Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau torri gwair i denantiaid

Mae help ar gael i dorri gwair a pherthi os na allwch wneud hynny eich hun ac os nad oes gennych unrhyw un i wneud hynny i chi.

Rhoddir blaenoriaeth i dorri gwair yn ystod cyfnod yr haf. Caiff perthi eu hasesu ac oni bai fod perth yn gorgyffwrdd â mynediad, ni chaff ei thorri tan fisoedd y gaeaf.

Bydd ein tîm yn trefnu apwyntiadau torri gwair gan ddibynnu ar y lleoliad lle maent yn gweithio - ni roddir blaenoriaeth i denantiaid yn seiliedig ar bryd y gwnaethant gais neu eu hamgylchiadau personol.

Pwy sy'n gallu gwneud cais am help?

  • tenantiaid 70 oed ac yn hŷn heb deulu ar yr aelwyd neu sy'n byw gerllaw a allai gynorthwyo
  • tenantiaid ag anabledd sy'n golygu na allant dorri eu gwair eu hunain ac nid oes ganddynt deulu sy'n byw yn lleol a allai helpu

Disgwylir i denantiaid ddilysu eu hanabledd er enghraifft drwy lythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Sut i wneud cais?

Gallwch wneud cais yn eich swyddfa dai ardal leol. Bydd eich swyddog cymdogaeth yn dilysu'ch gwybodaeth cyn anfon y cais at y cydlynwyr gofalu.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Medi 2021