Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trefniadau derbyn - trosglwyddo yn ystod y flwyddyn 2024 / 2025

Trefniadau derbyn.

Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal.

Derbyn i ysgolion cymunedol - (cynradd ac uwchradd)

Bydd gofyn i rieni/ofalwyr sydd am gael lle mewn ysgol gyflwyno cais am le. Gall rhieni/gofalwyr naill ai wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau os na fydd gwneud hynny'n: 

  • peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau, ac
  • ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, bod yn anghydnaws â'r trefniadau derbyn y cytunwyd arnynt rhwng y Corff Llywodraethu a'r ALl.

(a)  Cyfyngiadau derbyn - ysgolion cymunedol

Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Gwrthodir lle i blentyn ar ôl cyrraedd y nifer derbyn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin).

Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn. Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i ddisgyblion sy'n trosglwyddo o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11.

(b)  Meini prawf gorymgeisio - ysgolion cymunedol

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

  1. Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  3. Plant y mae eu brawd neu eu chwaer yn mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn.*** Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  4. Plant sy'n mynd i ysgol gynradd bartner ddynodedig ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**
  5. Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 4 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

*Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad.  Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn ysgol y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf â lle, os yw'r ysgol honno'nn fwy na 2 filltir o'r cartref ar gyfer ysgol gynradd neu 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor: Cludiant i'r ysgol

Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith.  Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu.  Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu  Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn cyfleuster addysgu arbenigol lleoedd cynlluniedig.

Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol

Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.

(c)  Gweithdrefnau derbyn - ysgolion cymunedol

Gofynnir i rieni / ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio ffurflen cais am dderbyn.

Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig.  Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.

Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant sy'n mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol i dderbyn addysg amser llawn yn yr un ysgol. Bydd angen i rieni/ofalwyr wneud cais am le mewn dosbarth derbyn gyda'r ymgeiswyr eraill ar yr adeg briodol.

Nid yw mynd i'r meithrin mewn unrhyw ysgol yn gwarantu y bydd lle ar gael yn y dosbarth Derbyn.

Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. 

Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol hyd yn oes os ydych yn symud i ddalgylch ysgol.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn.

Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.

Hawl i apelio

Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu'n ysgrifenedig a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr drwy lythyr bod ganddynt hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol (nid oes hawl i apelio ar gyfer y meithrin). Os byddant yn dewis arfer yr hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig. Caiff yr apêl ei ystyried gan Banel Apêl Annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg.

Sylwer:Oherwydd uchafswm statudol maint dosbarthiadau, sef 30, prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall apêl am le mewn dosbarth babanod (Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2) lwyddo. Amlinellir yr amgylchiadau cyfyngedig yn Atodiad C - pwynt C.4 o God Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru - Dogfen Rhif: 007/2013.

Rhestrau aros

Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio.  Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.

Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.

Close Dewis iaith