Toglo gwelededd dewislen symudol

Cardiau bws consesiynol

Cludiant am ddim ar wasanaethau bysus lleol yng Nghymru ar gyfer y rheini sy'n 60 oed neu'n hŷn a phobl ag anabledd cymwys.

Sut i wneud cais am gerdyn bws consesiynol i bobl 60 oed neu'n hŷn

Rhoddir cardiau bws consesiynol gan Drafnidiaeth Cymru. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o dderbyn eich cerdyn bws yw trwy wneud cais ar-lein trwy eu gwefan. Bydd angen i chi lanlwytho un prawf o'ch dyddiad geni, dau brawf o'ch cyfeiriad, un ffotograff lliw a darparu eich Rhif Yswiriant Gwladol. Ni fyddwch yn gallu cwblhau eich cais os na ddarperir yr wybodaeth hon. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.trc.cymru/cerdynteithio (Yn agor ffenestr newydd) a dilynwch y cyfarwyddiadau syml.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun rydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar eich rhan. Fodd bynnag, os nad yw'r cymorth hwn ar gael i chi, ffoniwch 01792 636377 neu e-bostiwch tocynnaubws@abertawe.gov.uk

Sut i wneud cais am gerdyn bws consesiynol i berson anabl

Dilynwch y cyfarwyddiadau uchod, ond bydd angen i chi lanlwytho un prawf o'ch anabledd. I gael rhagor o wybodaeth am ba brawf o'ch anabledd y gallwch ei lanlwytho, ewch i www.trc.cymru/cerdynteithio (Yn agor ffenestr newydd) fel y nodir uchod.

Sut i wneud cais am gerdyn bws consesiynol i berson anabl gyda chydymaith

Os ydych chi'n gymwys am gerdyn bws consesiynol ond nad ydych yn gallu teithio ar fws heb gymorth gan berson arall, gallwch fod yn gymwys i gael eich asesu am gerdyn bws consesiynol i berson anabl gyda chydymaith.

Gallwch fod yn gymwys os oes gennych un o'r canlynol:

  1. Ymddygiad heriol, ac y mae angen eich goruchwylio drwy'r amser
  2. Namau gwybyddol a meddyliol dwys (gan gynnwys pobl nad oes ganddynt ymwybyddiaeth o risg a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith)
  3. Cyfuniad o naill ai colli golwg neu glyw sy'n atal symudedd annibynnol neu golli golwg a lleferydd sy'n atal symudedd annibynnol
  4. Anhawster defnyddio cadair olwyn yn annibynnol.

Bydd angen i ni eich asesu trwy weithiwr proffesiynol meddygol i fod yn sicr eich bod chi'n gymwys ar gyfer cerdyn bws cydymaith.

Cardiau bws sydd ar goll, wedi'u dwyn neu wedi'u difrodi

Os yw eich cerdyn bws ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi bydd angen i chi gysylltu â Thrafnidiaeth Cymru www.trc.cymru/cerdynteithio (Yn agor ffenestr newydd) neu ffoniwch nhw ar 0300 303 4240

 

Teithio am bris gostyngol i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yng Nghymru

Os ydych rhwng 16 a 21 oed, gallwch gael 1/3 oddi ar brisiau teithiau bws gyda fyngherdynteithio. Mae'r cerdyn am ddim. Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod sut i wneud cais amdano, ewch i wefan fyngherdynteithio (Yn agor ffenestr newydd)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2025