Toglo gwelededd dewislen symudol

Tocyn tymor meysydd parcio

Gwybodaeth am sut i brynu tocyn tymor ar gyfer maes parcio.

I wneud eich cais, dewiswch leoliad a/neu fath o hawlen. Ar ôl i chi ddewis, bydd opsiynau pellach er mwyn i chi gwblhau'ch cais.

Dim ond faniau a cheir y mae'r pellter rhwng yr echelau'n safonol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer tocyn tymor (uchafswm o 3.3 metr o hyd). Ni chaiff faniau y mae'r pellter rhwng yr echelau'n hir eu derbyn.

Prynu tocyn tymor rhithwir ar gyfer maes parcio (MiPermit) Prynu tocyn tymor rhithwir ar gyfer maes parcio (MiPermit)

Rhaid i chi dalu am eich tocyn tymor ar yr un pryd ag yr ydych yn cyflwyno'r cais gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd. Bydd yr arian yn cael ei gymeradwyo ymlaen llaw a dim ond ar ôl i'r tocyn tymor gael ei gymeradwyo y bydd yn cael ei gymryd.

Ffïoedd
Meysydd Parcio Canol y DdinasMeysydd Parcio y tu allan i Ganol Dinas Abertawe
1 mis£851 mis £75
3 mis£2503 mis£190
6 mis£5006 mis£375
12 mis£83012 mis£625

 

Hawlenni parcio corfforaethol

Mae gennym nifer cyfyngedig o hawlenni parcio corfforaethol ar gael i fusnesau yng nghanol y ddinas. Mae'r gyfradd ostyngol hon ar gyfer:

  • os caiff 10 hawlen neu fwy eu prynu, neu
  • os yw'r busnes yn aelod o BID Abertawe

Prynu tocyn tymor rhithwir ar gyfer maes parcio - corfforaethol (MiPermit) Prynu tocyn tymor rhithwir ar gyfer maes parcio - corfforaethol (MiPermit)

Ffioedd hawlen gorfforaethol
 Maes parcio aml-lawr y Stryd FawrY Strand, Stryd Paxton, Maes parcio aml-lawr Dewi Sant, Heol Trawler
1 mis£50£55
3 mis£125£135
6 mis£250£275
12 mis£465£495

 

Ad-daliadau

Mae'r tocyn tymor yn ad-daladwy, ond mewn achosion lle caiff ei ganslo cyn y dyddiad dod i ben, bydd yr ad-daliad yn seiliedig ar nifer y misoedd llawn sydd ar ôl ar yr hawlen.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch meysydd.parcio@abertawe.gov.uk.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Mehefin 2024