Meysydd parcio
Manylion am ein holl feysydd parcio yn Abertawe a'r cyffiniau, gan gynnwys mapiau, taliadau a sut i brynu tocyn tymor.
Mae nifer o feysydd parcio canol y ddinas a Pharcio a Theithio wedi ennill gwobr Park Mark® Safer Parking. Golyga'r wobr fod yr heddlu wedi archwilio'r maes parcio, ac mae'n cynnwys mesurau i wneud yr amgylchedd yn fwy diogel i chi a'ch cerbyd.
Gall beiciau modur barcio am ddim mewn mannau parcio beiciau modur dynodedig. Fodd bynnag, os ydynt yn parcio mewn cilfach barcio maint llawn, rhaid i'r perchennog brynu tocyn talu ac arddangos drwy'r ap MiPermit.