Cwestiynau Cyffredin - Adolygiad o Gyfleuster Addysgu Arbennig
Pam mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud?
Mae arnom angen mwy o leoedd ar gyfer disgyblion mewn Cyfleusterau Addysgu Arbennig, ac mae angen i'r lleoedd hyn fod ar gael yn yr ardaloedd iawn. Cydnabyddir hefyd fod twf yn nifer y disgyblion niwroamrywiol ac rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r galw cynyddol hwn drwy ail-ddylunio rhai o'r Cyfleusterau Addysgu Arbennig (CAA) cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag agor dosbarthiadau CAA newydd.
Pryd bydd hyn yn digwydd?
Rydym yn ymgynghori ar y cynnig hwn rhwng 5 Medi 2024 ac 17 Hydref 2024 ac os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith fesul cam rhwng 31 Awst 2025 a mis Medi 2029. Gallwch weld yr wybodaeth lawn am bob ysgol yr effeithir arni a'r dyddiad gweithredu yn Atodiad A.
Sut bydd hyn o fudd i ddisgyblion?
Mae'r rhestr lawn o fuddion i'w gweld yn y papur ymgynghori, ond y prif fuddion yn gyffredinol yw y bydd cynnydd yn nifer y lleoedd sydd ar gael mewn CAAau a bydd mwy o leoedd ar gael yn lleol i ddisgyblion yn y dyfodol, sy'n golygu na fydd yn rhaid i ddisgyblion deithio mor bell i fynychu CAA sy'n diwallu eu hanghenion. Bydd yr ailddynodiadau/newid mewn arbenigaethau yn golygu bod y ddarpariaeth yn fwy addas, ac mewn rhai achosion bydd llai o angen am ddiagnosis.
A fydd hyn yn effeithio ar ddisgyblion sydd mewn CAAau ar hyn o bryd?
Na fydd - bydd y cynigion hyn yn effeithio ar dderbyniadau disgyblion yn y dyfodol yn unig - bydd lleoliadau presennol disgyblion yn aros fel y maent.
Sut yr ymgynghorir â'r disgyblion?
Bydd athrawon y CAAau yn helpu i esbonio'r cynnig i ddisgyblion, a chynhelir cyfarfod gyda chynghorau ysgol yr ysgolion hynny y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt fwyaf. Mae fersiwn 'hawdd ei darllen' o'r ddogfen ymgynghori ar gael i ddisgyblion. Gall disgyblion ymateb gan ddefnyddio'r papur ymgynghori, drwy gwblhau'r arolwg ar-lein neu drwy roi gwybod i'w hathrawon dosbarth neu gynrychiolydd o'r cyngor am eu barn. Gallant hefyd ysgrifennu llythyr, llunio e-bost neu anfon fideo BSL atom. Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw ffurf gan ddisgyblion.
A fydd staff yn derbyn hyfforddiant?
Byddant - cynigir hyfforddiant i staff gan yr awdurdod lleol lle bo angen. Mae gan yr awdurdod lleol ddewislen hyfforddiant helaeth a gall gynnig cefnogaeth bwrpasol i ysgolion er mwyn hyfforddi staff newydd a gwella sgiliau staff presennol lle bo angen. Rydym yn disgwyl i hyfforddiant o safon uchel barhau.
Sut gallaf fynegi fy marn?
Mae'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn bellach wedi dod i ben.