Strategaeth Trechu Tlodi: dweud eich dweud
Mae ein strategaeth ddiwygiedig ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â thlodi yn Abertawe, y themâu a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein gwaith a'r egwyddorion ar gyfer sut y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid, ein pobl a'n cymunedau i wneud hyn.
Cliciwch yma i rannu eich barn ar-lein gyda ni
Dyddiad cau: 11.59pm nos Sul 16 Tachwedd 2025.
Os bydd angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall, fel print bras, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk
Strategaeth Trechu Tlodi 2025-2030
Mae tlodi'n her fyd-eang gymhleth sy'n effeithio ar y gymdeithas gyfan. Yn Abertawe, rydym yn pennu cyfeiriad strategol ar gyfer trechu tlodi sy'n anelu at ddod â phawb at ei gilydd i rannu'r un diben ac ymrwymiad.
Addaswyd diwethaf ar 17 Hydref 2025