnyddio'r cerdyn.

Mae'r cerdyn Pasbort i Hamdden yn caniatau i ddeiliad y cerdyn, y mae ei ffotograff yn ymddangos ynddo, i elwa o fuddion Cynllun Pasbort i Hamdden Cyngor Abertawe, yn unol a'r Telerau ac Amodau defnydd hyn.

Caniateir defnyddio cerdyn Pasbort i Hamdden mewn cyfleusterau sy'n cyfranogi yn y rhaglen - holwch y cyfleusterau unigol i gael manylion.

Bydd yn rhaid dangos cerdyn Pasbort i Hamdden yn swyddfa archebu'r cyfleuster hamdden bob tro y caiff ei ddefnyddio, er mwyn cael disgownt.

Mae cerdyn Pasbort i Hamdden yn caniatau i aelodau archebu un sesiwn arferol ar y tro. Gellir ail-archebu cyfleuster ar ddiwedd sesiwn, os bydd ar gel i'w archebu, a gall yr aelod o'r cynllun Pasbort a neb arall defnyddio'r sesiwn a gaiff ei ail-archebu. Gweithredir trefniadau archebu arferol.

 

Camddefnyddio'r cynllun Pasbort i Hamdden

Os bydd rhywun yn ceisio defnyddio cerdyn Pasbort i Hamdden rhywun arall neu gerdyn sydd wedi dod i ben, caiff y cerdyn hwn ei atafaelu tra cynhelir ymchwiliadau.

Caiff unrhyw un a gaiff ei ddal yn camddefnyddio'r Cynllun mewn unrhyw ffordd ei wahardd yn barhaeol rhag cael cerdyn Pasbort i Hamdden, ac efallai bydd camau ychwanegol yn dilyn hynny gan y Cyngor.

Bydd rhoi gwybodaeth anghywir i geisio twyllo Cyngor Abertwe yn arwain at fforffedu cerdyn Pasbort i Hamdden aelod ac efallai bydd camau ychwanegol yn dilyn hynny gan Gyngor Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe yn cadw'r hawl fel y gwela'n ddoeth i atal unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau hyn, neu sydd ddim yn cydymffurfio a'r holl drefniadau sy'n ymwneud a'r cynllun, rhag cael cerdyn Pasbort i Hamdden a buddion y cynllun.

 

Adnewyddu / cardiau a gollir

I adnewyddu eu haelodaeth, mae angen i aelodau gyflwyno tystiolaeth sy'n dangos eu bod yn gymwys i ymaelodi â'r cynllun. Gallant adnewyddu eu haelodaeth hyd at bythefnos cyn y dyddiad pan ddaw eu cerdyn presennol i ben (y dyddiad a ddangosir ar y cerdyn).

Bydd gwybodaeth yr aelod yn cael ei chadw am 6 mis ar ôl y dyddiad pan ddaeth ei aelodaeth i ben er mwyn ei alluogi i holi ynghylch ei aelodaeth a'i hadnewyddu.

Os bydd deiliad cerdyn Pasbort i Hamdden yn colli neu'n difrodi ei gerdyn, neu os bydd ei gerdyn wedi'i ddwyn, gall wneud cais am gerdyn arall cyn belled â bod ei amgylchiadau yr un peth drwy ffonio'r swyddfa Pasbort i Hamdden a pih@abertawe.gov.uk. Codir ffi ymgeisio am gerdyn arall. Bydd gan y cerdyn newydd yr un dyddiad dod i ben â'r cerdyn gwreiddiol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2024