Toglo gwelededd dewislen symudol

Treial torri a chasglu - yn hybu bioamrywiaeth

Rydym yn brwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur gyda chyfarpar newydd.

Cut and collect tractor equipment.

Cut and collect tractor equipment.
Efallai eich bod wedi gweld peiriannau newydd yn torri'r gwair yn ddiweddar. Mae'r cyfarpar 'torri a chasglu' hyn yn hanfodol i hybu blodau gwyllt a pheillwyr, a fydd yn eu tro'n darparu tirwedd hardd i wella lles pawb. Rhaid cofio am y 'gwasanaeth ecosystem' sy'n arafu dŵr glaw gan felly helpu gydag amddiffyn rhag llifogydd a thynnu llygryddion o'r aer.

Roeddwn i'n meddwl bod angen i ni beidio â thorri'r gwair er mwyn helpu natur?

Mae cael gwared ar wair ar yr adeg iawn yn chwarae rôl hanfodol mewn cynnal llystyfiant sy'n llawn rhywogaethau mewn parciau ac ar ymylon ffyrdd, gan atal twf planhigion grymus sy'n gorchuddio'u cymdogion a helpu i leihau lefelau'r maetholion yn y pridd. Mae hefyd yn cael gwared ar y llystyfiant marw, gan roi pridd isod yn y golau a rhoi lle i hadau egino.

Torri llai a thorri'n hwyrach

Mae canllawiau diweddaraf Plantlife yn argymell rhaglen rheoli dau doriad, sy'n caniatáu i flodau gwblhau eu cylch bywyd llawn yn hytrach na chael eu torri ar eu hanterth, cyn iddynt allu hadu. Bydd yr ymagwedd dau doriad llai a hwyrach yn ail-lenwi'r banc hadau, yn adfer amrywiaeth y blodau ac yn darparu cynefin peillydd ar draws y sir. Argymhellwyd i ni dorri'r gwair ar ambell un o'n safleoedd dair gwaith y flwyddyn, gyda'r toriad ychwanegol yng nghanol mis Gorffennaf. Diben hyn yw lleihau cryfder y tyfiant gwair a chynyddu nifer y blodau gwyllt a fydd ar gael yn y tymor hwy.

Cut and collect - wildflowers.
Mae'n rhaid i ni gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cadernid ecosystemau o dan ein cynllun corfforaethol ac Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd - Dyletswydd Bioamrywiaeth. Mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol â Nod Cymru Gydnerth yn Neddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, gyda bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer cynyddu ein gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddom argyfwng hinsawdd yn 2019 ac Argyfwng Natur ym mis Tachwedd 2021: www.abertawe.gov.uk/newidynyrhinsawdd

Ariannwyd y gwasanaeth hwn yn rhannol drwy grantiau Llywodraeth Cymru.

Welsh Government logo.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2022