Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadaeth Ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbennig yn Abertawe - Hysbysiad o benderfyniad

Hysbysiad o benderfyniad - model newydd arfaethedig ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe.

Annwyl Ymgynghorai

Mewn perthynas â gohebiaeth flaenorol, ac yn dilyn cyfnod o hysbysiad statudol, cafodd y cynnig i ail-ddynodi 25 Cyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA), newid arbenigedd 3 CAA, ehangu 4 CAA presennol a chau 5 CAA yn Abertawe ei gymeradwyo gan y Cabinet  ar 20 Mawrth 2025. Caiff hyn ei roi ar waith fesul cam o fis Medi 2025.

Mae'r rheswm dros y penderfyniad wedi'i amlinellu fel a ganlyn:  

  • mae'n gwella ansawdd a safonau addysg;
  • mae'n cefnogi'r galw a ragwelir am leoedd ar gyfer y rheini ag anghenion cymhleth;
  • mae'n darparu darpariaeth gost-effeithiol;
  • mae'n gwella hygyrchedd ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr agenda gydraddoldeb ar gyfer ein disgyblion mwyaf agored i niwed;
  • mae'n cynnig effaith gadarnhaol ar yr holl wasanaethau eraill a ddarperir yn yr ardal ar gyfer disgyblion ag anableddau ac/neu anghenion dysgu ychwanegol; ac
  • ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau ac mae proses y cynnig wedi'i chynnal yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion

Ceir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r cynnig hwn yn: Trefniadaeth Ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbennig yn Abertawe

Yn gywir
Helen Morgan-Rees
Cyfarwyddwr Addysg

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mawrth 2025