Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynd i fyw mewn tŷ cyngor

Ar ôl i chi dderbyn eich eiddo a llofnodi'r contract meddiannaeth, byddwch yn barod i fynd i fyw yn yr eiddo ac ymgartrefu yn eich cartref newydd.

 

Rydym wrthi'n diweddaru'n gwedudalennau i adlewyrchu'r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) Llywodraeth Cymru 2016.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y newidiadau, ffoniwch:

 

Dod o hyd i gelfi ar gyfer eich cartref

Efallai eich bod wedi dewis tenantiaeth wedi'i dodrefnu lle rydych yn talu pris wythnosol i rentu celfi gennym. Fodd bynnag, mae'r lleoedd canlynol i gyd yn cynnig celfi a nwyddau cartref ail law cost isel i chi eu prynu:

British Heart Foundation - Siop gelfi a nwyddau trydanol

Amrywiaeth gwych o gelfi ail law o safon, nwyddau trydanol a nwyddau cartref, o soffas, bordydd a chypyrddau dillad i setiau teledu ac offer cartref.

Enfys

Prynu celfi sydd wedi'u hadfer. Gallwch hefyd roi celfi ac eitemau eraill.

Llyfrgell Pethau Abertawe

Gallwch fenthyca eitemau defnyddiol sydd efallai eu hangen arnoch chi ar gyfer ambell dasg yn unig, yn hytrach na phrynu eitem newydd na chaiff ei defnyddio eto. Gall aelodau dalu ffi fach i fenthyca rhywbeth, ei ddefnyddio a'i ddychwelyd pan fyddant wedi gorffen ag e'.

Siop Fawr Ymchwil Canser Abertawe

Cewch hyd i amrywiaeth enfawr o ddillad, ategolion, llyfrau, DVDs a CDs, nwyddau cartref, celfi ac offer trydanol bach yma, a'r cyfan o dan yr un to.

Siopau elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Prynu neu roi celfi, nwyddau cartref, dillad a llawer mwy.

Siopau elusen Barnardo's

Siop sy'n gwerthu nwyddau cartref, eitemau ffasiwn ail law a llawer mwy. Gallwch hefyd roi nwyddau a gwirfoddoli.

Trysorau'r Tip

Mae Siop Trysorau'r Tip yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet ac mae'n cynnig amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys celfi, offer trydanol, nwyddau cartref a dillad.

Y Groes Goch Brydeinig - Siop gelfi a nwyddau trydanol yn Abertawe

Gallwch brynu celfi a nwyddau trydanol ail law neu roi eitemau mewn siop elusen Y Groes Goch yn agos i chi.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Chwefror 2023