Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbennig yn Abertawe - papur ymgynghori â disgyblion
Beth yw dy farn? Os wyt ti'n cael trafferth wrth ddeall y ddogfen hon, gofynna i dy athro am gymorth.
1. Cyflwyniad
Mae pob plentyn yn wahanol ac yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r rhan fwyaf o blant yn mynd i'w hysgol leol, a bydd yr athro yn cefnogi amrywiaeth o anghenion dysgu yn y dosbarth hwn. Gelwir hyn yn ysgol brif ffrwd.
Mae gan rai plant anghenion dysgu gwahanol, ac yn hytrach na mynychu dosbarth prif ffrwd, mae angen dosbarth gwahanol arnynt er mwyn iddynt allu mwynhau'r ysgol a dysgu mewn ffordd sy'n addas iddynt. Gelwir y rhain yn Gyfleusterau Addysgu Arbenigol.
Mae gan y cyfleusterau hyn ddosbarthiadau llai ac athrawon arbennig sydd wedi'u hyfforddi i helpu plant ag amrywiaeth o anghenion dysgu. Nid oes gan bob ysgol un o'r dosbarthiadau hyn. Os nad oes gan ysgol un o'r dosbarthiadau hyn, mae ganddynt gyfleuster addysgu arbenigol ar gyfer angen penodol. Er enghraifft, mae rhai o'r cyfleusterau hyn ar gyfer plant ag Awtistiaeth, mae rhai ar gyfer plant sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith.
Hoffai Cyngor Abertawe wybod barn disgyblion am ei gynlluniau i wella cyfleusterau addysgu arbenigol yn Abertawe ac mae'r wybodaeth hon yn egluro beth yw'r cynlluniau hyn, a sut gellir mynegi barn. Nid oes unrhyw beth wedi'i benderfynu hyd yn hyn, gan y bydd adborth a syniadau disgyblion yn cael eu hystyried yn ofalus cyn y gwneir penderfyniad terfynol.
2. Beth mae'r Cyngor am ei wneud?
- Ailenwi 25 cyfleuster addysgu arbenigol.
- Agor 5 cyfleuster addysgu arbenigol newydd.
- Gwneud 4 cyfleuster addysgu arbenigol yn fwy i greu dosbarth ychwanegol ym mhob un.
- Cau 5 cyfleuster addysgu arbenigol.
- Yn gyffredinol, bydd hyn yn creu 61 o leoedd ychwanegol.
Os wyt ti mewn dosbarth arbennig nawr, does dim angen i ti boeni gan na fydd unrhyw beth yn newid i ti. Bydd y cynlluniau hyn yn effeithio ar ddisgyblion yn y dyfodol yn unig.
3. Pam mae'r Cyngor am wneud hyn?
- Mae angen i ragor o blant fod mewn cyfleusterau addysgu arbenigol.
- Os oes angen i blant fynychu cyfleuster o'r fath, rydym am iddynt allu gwneud hynny'n agosach i'w cartrefi.
- Mae angen cyfleusterau addysgu arbenigol arnom mewn ysgolion Cymraeg ar gyfer plant sydd am ddysgu yn Gymraeg.
- Felly, yn y dyfodol, ni fyddai angen diagnosis meddygol, o awtistiaeth er enghraifft, ar ddisgyblion bob amser i fynychu dosbarth arbennig.
4.Beth gallai hyn ei olygu?
Rhan 1 - Ailenwi cyfleusterau addysgu arbenigol
Y peth cyntaf y byddwn yn ei wneud, os cytunir arno, yw ailenwi'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau hyn o fis Medi 2025. (Ymhen blwyddyn).
Enw cyfredol | Enw newydd arfaethedig |
---|---|
Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol. Mae'r cyfleusterau hyn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | Anawsterau Dysgu Difrifol. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. |
Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASD). Mae'r cyfleusterau hyn yn helpu plant ag awtistiaeth. | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. |
Iaith a Lleferydd. Mae'r cyfleusterau hyn yn helpu plant sy'n cael anhawster wrth ddeall a defnyddio iaith. | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol ac Iaith a Lleferydd. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant sy'n cael anhawster wrth ddeall a defnyddio iaith ac sy'n cael anhawster gyda chyfathrebu cymdeithasol. |
Hoffem hefyd newid tri chyfleuster o'u harbenigedd presennol i arbenigedd gwahanol i ddiwallu anghenion disgyblion y dyfodol yn well:
Ysgol | Enw ac arbenigedd cyfredol | Enw ac arbenigedd arfaethedig |
---|---|---|
Ysgol Gynradd Cadle | Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol. Mae'r cyfleusterau hyn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. |
Ysgol Gynradd Cwm Glas | Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol. Mae'r cyfleusterau hyn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. |
Ysgol Gyfun yr Esgob Gore | Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol. Mae'r cyfleusterau hyn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. |
Rhan 2a - Agor Cyfleusterau Newydd
Hoffai'r Cyngor agor cyfleusterau addysgu arbenigol newydd yn yr ysgolion canlynol:
Ysgol | Cyfleuster newydd | Faint o blant fydd yn y dosbarth? Gelwir hyn yn nifer y 'lleoedd cynlluniedig' | Dyddiad agor arfaethedig |
---|---|---|---|
Ysgol Gynradd Cadle | Cyfnod Allweddol 1 - Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. | 16 (8 yn y Cyfnod Sylfaen ac 8 yng Nghyfnod Allweddol 2) | Medi 2025 |
Ysgol Gynradd Cwm Glas | Cyfnod Allweddol 1 - Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. | 16 (8 yn y Cyfnod Sylfaen ac 8 yng Nghyfnod Allweddol 2) | Medi 2025 |
Ysgol Gynradd Parkland | Cyfnod Allweddol 1 - Anawsterau Dysgu Difrifol. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | 18 (9 yn y Cyfnod Sylfaen a 9 yng Nghyfnod Allweddol 2) | Medi 2027 |
Ysgol Gynradd Penyrheol | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. | 16 | Medi 2025 |
YGG Bryniago | Anawsterau Dysgu Cyffredinol. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | 16 | Medi 2025 |
Ysgol Gyfun yr Olchfa | Anawsterau Dysgu Difrifol. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | 18 | Medi 2025 |
Ysgol Gyfun Penyrheol | Anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol a Dysgu. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant a allai fod ag Awtistiaeth, ond sy'n cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol. | 16 | Medi 2025 |
YGG Bryn Tawe | Anawsterau Dysgu Cyffredinol. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | 16 | Medi 2028 |
YGG Gŵyr | Anawsterau Dysgu Cyffredinol. Bydd y cyfleuster hwn yn helpu plant ag anawsterau dysgu. | 18 (9 yng Nghyfnod Allweddol 3 a 9 yng Nghyfnod Allweddol 4) | Medi 2025 |
Rhan 2b - Cau rhai cyfleusterau addysg arbenigol
Hoffai'r Cyngor gau'r cyfleusterau canlynol:
Ysgol | Cyfleuster presennol | Faint o blant fydd yn y dosbarth? Gelwir hyn yn nifer y 'lleoedd cynlluniedig' | Dyddiad cau arfaethedig |
---|---|---|---|
Ysgol Gynradd y Crwys | Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol. Bydd y lleoedd yn y cyfleuster hwn yn symud i Ysgol Gynradd Parkland. | 9 | 31 Awst 2028 |
Ysgol Gyradd Grange | Nam Difrifol ar y Clyw. Yn y dyfodol, bydd plant byddar yn cael eu gosod mewn ysgolion prif ffrwd yn bennaf gyda chefnogaeth gan Dîm Addysg y Byddar. Byddant hefyd yn gallu mynd i Ysgol Gynradd Grange i gael cefnogaeth, cwrdd â disgyblion byddar eraill a gwneud ffrindiau. | 7 | 31 Awst 2025 |
Ysgol Gyfun Treforys | Bydd yr Uned Arsylwi (lle arsylwir ar blant am gyfnod o amser) yn cau. Fodd bynnag, bydd cyfleuster Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol yr ysgol yn aros ar agor. | 8 | 31 Awst 205 |
Ysgol Gyfun Gellifedw | Anawsterau Dysgu Cymedrol i Ddifrifol. Bydd disgyblion y dyfodol yn cael eu cefnogi mewn cyfleuster addysgu arbenigol arall, yn agos at eu cartref os yw'n bosib. | 22 | 31 Awst 2029 |
Ysgol Gyfun yr Olchfa | Nam Difrifol ar y Clyw. Yn y dyfodol, bydd plant byddar yn cael eu gosod mewn ysgolion prif ffrwd yn bennaf gyda chefnogaeth gan Dîm Addysg y Byddar. Byddant hefyd yn gallu mynd i Ysgol Gynradd Grange i gwrdd â phobl ifanc eraill o'r gymuned fyddar. | 7 | 31 Awst 2025 |
3. Sut bydd hyn yn effeithio ar y disgyblion?
- Ni fydd y cynigion hyn yn effeithio ar unrhyw ddisgyblion sydd eisoes yn defnyddio'r cyfleusterau hyn - ni fydd unrhyw beth yn newid iddyn nhw.
- Os bydd gan ysgol gyfleuster addysgu arbenigol newydd, bydd disgyblion yn ymuno â'r ysgol pan fydd y dosbarthiadau newydd wedi cael eu sefydlu.
- Bydd llai o amser teithio ar gyfer disgyblion sy'n teithio o'u cartref i'r cyfleusterau hyn yn y dyfodol.
Oeddet ti'n gwybod?
Mae CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) yn gytundeb byd-eang sy'n dweud bod gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau. Dywed Erthygl 12 o CCUHP fod gan blant a phobl ifanc yr hawl i fynegi barn ac i'w llais gael ei glywed pan wneir penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Rydym yn credu y dylai hyn gynnwys penderfyniadau am dy ysgol.
4. Beth sy'n digwydd nesaf?
- Ar hyn o bryd rydym yn casglu barn a sylwadau ar y cynlluniau, ac rydym am glywed beth yw barn disgyblion.
- Bydd Cynghorwyr (sy'n gwneud penderfyniadau pwysig fel rhan o'u swydd) yn cyfarfod ym mis Rhagfyr 2024 i ddarganfod beth ddywedodd pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yna byddant yn penderfynu a fyddant yn symud i gam nesaf y cynllun.
- Os byddant yn penderfynu symud ymlaen, gelwir y cam nesaf yn gyfnod 'Hysbysiad Statudol'. Bydd hysbysiad yn cael ei anfon at dy rieni/ofalwyr a phobl eraill sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Bydd yr hysbysiad yn esbonio cynnwys y cynnig a'r hyn y gall pobl ei wneud os nad ydynt am i'r cynnig gael ei roi ar waith.
- Bydd Cynghorwyr yn cyfarfod eto ar ôl hynny i siarad am yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud am yr hysbysiad ac i benderfynu beth i'w wneud nesaf.
5. Sut gall disgyblion fynegi eu barn ar y syniad?
- Gelli di lenwi'r slip isod a'i roi i dy athro/athrawes.
- Gelli di ysgrifennu i'r Cyngor erbyn 17 Hydref 2024 a mynegi dy farn. Ysgrifenna at:
Helen Morgan-Rees,
Cyfarwyddwr Addysg,
Neuadd y Ddinas,
St Helen's Crescent
Abertwe
SA1 4PE
neu anfona e-bost i trefniadaethysgolion@abertawe.gov.uk
- Bydd dy athrawon yn siarad â thi er mwyn cael gwybod beth yw dy farn a gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennyt a rhoi adborth i'r Cyngor.
Cynhelir cyfarfodydd yn yr ysgolion yr effeithir arnynt fwyaf (lle rydym yn agor cyfleuster newydd sbon neu'n cau cyfleuster), fel y gelli di ddweud wrth gynrychiolydd dosbarth dy gyngor ysgol beth yw dy farn fel y gall ddweud wrthym yn ystod y cyfarfod.
Cyfleusterau Addysgu Arbennig - Hawdd ei ddeall (Word doc, 1 MB)