Trefniadau derbyn uwchradd (Blwyddyn 7) 2024 / 2025
Ceisiadau lleoli cychwynnol, dewis rhieni a throsglwyddo.
Yr Awdurdod Lleol, yr ALl, yw'r awdurdod derbyn ar gyfer holl ysgolion cymunedol (ysgolion a ariennir ac a gynhelir yn llwyr gan yr ALl) yr ardal.
Gwahoddir pob plentyn sydd ar fin trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd i wneud cais am le mewn ysgol a gynhelir gan yr ALl.
Gall rhieni / gofalwyr naill ai wneud cais ar-lein am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Gellir darparu cefnogaeth i rieni y mae angen cymorth arnynt lle y bo angen. Caniateir ceisiadau am le os na fydd hynny'n:
- peryglu darparu addysg effeithlon neu'r defnydd effeithlon o adnoddau, ac
- ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, bod yn anghydnaws â'r trefniadau derbyn y cytunwyd arnynt rhwng y Corff Llywodraethu a'r ALl.
Rhoddir y flaenoriaeth i'r rhieni hynny sy'n cyflwyno cais am le mewn unrhyw ysgol mewn pryd.
(a) Cyfyngiadau derbyn - ysgolion cymunedol
Penderfynir ar argaeledd lleoedd trwy gyfeirio at nifer derbyn yr ysgol. Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn plant hyd at ei Nifer Derbyn ym mlwyddyn y derbyn (h.y. blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd) ac ni ddylid derbyn mwy na'r nifer hwn. Os gwrthodir lle yn yr ysgol, mae'n rhaid rhoi hawl apelio i'r rhieni/gofalwyr hynny.
Mae'r nifer derbyn yn berthnasol i bob grŵp blwyddyn.
(b) Meini prawf gorymgeisio - ysgolion cymunedol
Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:
- Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.
- Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**.
- Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sy'n mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**.
- Plant sy'n mynd i ysgol gynradd bartner ddynodedig ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**.
- Plant eraill nad yw meini prawf 1 i 4 yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**.
*Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.
**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.
***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau / tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)
Ni fydd yr ALl yn darparu cludiant nac yn cyfrannu at gostau cludiant ar gyfer y plant sy'n cael eu derbyn o'r tu allan i ddalgylch penodol yr ysgol. Fodd bynnag, os yw grŵp blwyddyn y dalgylch yn llawn, darperir cludiant i'r ysgol agosaf sydd â lle, os yw'r ysgol honno'n fwy na phellter cerdded o 3 milltir o'r cartref. Mae Polisi Cludiant i'r Ysgol yr ALl a gwybodaeth am gludiant i'r ysgol ar gael ar wefan y cyngor Cludiant i'r ysgol
Plant a chanddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol
Nid yw'r meini prawf gorymgeisio'n berthnasol i ddisgyblion y mae gan yr ALl Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer, lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 o'r CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, ond amddiffynnir hawliau'r rhieni i fod yn rhan o leoli eu plant gan y gyfraith. Bydd yr ALl, mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr ac ysgolion, yn penderfynu ym mha ysgol y bydd yr addysg yn cael ei darparu. Mae'r ALl yn cadw'r hawl i enwi ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch.
Mae gan ysgolion ddyletswydd i dderbyn plant â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU, neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi'u gosod mewn ysgol gan yr ALl ac mae'r disgyblion hyn yn cyfrif tuag at y nifer a dderbynnir hyd at y nifer derbyn, oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn cyfleuster addysgu arbenigol â lleoedd cynlluniedig.
Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei gyhoeddi, ond gellir ei diweddaru yn seiliedig ar gyngor/deddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.
Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol
Yn Abertawe mae gennym ysgolion eglwysig a Gynorthwyir yn Wirfoddol (sef ysgolion Catholig, ac ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru). Penderfynir ar geisiadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol drwy gyfeirio at y meini prawf derbyn a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain.
(c) Gweithdrefnau derbyn - ysgolion cymunedol
Gofynnir i rieni / ofalwyr wneud cais ar-lein am le i'w plentyn yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis ar gyfer lle mewn ysgol arall gan ddefnyddio'r ffurflen cais am dderbyn.
Caniateir ceisiadau am le os oes lleoedd ar gael yn ôl y nifer derbyn cyhoeddedig. Lle mae'r ceisiadau derbyn yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r ALl.
Dylid defnyddio'r prif gyfeiriad preswyl wrth gyflwyno cais. Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sydd â chyfyngiadau ar ddeiliadaeth megis cabanau mewn parciau gwyliau sydd â chyfyngiadau tymhorol ar ddeiliadaeth fel cyfeiriad parhaol.
Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.
Bydd ceisiadau am fynediad i'r grŵp oedran perthnasol (h.y. grŵp oedran y caniateir mynediad i'r ysgol i'r plant fel arfer) a gyflwynir ar y dyddiad cau, sef 24 Tachwedd 2023, neu cyn hynny, yn cael eu prosesu gyda'i gilydd. Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar. Caiff ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu trin fel ceisiadau hwyr.
Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.
Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys sefyll profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, at ddiben asesu gallu neu ddawn.
Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig. Bydd rhieni sydd wedi cyflwyno cais erbyn 24 Tachwedd 2023 yn cael gwybod a ddyrannwyd lle i'w plant erbyn 1 Mawrth 2024.
Dylai rhieni/gofalwyr sy'n byw y tu hwn i Awdurdod Lleol Dinas a Sir Abertawe gyflwyno cais i'w hawdurdod lleol eu hunain (yr awdurdod lleol y maent yn talu treth y cyngor iddo) oherwydd, os bydd yr ysgol/ysgolion y cyflwynwyd cais amdanynt yn Abertawe'n derbyn gormod o geisiadau, ni fydd rhaid i'r ALl gynnig lle ar gyfer ysgol arall yn Abertawe.
Ceisiadau hwyr
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr ar gyfer ysgol na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r meini prawf gorymgeisio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon.
Tynnu lle yn ôl
Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
Hawl i apelio
Caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu, yn ysgrifenedig, a fu eu cais yn llwyddiannus. Os gwrthodwyd eu cais, hysbysir rhieni/gofalwyr yn ysgrifenedig bod ganddynt hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Os byddant yn dewis defnyddio'r hawl honno, rhaid cyflwyno'r apêl i'r Uned Cefnogi Ysgolion yn y Ganolfan Ddinesig erbyn 28 Mawrth 2024 (ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon).Caiff yr apêl ei hystyried gan banel apêl annibynnol sy'n cynnwys 3 i 5 person, sef pobl leyg a phobl â phrofiad o faes addysg.
Rhestrau Aros
Mae'r ALl, fel yr awdurdod derbyn, yn cynnal rhestrau aros ar gyfer ysgolion sydd wedi'u gordanysgrifio. Yn achos pob cais, os yw rhieni/gofalwyr yn methu cael lle i'w plentyn/plant, cânt eu rhoi'n awtomatig ar y rhestr aros a chynigir cyfle iddynt fynd o flaen Panel Apeliadau Annibynnol. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Os daw lle ar gael, caiff ei ddyrannu gan yr ALl yn unol â'r meini prawf gordanysgrifio.
Ni fydd rhaid i'r ALl gydymffurfio ag unrhyw ddewis a fynegwyd fel arall ond yn unol â'i drefniadau'n unig.