Trefniadaeth Ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbennig yn Abertawe
Mae Cyngor Abertawe yn ymgynghori ar y cynnig trefniadaeth ysgolion canlynol.
Adolygiad o Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe i sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol na ellir eu diwallu mewn ysgolion prif ffrwd, ac y mae angen Cyfleuster Addysgu Arbenigol arnynt, yn gallu cael mynediad at gefnogaeth leol a hyblyg i ddiwallu eu hanghenion.
Yn benodol, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:
- Ailddynodi 25 o Gyfleusterau Addysgu Arbenigol
- Yn newid arbenigeddau 3 CAA
- Agor 5 Cyfleuster Addysgu Arbenigol newydd ac ehangu 4 pellach
- Cau 5 Cyfleuster Addysgu Arbenigol
Bydd y cynigion hyn yn effeithio ar dderbyniadau disgyblion y dyfodol yn unig - bydd lleoliadau presennol disgyblion yn aros fel y maent.
Cliciwch ar y dolenni perthnasol isod i ddarllen y dogfennau ymgynghori a'r wybodaeth gysylltiedig.
Mae'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn bellach wedi dod i ben.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r we-dudalen hon gyda datblygiadau a byddwn yn cyhoeddi adroddiad am yr ymgynghoriad maes o law.